Wednesday, 21 December 2016


Burton Mere

Ddechrau mis Rhagfyr, mi ges i’r cyfle i fynd draw i warchodfa’r Gymdeithas Gwarchod Adar yn Burton Mere hefo criw Galwad Cynnar. Mae’r warchodfa natur hon ar yr Afon Ddyfrdwy ac yn croesi’r ffin rhwng Sir y Fflint a Swydd Gaer. Rydach chi’n cyrraedd yna o ochr Lloegr ac yn dilyn y ffordd i gyfeiriad pentref bach Burton a dal i ddilyn yr arwyddion nes y dowch chi i’r warchodfa.

Mi ges fy siomi ar yr ochr orau wrth gerdded i lawr tuag at y dderbynfa o weld adeilad mor nobl yno. Rydach chi’n mynd i fewn drwy’r cefn ac mae ffenestri mawr yn eich wynebu sy’n edrych dros y warchodfa ac i gyfeiriad y Ddyfrdwy a Sir y Fflint. Roedd ‘na hefyd stof yn cynhesu’r lle – rhywbeth oedd yn cael ei werthfawrogi’n fawr ar fore oer, ac roedd paned a mins peis yno!

Fe brynodd y Gymdeithas y tir ar lannau’r Ddyfrdwy yn 1986, ac mae’n gymysgedd o wlypdir, coed a chaeau âr. Agorwyd y warchodfa yn 1992 a chreu tri phwll bas a llwybrau yn arwain i’r cuddfannau sy’n edrych dros y pyllau. Ers hynny, prynwyd rhagor o dir ac fe agorwyd y warchodfa fel ag y mae hi heddiw gan Iolo Williams yn 2011.

Inner Marsh Farm ydi’r enw ar y darn yma o dir ac mae’r enw’n dweud y cyfan mewn gwirionedd am y cynefin.  Roedd yn arfer bod yn ddarn mwdlyd lle roedd y llanw’n ei gyrraedd tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd ei adfer wrth adeiladu’r rheilffordd o Wrecsam i Bidston, a defnyddiwyd y tir wedyn i bori, saethu hwyaid a ffermio, gan dyfu cnydau yn bennaf.  


Roedd yn braf cerdded ar hyd y llwybrau ac mae amrywiaeth o rydwyr i’w gweld yma drwy’r gaeaf ac yn ystod y tymhorau mudo. Mae nifer helaeth o’r rhostog gynffonddu (Limosa limosa; black-tailed godwit), y pibydd coesgoch mannog (Tringa erythropus; spotted redshank), y pibydd coeswyrdd (greenshank) a’r pibydd torchog (ruff).

Yn y gaeaf mae llawer o hwyaid i’w gweld yma gan gynnwys yr hwyaden lostfain ((Anas acuta; pintail), yr hwyaden lydanbig (Spatula clypeata; shoveller), y gorhwyaden (teal) a’r chwiwell (widgeon), a niferoedd bach o elyrch Bewick ac elyrch y Gogledd. Uwchben y gors mi fedrwch weld adar ysglyfaethus yn hela gan gynnwys y dylluan glustiog, y boda tinwyn, boda’r gwerni, y cudyll bach, y cudyll coch a’r hebog tramor.


Mae nifer o adar yn nythu yma, rhai fel y gornchwiglen a’r pibydd coesgoch. Mae’r cambig (Recurvirostra avosetta; Avocet) hefyd yn nythu ar y pyllau newydd sydd yma.

Ond yr hyn dynnodd fy sylw i yn anad dim oedd y gwlâu o’r gorsen ysig (Typha latifolia; Reedmace) oedd yn tyfu o boptu’r llwybr ar un rhan o’r warchodfa. Mae ‘na sawl enw Cymraeg ar y gorsen gan gynnwys cynffon y gath, ffon y plant, ffynwewyr ellyllon, hesgen felfedog fwyaf, penmelfed a tapr y dŵr. Mae nifer o’r enwau yn disgrifio pen y planhigyn pan fydd y pen o hadau yn ffurfio ac yn creu pen sy’n debyg i rolbren bach o hadau. Wrth i’r rhain aeddfedu, ac mi gymer tua blwyddyn iddyn nhw wneud hynny, mae’r pen yn datod yn raddol a’r hadau’n cael eu rhyddhau ar y gwynt.


