Ail Natur 119 7
Medi 2016
Mi dderbyniais i un
cerdyn arbennig iawn yn ystod yr haf a llythyr gwerth chweil i gyd-fynd ag o,
ac rydw i wedi cael caniatâd y perchennog i’w rannu gyda chi. Cerdyn gefais i
gan Goronwy Parry o’r Fali ydi o ac mae’r tu blaen yn llun ohono mewn dyfrlliw
gan Philip Snow. Ond nid fo yn unig sydd yn y llun: mae ‘na hefyd ddau gi, cath
a gŵydd a phawb yn mynd am dro ar lannau’r Lasinwen ger ei gartref!
Un ci oedd ganddyn nhw’n
wreiddiol ond wedyn mi ddaeth rhywun â chi bach oedd yn chwilio am gartref i’r
ysgol, ac mi gafodd yntau lety. Y gath ddaeth nesa – dim ond cyrraedd wnaeth hi
ac o fewn dim, roedd wedi cael ei derbyn. Mi fyddai pawb yn mynd am dro, fore a
fin nos, ac yna tua tair blynedd ar ddeg yn ôl ar Ddydd Gŵyl Ddewi, mi ddaeth
Davida atyn nhw – sef yr ŵydd ac mi fyddai hithau hefyd yn cerdded. Ambell
waith byddai elyrch yn canlyn Davida, a thro arall gŵydd Canada neu ŵydd ddu (Brent
goose).
Difyr ynte? Sgwn i oes
gan rhywun arall hanesion tebyg neu luniau efallai o anifeiliaid gwyllt sydd
wedi troi’n gyfeillion dros y blynyddoedd? Os oes, beth am eu rhannu hefo ni?
Diolch yn fawr i Gwyn
Roberts am anfon llun mor dda o’r hebog tramor i ni. Mae hwn yn llawer mwy
cyffredin erbyn heddiw nag roedd yn arfer â bod. Am fod llawer ohonom yn bwydo
adar yn ein gerddi, mae’r rhain fel caffis yn llawn o adar mân ac yn fwyd
blasus i’r hebog tramor.
Un o’r planhigion y
bydda i wrth fy modd yn ei gweld yn yr ardd ydi mantell Fair (Lady’s mantle). Alchemilla mollis ydi’r enw gwyddonol ac
mae’n cael yr enw ‘alcemydd bach’ am fod diferion gloyw o ddŵr sy’n edrych fel
mwclis crisial yn casglu ar ei ddail. Y rheswm fod glaw yn edrych fel hyn ar y
dail ydi nodweddion dad-wlychu sydd gan y dail. Maen debyg fod rhywbeth yn y
dail sy’n gwrthod dŵr ac oherwydd hynny mae haenen denau o aer rhwng y
rhyngwyneb soled a’r hylif. Credai’r alcemyddion mai hwn oedd y ffurf buraf o
ddŵr ac roedden nhw’n defnyddio’r dŵr yma wrth geisio troi metelau yn aur.
Ddechrau’r haf fe wnaeth
Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi rhestr o ddeg uchaf llwybrau cerdded yr haf ac
yn eu plith taith o amgylch Cwm Idwal, Cylchdaith y Ddôl yng ngwarchodfa natur
genedlaethol Cadair Idris a Llwybr Alwen yng Nghoedwig Hiraethog. Ble fyddech
chi’n ei ddewis tybed, petaech chi eisiau rhestru deg taith gerdded ar gyfer yr
hydref? Beth am gychwyn drwy gynnig un?
Mi ges i anffawd yn
ystod mis Awst. Roeddwn i wedi penderfynu y baswn i’n prynu dwy wrn (i fod yn
posh!) er mwyn eu rhoi ar bob pen i wal bach sydd gen i o flaen y tŷ. Iawn,
campus, dim problem hefo hynny ac mi ges y ‘bos’ i fy helpu i’w symud a’u
llenwi hefo compost. Mi es ati fy hun i’w plannu hefo planhigion tlws, melyn a
glas ag wir, roeddwn i’n ffansio fy hun braidd mod i wedi gwneud joban dda. Yn
anffodus roedd y degau o falwod sydd gen i yn yr ardd hefyd o’r un farn ac mi
ddiflannodd hanner y planhigion dros nos.
Dyma geisio adfer y
sefyllfa gan symud planhigion Meri a Mari (Nastursiums) i’r yrnau er mwyn trio
cael y llaw uchaf ar y malwod.
Mi lwyddais i wneud hynny ond yn anffodus
roeddwn wedi anghofio am un lindys bach sydd wrth ei fodd hefo dail Meri a
Mari, sef lindys yr iâr wen fawr neu’r gwyn mawr (Pieris brassicae; Large White neu Cabbage White) ac mi gafon nhw
wledd! Mae’r lindys wrth eu bodd hefo holl deulu’r fresychen ac mae Meri a Mari
yn un ohonyn nhw. Hitiwch befo, o leia mi gai’r pleser o weld yr iâr wen fawr
yn yr ardd!
No comments:
Post a Comment