Bwlch Nant yr Arian 19 Hydref 2016
Roeddwn i wedi bod ym Mwlch Nant yr Arian o’r
blaen ac mae o’n lle hudolus. Rhag ofn na fuoch chi yno, mae o ar yr A44
ychydig i gyfeiriad Aberystwyth o Bonterwyd. Ond roedd ‘na rywbeth ychydig yn
wahanol am y lle y tro hwn; roedd o’n fwy agored rywsut ac mi wyddwn i pam -
roedd ‘na nifer o goed llarwydd wedi eu cwympo yno.
Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian ar
lan llyn ac mae ‘na gaffi braf iawn yno lle medrwch edrych dros y llyn wrth
gael eich paned. Mae’r ganolfan yn un o’r rhai sy’n bwydo’r barcud coch ac
felly mae cyfle i’w gweld yn bwydo bob pnawn. Fel mae’n digwydd, roedd un yn
hofran uwchben wrth i mi gyrraedd; mae o’n aderyn trawiadol ac yn un rydan ni
bellach yn ei gymryd yn ganiataol yng Nghymru.
Mae ‘na bwyslais ar weithgareddau
awyr agored ym Mwlch Nant yr Arian ac mae pobl yn tyrru yma i feicio mynydd,
rhedeg a cherdded. Mae’r ardal hon yn goedwig sy’n gorchuddio tua 35,000 o
erwau yng ngorllewin Powys a Cheredigion ac mae yng ngofal Cyfoeth Naturiol
Cymru. Mi ges i gwmni Gareth Owen, rheolwr y Ganolfan a Greg Jones sy’n Gynlluniwr
Coedwigoedd ar y safle ac mi eglurodd Greg eu bod wedi gorfod llwyr gwympo
rhannau helaeth o goed llarwydd yma oherwydd Phytophthora ramorum, sef y ffwng sy’n effeithio ar goed llarwydd.
Roedd y Phytophthora wedi ei
ddarganfod mewn un lle yn 2012 ar safle fymryn i’r de o’r Ganolfan ac roedd y
cwestiwn yn codi wedyn o sut y dylid ei reoli. A ddylid cwympo'r ychydig goed
oedd wedi eu heffeithio yn unig neu a ddylid llwyr gwympo er mwyn sicrhau nad
oedd haint y llarwydd yn dychwelyd? Penderfynu clirio’r cyfan wnaed yma er mwyn
ceisio sicrhau na fydd yr haint yn dychwelyd. A dyna pam roeddwn i wedi sylwi
ar ddarnau agored o amgylch y llyn – roedd hwn hefyd yn ddarn ble roedd y
llarwydd wedi eu llwyr gwympo.
Y cwestiwn roeddwn i isio ateb iddo, oedd sut
maen nhw’n darganfod yr haint. Mae’r llarwydden yn goeden gonifferaidd sy’n
bwrw ei nodwyddau dros y gaeaf a hon ydi’r goeden sy’n rhoi’r lliw aur hyfryd
mewn clytwaith o goed coniffer yr adeg hon o’r flwyddyn. Yn y gwanwyn mae
nodwyddau ifanc ir, gwyrdd golau i’w gweld arni. I ganfod os oes haint ai
peidio maen nhw’n edrych ar y coed yn y gwanwyn. Os ydi’r nodwyddau’n dechrau
troi’n frown yn y gwanwyn, yna mae angen cymryd golwg eto. Gan fod erwau o goed
i gadw llygad arnyn nhw, yr hyn sy’n digwydd ydi hedfan uwch eu pen mewn awyren
gan chwilio am y rhai sy’n newid eu lliw yn y gwanwyn.
Unwaith maen nhw’n sylweddoli fod problem
gyda’r coed llarwydd, yna maen nhw’n cymryd samplau ac yn anfon darnau o’r
canghennau a’r nodwyddau i labordy i wneud profion arnyn nhw. Mae sborau Phytophthora
yn cael eu cario yn yr awyr gan y gwynt, ar ddillad, gan anifeiliaid, ar
beiriannau, ar feiciau, ar esgidiau a gan gerddwyr. Fe eglurodd Gareth mai dyma
pam mae cymaint o bwyslais ar lendid mewn safleoedd fel Bwlch Nant yr Arian.
Maen nhw’n gofyn i bawb sy’n ymweld â choedwigoedd i sicrhau fod ceir, beiciau
ac esgidiau yn lân – yn arbennig felly os ydych chi’n rhywun sy’n ymweld â
nifer o safleoedd tebyg - er mwyn ceisio atal y ffwng rhag lledaenu o un safle
i’r llall.
Mae rhai o’r rhannau a gafodd eu clirio yma wedi
eu plannu gyda tua 12,000 o goed brodorol – rhai fel y dderwen, masarnen fach,
bedwen, y ddraenen wen, y ddraenen ddu a’r geiriosen ddu. Y gobaith drwy wneud
hyn ydi y bydd modd osgoi llwyr gwympo a ffwng y llarwydd yn y dyfodol ac y
bydd cyfle i fwynhau gogoniant y safle hon drwy’r coed brodorol.
No comments:
Post a Comment