Mi fedrwch chi hefyd fwyta darnau o’r coesau ifanc a’r gwreiddiau ifanc, ir ac mae blas melys arnyn nhw. Mae’r hadau’n fwytadwy ac mae blas fel cnau arnyn nhw, ond mae’n goblyn o job eu tynnu nhw’n rhydd o’r holl flewiach meddal sydd o’u cwmpas nhw! Mae defnydd wedi’i wneud o’r gwreiddiau fel powltris ar gyfer penddyn, llosg a chlwyfau.

Mae mamaliaid fel llygoden bengron y dŵr a llygoden yr ŷd yn cael cartref yma ac ystlum y dŵr (Myotis daubentonii; Daubenton’s bat) sy’n bwydo uwchben y dŵr.

Mi ges i amser gwerth chweil yno, ac rydw i’n edrych ymlaen at gael dod yn ôl yn yr haf tro nesa er mwyn cael gweld rhai o’r blodau sydd â’u cynefin yma.



Darlledir rhaglen Galwad Cynnar o Burton Mere ar Radio Cymru fore Sadwrn, 21ain Ionawr 2017.


Monday, 12 December 2016


Ail Natur 122                                         7 Rhagfyr 2016



Diddorol iawn oedd llythyr John Ellis Jones, Hen Golwyn am y cais i gael gelod yn 1948 ac roedd hanes y defnydd o gelod, Hirundo medicinalis, yn yr erthygl o’r Pharmaceutical Journal 1994 yn ddifyr iawn, iawn. Mi es i chwilio ar y We i weld fedrwn i ddysgu rhywbeth am Biopharm a hyd y medra i weld maen nhw’n dal mewn busnes ac mae’r brif swyddfa yn dal i fod yn ardal Abertawe er fod ganddynt swyddfeydd mewn sawl lle dros y byd erbyn hyn.



Diolch hefyd i Morwenna Williams, Pentraeth am y dywediadau am y tywydd. Tybed sut byddwch chi’n darogan eira? Fydd hi’n Nadolig gwyn eleni?



Diolch yn fawr i Irene Williams, Cerrigceinwen am y llun o’r draenog a welodd yn yr ardd ar 26 Hydref eleni. Roeddech chi’n holi “Oni ddylai fod yn cysgu erbyn hyn?” Dim o anghenraid. Mae draenogod yn gaeafgysgu wrth gwrs, ond os ydi’r tywydd wedi bod yn ddigon cynnes ac fod digon o fwyd o gwmpas, yna mi all fod yn fis Tachwedd arnyn nhw’n mynd i gysgu. Y sbardun iddyn nhw fynd i chwilio am rywle clyd dros y gaeaf ydi’r tymheredd yn gostwng, ond hyd yn oed yng nghanol y gaeaf os cawn ni ambell i ddiwrnod go gynnes, mi allan nhw godi am ychydig a chwilio am fwyd. Dydi draenogod yng Ngogledd yr Affrig (Atelerix algirus)  ddim yn cysgu dros y gaeaf am fod digon o fwyd ar gael yno. Ond yma, ble mae’n oerach ac mae prinder bwyd, mi fydd y draenog yn adeiladu nyth iddo’i hun ac yn gaeafgysgu tan tua mis Ebrill pan fydd y tywydd yn dechrau cynhesu unwaith eto. Yn ystod y cyfnod yma, mi fydd ei dymheredd yn disgyn o 35 gradd Celsius i 15-20 gradd Celsius, ac mi fydd curiad y galon yn disgyn o 250 o guriadau y funud i 10 curiad y funud.

Tybed fyddwch chi’n mentro allan i dynnu lluniau yr adeg hon o’r flwyddyn? Mae’r gwahanol batrymau wneir gan farrug, rhew ac eira ar blanhigion a choed yn gallu bod yn eithriadol o hardd. Os byddwch chi’n tynnu lluniau, beth am eu rhannu â ni?

Mewn blwyddyn heb lawer o oleuni ynddi hi, mi ges i lygedyn bach o obaith yn ddiweddar a hynny gan y Gymdeithas Gwarchod Adar yng Nghymru. O’r diwedd, ar ôl blynyddoedd o waith cadwriaethol caled, cyhoeddodd y Gymdeithas bod aderyn y bwn (Botaurus stellaris; Bittern) wedi nythu ar Gors Ddyga neu Gors Malltraeth ym Môn yn ystod yr haf diwethaf - y tro cyntaf yng Nghymru mewn 32 o flynyddoedd.

