Glas ym Myd Natur
Mae’n rhyfedd meddwl, ond does ‘na ddim
cymaint â chymaint o las ym myd natur. Wel, ‘blaw am yr awyr a’r môr wrth gwrs
ond mae’n debyg mai adlewyrchiad ydi hynny o sut rydan ni’n gweld pethau ac nid
lliw glas ei hun.
Mi wn ein bod yn dweud fod ‘y ddaear yn
glasu’ ac mae o’n ddywediad hyfryd, ond gwyrdd ydan ni’n ei feddwl mewn
gwirionedd ynte? Mae ‘na flodau glas ond ychydig ydyn nhw o’u cymharu â blodau
eraill fel melyn a choch.
Un blodyn dwi’n arbennig o hoff o’i weld yn
gynnar yn y gwanwyn ydi llygad doli (Veronica
chaemaedrys; Germander speedwell).
Nad fi’n angof ydi un arall ac mae
clychau’r gog ne bwtsias y gog yn ffefryn hefyd – “yr hen lesmeiriol baent”
chwedl R. Williams Parry.
Ond wedi dweud hynny, ‘blaw am ambell i
blanhigyn fel y clefryn a thamaid y cythraul, a’r planhigyn godidog hwnnw,
celyn y môr,
‘chydig ar y naw o flodau glas sy ‘na ac eithrio blodau gardd, ac
mae ‘na un mynawyd y bugail sydd â lliw glas gogoneddus arno.
Un planhigyn sydd â blodau glas golau godidog
ydi had llin. A phan rydach chi’n edrych ar gae o flodau had llin o bell, maen
edrych yn union fel llyn glas. Ond byr hoedlog iawn ydi’r petalau ac fel arfer
maen nhw’n disgyn ar ôl ryw ddiwrnod. Mae planhigion ar y cyfan angen amodau alcali
er mwyn medru cynhyrchu’r lliw glas, ac yn amlach na pheidio, mymryn yn asidig
ydi planhigion.
Ac mae ‘na lai fyth o drychfilod, adar ac
anifeiliaid sy’n las. Wel heblaw am adar fel glas y dorlan a ffrwythau fatha
llus ag ati.
Tan tua 600 miliwn o flynyddoedd yn
ôl doedd o ddim llawer o wahaniaeth pa liw oedd pethau i drigolion y ddaear am
nad oedd llygaid gan unrhyw un. Mae 600
miliwn o flynyddoedd yn dipyn o amser a’r adeg hynny, medda nhw – y gwybodusion
hynny ydi – roedd ‘na anifeiliaid syml oedd yn gwneud dim byd ond nofio o
gwmpas. Roedden nhw’n ymwybodol o olau neu o heulwen, er dwn i ddim sut chwaith,
ond doedd ganddyn nhw ddim yr organau na’r organebau sy’n medru amgyffred lliw.
Felly cyn i’r llygad esblygu,
doeddan nhw ddim yn medru gweld be oedd ‘na heb sôn am weld mewn lliw. Roedd yr
anifail cyntaf wnaeth esblygu dull o weld, hefo mantais aruthrol dros y lleill,
ac yn fuan iawn wedyn fe wnaethon nhw ddechrau gweld pethau mewn lliw.
Yn sydyn reit roedd lliw fel arwydd
neon yn deud wrth anifeiliaid – dyma fwyd neis! Ryw arwydd fel Macdonalds bach
cyntefig! Os oeddech chi’n digwydd bod yn llyngyren neu’n fwydyn oedd yn felyn
neu’n goch llachar, yna druan ohonoch, yn sydyn reit - chi oedd cinio nesa’r
anifail mawr.
Yn raddol fach, felly, roedd
gwahanol liwiau’n esblygu ym myd natur, ond nid bob lliw. Mae brown a llwyd yn
weddol gyffredin ym myd yr anifeiliaid ac mae digon o wyrdd gan blanhigion, ond
mae glas yn lliw sy’n eithriadol o anodd i’w greu.
Dydi’r ‘nhw’ holl wybodus ddim yn
hollol siŵr pam. Mi all anifeiliaid wneud melyn a choch o’r pigmentau maen
nhw’n ei fwyta yn eu bwyd, ond mae glas yn anodd iawn i anifeiliaid ei greu – a
dyna, mae’n siŵr gen i, pam fod cyn lleied o anifeiliaid glas.
A chyn i chi ddechrau enwi adar fel
y crëyr glas, wel llwyd ydi hwnnw ynte? Maen rhyfeddol nad oes pigment neu liw
glas mewn unrhyw aderyn, dim hyd yn oed y glas gwych sydd ym mhlu’r paen. Adlewyrchu
golau maen nhw.
Ydi, mae’n od meddwl nad oes ‘na ddim cymaint
â hynny o las ym myd natur ar waetha’r ffaith fod y môr a’r awyr yn las, ond
wedyn fasa chi isio bwyta mefus glas?
No comments:
Post a Comment