Dydi’r aderyn yma ddim yn hawdd ei weld ac er ei fod o wedi bod ar Gors Ddyga ers rhai blynyddoedd, eleni mae o wedi magu. Mae’r ffordd mae’r gors yn cael ei rheoli yn golygu fod y cynefin yma nid yn unig yn dda ar gyfer aderyn y bwn ond hefyd ar gyfer nifer o rywogaethau bregus fel llygod y dŵr, telor y gwair a dyfrgwn, ac unwaith eto, mae’r rhain yn ffynnu yma hefyd.

Mae’n anodd gweld aderyn y bwn yn symud yn dawel drwy’r hesg ar lan y dŵr yn chwilio am bysgod. Fodd bynnag, yn y gwanwyn mae'r gwrywod yn enwog am eu sŵn uchel wrth iddynt ddenu cymar.



Gan fod yr aderyn yn un mor anodd ei weld bu’n rhaid i swyddogion y Gymdeithas Gwarchod Adar fod allan yn gynnar yn y bore ac yn hwyr gyda’r nos i geisio cadarnhau fod yr aderyn yn nythu yno. Mae aderyn y bwn yn hoff iawn o amgylchedd tawel a llonydd wrth fridio, ac felly roedd Cors Ddyga yn cynnig cynefin sydd bron yn berffaith iddo.



Gobeithio’n fawr y bydd yn para i nythu ar y gors am flynyddoedd i ddod.











Bywyd gwyllt y traeth yn y gaeaf                                                         30ain Tachwedd 2016

Bore gwyntog iawn oedd hi ar y traeth ym Mhorth Trecastell ond roedd hi’n llawer tawelach nag roedd hi wedi bod ynghanol Storm Angus y diwrnod cynt! Roedd y gwylanod yn methu’n glir â glanio a’r moresg ar fin y traeth yn cael eu chwalu i bob cyfeiriad gan y gwynt. Yn union ar ôl storm ydi’r amser gorau i ddŵad i’r traeth i weld be sy wedi cael ei olchi i’r lan gan ryferthwy’r gwynt a’r tonnau.


Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael cwmni Nia Jones o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ar y traeth. Mae Nia’n gweithio fel swyddog morol i’r Ymddiriedolaeth ac wedi hen arfer â bywyd y traeth. Yn ystod yr haf, mi fydd yr Ymddiriedolaeth yn aml yn codi pabell ar lan y môr ac yn gwahodd pobl a phlant sydd ar y traeth i ddod gyda nhw i chwilio a gweld y gwahanol bethau sydd i’w canfod pan fo’r môr ar drai.

Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn trefnu nifer o ddigwyddiadau a theithiau, ar ddydd Sadwrn fel rheol, i wahanol draethau yng ngogledd Cymru ac mi fedrwch gael rhagor o fanylion ar eu gwefan(www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy ). Mi fydd Nia yn rhannu cardiau adnabod i bawb sy’n ymuno yn y gweithgaredd sy’n dangos lluniau o’r gwahanol rywogaethau mae modd eu gweld ar y traeth yn ystod y pedwar tymor. Un o’r rhywogaethau rydach chi’n debyg o’u gweld yn ystod y gaeaf ydi’r bioden fôr (Haematopus ostralegus; Oystercatcher) ac mi fedra i dystio fod hyn yn wir, ac oedd roedd hi yna a’i chri ddolefus ar y traeth.

Prosiect Cymru Tanddwr ydi’r prosiect gan yr Ymddiriedolaeth a hyd yn oed os nad oes neb hefo chi i’ch arwain ar daith a chyfeirio’ch llwybr, mi fedrwch dynnu lluniau eich hun a’u hanfon i dudalen Facebook (Underwater Wales) neu gyfri Twitter (@Underwater Wales) yr Ymddiriedolaeth a gofyn am gymorth. Er mai Saesneg ydi’r tudalennau yma, os holwch chi gwestiwn yn Gymraeg, mi wnewch chi dderbyn ateb yn Gymraeg.

Wrth i ni gerdded y traeth, un o’r pethau welsom oedd slefren fôr y lloer (Aurelia aurelia; Moon jellyfish) oedd yn syllu arnom yn unllygeidiog o ganol swp o wymon. Roedd hwdedd o wymon wedi ei luchio a’i adael ar y traeth ac roedd llawer iawn o’r gwymon yn ddarnau o’r môr-wiail mawr.


Rhywbeth arall hynod o ddiddorol y daethom ar ei draws oedd darn o’r llysywen  bendoll neu’r llysywen fôr (Conger conger; Conger eel) – yn anffodus roedd rhywbeth wedi bwyta ei phen ond roedd modd gweld ei bod yn un gweddol fawr hyd yn oed hefo hynny oedd yn weddill ohoni.


Yn anffodus, mae llawer iawn o blastig hefyd yn cael ei fwrw i’n traeth ac mi ddangosodd Nia gasgliad i mi o’r pethau mae hi wedi dod ar eu traws dros y blynyddoedd. Un oedd dyn bach plastig, ac roedd hwn yn degan oedd yn arfer cael ei roi mewn bag ‘Happy Meals’ McDonalds yn 2006: felly maen rhaid fod hwn wedi nofio cryn dipyn!

Pethau eraill sy’n cael eu golchi i’r lan ydi hen getris. Fedrwn i ddim dychmygu sut roedd hyn yn digwydd nes i Nia egluro fod saethu colomennod clai ar fyrddau llongau mordeithiau pleser yn arfer bod yn boblogaidd iawn rai blynyddoedd yn ôl. Roedd y cetris gwag yn cael eu taflu dros yr ochr i’r môr a’r cerrynt wedyn yn eu cario o’r Azores, heibio Cernyw ac yn raddol i fyny arfordir Cymru nes cyrraedd traethau fel Porth Trecastell. Tagiau o gewyll cimychiaid yng Nghanada ydi rhywbeth arall sydd wedi canfod ei ffordd yma.

Pwrs y forforwyn ydi un arall o’r pethau poblogaidd i’w weld ar y traeth, sef coden wyau morgi neu forgath yn amlach na pheidio.

Ar waethaf y gwynt oer, mi ges amser gwerth chweil yn edrych ar y rhyfeddodau wedi’r storm yng nghwmni Nia a chofiwch fod digon o weithgareddau’n cael eu trefnu gan yr Ymddiriedolaeth hyd yn oed yng nghanol y gaeaf.




Morgrug: yr ateb i ddiffyg gwrthfiotigau?                                         23ain Tachwedd 2016

Mae morgrug yn anifeiliaid sydd wedi fy rhyfeddu i erioed ac maen nhw’n dal i wneud hynny. Maen nhw’n perthyn i ddosbarth mawr y Trychfilod (yr Insecta) ac i urdd yr Hymenoptera - yr un urdd ag y mae’r gwenyn, gwenyn meirch a’r morgrug gwyn yn perthyn iddo. Maen nhw’n bryfaid cymdeithasol ac yn trefnu eu hunain mewn ffordd arbennig o fewn eu trefedigaethau.

Fel arfer mae tri gwahanol fath o unigolyn mewn nyth. Y frenhines ydi’r mwyaf yn y nyth, ac mae ganddi hi ddau bâr o adenydd. Y rhai lleiaf ydi’r gwrywod ac mae ganddyn nhw hefyd adenydd; mae’r gweddill i gyd yn weithwyr a does ganddyn nhw ddim adenydd.

Mi fydda i ar fy nghynefin a gweld morgrug yn ystod yr haf yn yr ardd ond mae gwahanol forgrug i’w canfod ym mhob rhan o’r byd bron. Mae un math wedi tynnu sylw gwyddonwyr yn ddiweddar, sef y morgrug sy’n ffermio ffwng fel bwyd ac mae’r rhain yn byw mewn ardaloedd trofannol yng Ngogledd a De America. Mi gychwynnodd morgrug wneud hyn tua 15 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac maen nhw wedi bod yn hynod o lwyddiannus, ac erbyn hyn mae ‘na dros 200 o rywogaethau o forgrug sy’n ffermio ffwng.

Mae’r morgrug yma yn chwilota am blanhigion, yn torri darnau o’r dail, yn eu cario yn ôl i’r nyth ac yn bwydo’r dail i’r ffwng.  Yn eu tro, mae'r ffwng yn eu torri nhw i lawr er mwyn i’r morgrug allu eu bwyta yn haws. Mae’n enghraifft o gydymddibyniaeth rhwng y morgrug a’r ffwng: mae angen y naill ar y llall.

Mae’r ffordd mae’r morgrug yn gofalu am eu gardd ffwng a’r ffordd maen nhw’n cael gwared â gwastraff yn rhyfeddol ac mae gan wahanol aelodau o’r nyth waith penodol i’w wneud.  Y gweithwyr sy’n cario’r gwastraff a’r rhai sy’n gweithio ar y domen ydi’r gweithwyr hŷn yn y nyth, a’r oedolion ieuengach, iachach ydi’r rhai sy’n tendiad yr ardd ffwng. Fel arfer, mae’r domen y tu allan i’r nyth. Unwaith mae’r gwastraff wedi’i ollwng ar y domen, mae’r hen weithwyr yma yn ei symud o gwmpas er mwyn sicrhau ei fod yn pydru’n iawn.

Ond mae ‘na fwy na hyn i’r stori. Mae’r gwyddonwyr wedi darganfod fod ffwng diarth yn ymosod ar y nythod ambell dro ac yn lladd y ffwng a’r nyth. Mae ‘na bartner arall yn y stori yma, sef bacteria sy’n tyfu ar y morgrug ac yn rhyddhau cemegau i ddiogelu’r nyth rhag ffyngau eraill sy’n trio difetha’r nyth. Roedd gwyddonwyr wedi sylwi fod rhai morgrug hefo darnau bach gwyn ar eu cyrff ac yn edrych fel tasa nhw wedi eu gollwng mewn siwgr. Y rhain ydi bacteria mae’r morgrug yn ei storio ar eu cyrff a’r bacteria yma sydd â’r gwrthfiotigau a gwrth-ffyngau cryf iawn. Felly mae’r morgrug yn meithrin y bacteria sy’n cynhyrchu’r rhain ac sydd, yn eu tro, yn amddiffyn y nyth.



Un peth rydan ni’n ymwybodol iawn ohono'r dyddiau yma ydi fod angen gwrthfiotigau newydd ar ddyn. Mae’n debyg fod tua 700,000 o bobl ledled y byd yn marw bob blwyddyn o haint  sy’n medru gwrthsefyll cyffuriau. Felly mae chwilio am wrthfiotigau newydd o bwys mawr i ddynoliaeth.

Gwaith ymchwil sy’n digwydd dan arweiniad yr Athro Cameron Currie ym Mhrifysgol Wisconsin-Madison ydi’r gwaith ymchwil ar y morgrug yma, a be sy’n eithriadol o bwysig i ni, ydi fod y bacteria yma yn debyg i’r rhai mae cwmnïau fferyllol yn eu defnyddio i wneud gwrthfiotigau. Mae gwyddonwyr  eisoes yn dechrau paratoi’r gwrthfiotigau yma i’w profi nhw ar anifeiliaid a gweld os ydyn nhw’n mynd i weithio ar gyfer dyn. Y gobaith ydi y byddan nhw’n medru tynnu allan y rhai gorau o’r bacteria yma a’u defnyddio nhw i wneud gwrthfiotigau newydd ar gyfer y ddynolryw.

Mae’n rhoi ystyr cyfangwbl newydd greda i, i’r adnod “cerdda at y morgrugyn tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth.”  (Diarhebion: 6, 6)    



Moroedd swnllyd                                                                           16eg Tachwedd 2016

Tasa hi wedi bod y cyntaf o Ebrill, mi faswn i wedi amau yr hyn roeddwn i’n ei ddarllen yn fawr, ond doedd hi ddim. Darllen hanes ar wefan y BBC oeddwn i ynglŷn â’n moroedd ni.

Mae’n debyg fod y moroedd o amgylch Ynysoedd Prydain yn mynd mor swnllyd, nes bod pysgod fel y penfras (Gadus morhua; cod) a’r hadog (Melanogrammus aegllefinus; haddock) yn cael trafferth i gyfathrebu â’i gilydd. Ac os nad ydyn nhw’n gallu cyfathrebu â’i gilydd, mi allai hyn lesteirio eu gallu nhw i atgenhedlu, ac mi fydd hynny’n golygu llai o benfras yn y môr, a llai o ‘sgodyn a sglodion i ni!  

Ond sut ar wyneb y ddaear, neu’n hytrach ar wyneb y môr, ydach chi’n medru dysgu am rywbeth fel hyn? Gŵr o’r enw Steve Simpson a’i gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerwysg sy’n cynnal arbrofion i ddysgu mwy am hyn, a’r dull maen nhw’n ei ddefnyddio ydi tynnu hydrophonau drwy ddyfroedd arfordirol i recordio’r sŵn yn y môr yn y mannau yma.    

Mae gwyddonwyr wedi sylweddoli ers tro fod mamaliaid y môr mawr yn cael eu heffeithio gan lygredd sŵn: rhai fel dolffiniaid, morfilod ag ati, fel mae pysgod ar y riffiau cwrel, er enghraifft y pysgod clown. Mae’r llygredd yma’n amharu ar y ffordd mae’n nhw’n cyfathrebu â’i gilydd ac mae pethau’n dechrau mynd o chwith.

Mae dolffiniaid yn defnyddio gwahanol synau fel chwibanu, trydar a sgrechian i gyfathrebu â’i gilydd. Maen nhw hefyd yn gallu dynwared synau’n dda iawn, er enghraifft chwibanu sy’n cael ei gynhyrchu gan ddyn. Mi fyddan nhw’n defnyddio gwahanol chwiban pan fyddan nhw wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu teulu neu eu cyfeillion, pan fyddan nhw’n hapus neu pan fyddan nhw wedi cyffroi am rywbeth.

Erbyn hyn mae gwyddonwyr wedi deall fod pysgod hefyd yn defnyddio system debyg i gyfathrebu â’i gilydd a bwriad yr astudiaeth newydd ydi gofalu ein bod yn gwybod llawer mwy am bysgod mwy cyfarwydd sy’n y moroedd o amgylch Ynysoedd Prydain.  

Mae’n debyg fod gan y penfras yn arbennig alwadau  gweddol fanwl o’u cymharu â nifer o bysgod eraill. Maen nhw’n dirgrynu eu pledren nofio - y balŵn sydd tu mewn iddyn nhw - er mwyn gwneud sŵn. Maen nhw’n medru creu amrywiaeth o wahanol synau fel sŵn popian, rhochian a sŵn dwndrus.

Maen nhw hefyd yn gwneud sŵn pan maen nhw ar fin silio. Mae’r gwrywod yn canu ac wedyn mae’r benywod yn penderfynu os ydyn nhw’n dda i rywbeth cyn rhyddhau eu hwyau. Mae’r penfras yn aros yn weddol agos at wely’r môr pan fydd hi’n amser silio ac yna mi fydd un gwryw yn codi i’r wyneb ac mae ganddo fo tua 10 eiliad i gael ei gân o serenâd yn gywir. Os ydi hon yn plesio, yna mi wnaiff y fenyw ryddhau ei wyau. Os nad ydi hi’n hoffi be mae’n ei glywed, mi wnaiff hi nofio’n ôl i waelod y môr unwaith eto.

Mae’r penfras hefyd yn defnyddio sŵn i fordwyo, sefydlu tiriogaeth a rhybuddio eu grŵp os oes ‘na berygl yn agos. Mi all sŵn gan longau, drilio am olew a nwy ac unrhyw synau eraill rydan ni fel yr hil ddynol yn eu gwneud effeithio ar y synau yma a’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig hefo nhw. 

Ychydig o waith sydd wedi’i wneud hyd yn hyn ac mae’r tîm yma yn gobeithio casglu data drwy deithio hefo caiac o amgylch Ynysoedd Prydain. Un peth nad ydyn nhw’n siŵr ohono fo ydi, oes gan y gwahanol bysgod wahanol dafodieithoedd. Mi wyddom fod tafodieithoedd gan adar a morfilod, er enghraifft, ond mae’n ymddangos fod hyn yn wir am y penfras hefyd. Wrth i’r moroedd gynhesu hefo newid yn yr hinsawdd, a physgod yn symud yn fwy i’r gogledd, tybed fyddan nhw’n adnabod tafodiaith ei gilydd?

Mae ‘na lawer iawn o gwestiynau i’w hateb felly ac mi fydd yn ddiddorol iawn gweld be fydd ffrwyth gwaith y grŵp yma o Brifysgol Caerwysg.    



Gialipi wirion                                                                           9fed Tachwedd 2016

Cael llun wnes i gan gymydog i mi. “Be ti’n feddwl o’r rhain? Mi dynnais eu llun ddiwedd mis Medi gerllaw traeth Llanddona”.


Roeddwn i wedi dotio. Fel y gwelwch chi o’r llun, mae ‘na glwstwr ohonyn nhw yn torheulo’n braf yn haul ha bach Mihangel. Rŵan gialipi wirion faswn i’n galw’r rhain ym Môn ond mi wn fod sawl enw arall arnyn nhw. Zootoca viviparia ydi’r enw gwyddonol arnyn nhw a common lizard yn Saesneg. Madfall ydi’r enw swyddogol arnyn nhw ond mae ‘na nifer o enwau Cymraeg eraill arnyn nhw (diolch i Eiriadur yr Academi) gan gynnwys budrchwilen, genau-goeg, genau goed, genau pry’ gwirion, gialan pen wirion, gialopi wirion, galape wirion, mablath, madlath, botrywilen a motrywilen. Byddai’n ddifyr dros ben clywed be ydi’ch enw chi arni hi.

Fel y gwelwch o’r llun, mae ei lliw yn amrywio’n fawr: fel rheol ryw liw brown ydyn nhw ond gall y lliwiau fod yn felyn, du a gwyrdd - fel un o’r rhai sy’n y llun. Fel arfer hefyd mae patrwm o farciau a llinell i lawr y cefn. Mi all oedolion dyfu i tua chwe modfedd o hyd (gan gynnwys y gynffon). Mae gan y gwrywod ben mwy a chorff teneuach na’r benywod ac mae ganddyn nhw chwydd reit amlwg lle mae’r gynffon yn cysylltu â’r corff. Mae bol melyn neu oren gan y gwrywod hefo marciau duon arno ond nid oes marciau ar fol y benywod ac mae’n olau.

Mae cen ar fadfallod ac fel rheol, maen nhw’n symud yn reit gyflym os ydi rhywun yn tarfu arnyn nhw. Fel arfer maen nhw’n byw ar y llawr ond mi wnewch eu gweld yn dringo ambell dro er mwyn cyrraedd mannau heulog. Mannau agored, sych a heulog ydi’r llefydd maen nhw’n eu hoffi ond yn ddigon agos at frwgaitch y medran nhw ddengid yn reit handi i mewn i’w ganol. Torheulo ar ddarn o bren maen nhw yma ond yn ddigon agos at lystyfiant y medran nhw guddio ynddo os oes angen.

Mae’n nhw’n frodorol i Ynysoedd Prydain a thrwy ganol a gogledd Ewrop ond mae niferoedd wedi bod yn gostwng yn y deyrnas Gyfunol yn ddiweddar, felly pleser o’r mwyaf oedd gweld cymaint â chwech hefo’i gilydd. Mi gysylltais â Roy Tapping o Cofnod am y rhain ac mi ddwedodd wrtha i eu bod wedi derbyn cofnod o bron yr un llecyn tua blwyddyn yn ôl, felly maen amlwg eu bod yn lecio eu lle yma.

Eu bwyd ydi llyngyr daear (mwydod neu bry genwair), gwlithod a thrychfilod.

Maen nhw’n anifeiliaid sy’n gaeafgysgu ac mi fyddan nhw’n aml yn gaeafgysgu mewn grwpiau hefo’i gilydd. Dewis hen gerrig neu greigiau mawr y byddan nhw neu hen ddarnau o bren a swatio i lawr dros y gaeaf rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth. Ond, os cawn ni dywydd claear neu fymryn o haul yn ystod y gaeaf mi wnawn nhw ddod allan i chwilio am fwyd.

Mi fyddan yn deffro yn gynnar yn y gwanwyn yn dibynnu ar pa mor gynnes ydi hi, ac mi fyddan yn cymharu tua mis Ebrill. Yn ystod yr haf mi fydd y benywod yn gori ar yr wyau ond eu bod yn cadw’r wyau y tu fewn i’w cyrff ac yn ‘esgor’ ar hyd at unarddeg o rai bach byw tua mis Gorffennaf neu fis Awst. Mae’r rhai ifanc yn fach iawn – yn llai na dwy fodfedd o hyd ac yn dywyllach na’r oedolion.

Mi fyddan yn treulio’r misoedd nesaf yn bwydo hynny fedran nhw ar anifeiliaid diasgwrn cefn er mwyn magu digon o fraster i’w cadw dros y gaeaf. Wrth gael gafael ar eu bwyd, er enghraifft llyngyr daear, mi fyddan yn gafael ynddo ac yn ei ysgwyd yn reit dda i’w hurtio cyn ei lyncu.
Diolch byth nad ydyn nhw’n bethau digon mawr i fwyta dynion ynte!

Ail Natur 121                                         2 Tachwedd 2016





Ryw wag-symera roeddwn i tua canol mis Hydref, a sbïo allan drwy ffenestr y llofft ar yr ardd pan sylwais i ar ddwy frân yn bwyta afalau oedd wedi syrthio ar y llawr. Yna, mi sylweddolais fod plu gwyn ar gynffon un o’r brain ac fod y llall, oedd yn ddu i gyd, yn ryw dueddu i’w bwlio. Rydw i wedi sylwi ar blu gwyn ar y fwyalchen sawl tro ond ddim erioed o’r blaen ar frân. Tybed ydach chi?   





Diolch yn fawr iawn i bawb sy’n ysgrifennu llythyrau mor ddiddorol atom. Diolch i Edwyn Ellis, Dulas am ei lythyr difyr oedd yn cyfeirio ymhlith pethau eraill at y disgrifiad o’r crëyr glas fel “aderyn hefo coesau hir a phig fel cleddyf”. Efallai i chi gofio yn ôl ym mis Mehefin i Edwyn Ellis rannu penillion hyfryd  am enwau’r ffermydd godre’r Eifl hefo ni a minnau’n holi os oedd ‘na rai tebyg mewn ardaloedd eraill.



Rydw i’n ddiolchgar iawn i John Henry Jones, Llangefni am anfon copi o benillion Corwynt i ardal Llanddyfnan hefo enwau’r tai a rhai o’r cymeriadau. Pwy oedd y Corprol Syth a Bardd Tŷ’n Lôn tybed? Diolch yn fawr hefyd i Rhiannon Parry, Penygroes am roi enw llawn Corwynt, sef Owen Thomas ac adrodd hanes y teulu. Wel rŵan, dwi am holi’r un cwestiwn eto. Oes ‘na benillion cyffelyb mewn ardaloedd eraill?



Diolch hefyd i Ann Roberts am anfon hanes y dyn oedd yn casglu gelod yn Llyn yr Hendre ac yn eu cadw mewn jariau ar silff yn y Tyrpeg yng Ngwalchmai yn ystod dauddegau’r ganrif ddiwethaf. Mae’n rhaid eu bod yn dal i gael eu defnyddio yr adeg honno felly.



Roedd Morwenna Williams, Pentraeth yn holi am y bywyd gwyllt ar ôl ailblannu yng Nghoed y Brenin. Mae ‘na lawer llai o lystyfiant gwyllt, brodorol dan goed conifferaidd nag sydd ‘na dan goed fel y dderwen, yr onnen a’r fedwen. Yn yr un ffordd mae’n coed brodorol ni hefyd yn cynnal mwy o fywyd gwyllt. Mae brigau ucha’r coed yn cynnig lle a lloches i adar a gwiwerod i fyw ac adeiladu nythod a magu teulu. Mae’r ffrwythau’n fwyd i’r pryfetach, adar, gwiwerod a mamaliaid eraill. Mae amrywiaeth eang o drychfilod yn byw ar y coed, sydd, yn eu tro yn fwyd i’r adar. Trychfilod fel y gwenyn meirch, gwyfynod, chwilod ag ati sy’n byw ar y dail. Mi fydd rhai o’r llennyrch a gafodd eu llwyr gwympo yn cael eu hailblannu hefo coed conifferaidd i ddarparu pren, ac mi fydd rhai eraill yn cael eu plannu â choed brodorol ac yn y fan honno y medrwn ni ddisgwyl gweld yr amrywiaeth mwyaf o rywogaethau.

Diolch o galon i Elsi Roberts, Abergwyngregyn am anfon yr hanes am yr afal wedi gwreiddio ar goes Hypericum atom. Mi es i draw i weld y llwyn dail y Beiblau yng nghartref Elsi Roberts a chael croeso mawr yno. Yn anffodus roedd yr afal wedi syrthio erbyn i mi gyrraedd ond yr ateb i’r cwestiwn a welais i rywbeth tebyg o’r blaen ydi: Naddo, welais i erioed y fath beth a byddai’n ddifyr iawn gwybod os oes rhywun arall wedi gweld rhywbeth cyffelyb. Mi welais hefyd yr uchelwydd roedd hi wedi llwyddo i’w dyfu ar y goeden afalau.


Rydw i’n dal i ryfeddu at yr hyn sy’n dal i flodeuo yn yr ardd. Mae’r tywydd mor glaear nes bod pethau’n dal ati yn rhyfeddol o hwyr. Mae gen i un mynawyd y bugail glas hardd iawn sy’n tyfu dan y coed rhosys (sydd hefyd yn dal yn eu blodau), a wyddoch chi be - roedd ‘na gacwn yn dal i fela yn ei blodau ddydd Gwener diwethaf!