Moroedd swnllyd 16eg Tachwedd 2016
Tasa hi wedi bod y cyntaf
o Ebrill, mi faswn i wedi amau yr hyn roeddwn i’n ei ddarllen yn fawr, ond
doedd hi ddim. Darllen hanes ar wefan y BBC oeddwn i ynglŷn â’n moroedd ni.
Mae’n debyg fod y moroedd
o amgylch Ynysoedd Prydain yn mynd mor swnllyd, nes bod pysgod fel y penfras (Gadus morhua; cod) a’r hadog (Melanogrammus aegllefinus; haddock) yn
cael trafferth i gyfathrebu â’i gilydd. Ac os nad ydyn nhw’n gallu cyfathrebu â’i gilydd,
mi allai hyn lesteirio eu gallu nhw i atgenhedlu, ac mi fydd hynny’n golygu
llai o benfras yn y môr, a llai o ‘sgodyn a sglodion i ni!
Ond sut ar wyneb y ddaear, neu’n hytrach ar
wyneb y môr, ydach chi’n medru dysgu am rywbeth fel hyn? Gŵr
o’r enw Steve Simpson a’i gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerwysg sy’n cynnal
arbrofion i ddysgu mwy am hyn, a’r dull maen nhw’n ei ddefnyddio ydi tynnu hydrophonau drwy ddyfroedd
arfordirol i recordio’r sŵn yn y môr yn y mannau yma.
Mae gwyddonwyr wedi sylweddoli ers tro fod
mamaliaid y môr mawr yn cael eu heffeithio gan lygredd sŵn: rhai fel
dolffiniaid, morfilod ag ati, fel mae pysgod ar y riffiau cwrel, er enghraifft
y pysgod clown. Mae’r llygredd yma’n amharu ar y ffordd mae’n nhw’n cyfathrebu
â’i gilydd ac mae pethau’n dechrau mynd o chwith.
Mae dolffiniaid yn defnyddio gwahanol synau fel
chwibanu, trydar a sgrechian i gyfathrebu â’i gilydd. Maen nhw hefyd yn gallu
dynwared synau’n dda iawn, er enghraifft chwibanu sy’n cael ei gynhyrchu gan
ddyn. Mi fyddan nhw’n defnyddio gwahanol chwiban pan fyddan nhw wedi cael eu
gwahanu oddi wrth eu teulu neu eu cyfeillion, pan fyddan nhw’n hapus neu pan
fyddan nhw wedi cyffroi am rywbeth.
Erbyn hyn mae gwyddonwyr wedi deall fod pysgod
hefyd yn defnyddio system debyg i gyfathrebu â’i gilydd a bwriad yr astudiaeth
newydd ydi gofalu ein bod yn gwybod llawer mwy am bysgod mwy cyfarwydd sy’n y
moroedd o amgylch Ynysoedd Prydain.
Mae’n debyg fod gan y penfras yn arbennig
alwadau gweddol fanwl o’u cymharu â
nifer o bysgod eraill. Maen nhw’n dirgrynu eu pledren nofio - y balŵn sydd tu
mewn iddyn nhw - er mwyn gwneud sŵn. Maen nhw’n medru creu amrywiaeth o wahanol
synau fel sŵn popian, rhochian a sŵn dwndrus.
Maen nhw hefyd yn gwneud sŵn pan maen nhw ar
fin silio. Mae’r gwrywod yn canu ac wedyn mae’r benywod yn penderfynu os ydyn
nhw’n dda i rywbeth cyn rhyddhau eu hwyau. Mae’r penfras yn aros yn weddol
agos at wely’r môr pan fydd hi’n amser silio ac yna mi fydd un gwryw yn codi
i’r wyneb ac mae ganddo fo tua 10 eiliad i gael ei gân o serenâd yn gywir. Os
ydi hon yn plesio, yna mi wnaiff y fenyw ryddhau ei wyau. Os nad ydi hi’n hoffi
be mae’n ei glywed, mi wnaiff hi nofio’n ôl i waelod y môr unwaith eto.
Mae’r penfras hefyd yn defnyddio sŵn i
fordwyo, sefydlu tiriogaeth a rhybuddio eu grŵp os oes ‘na berygl yn agos. Mi all sŵn gan
longau, drilio am olew a nwy ac unrhyw synau eraill rydan ni fel yr hil ddynol
yn eu gwneud effeithio ar y synau yma a’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig hefo
nhw.
Ychydig o waith sydd wedi’i wneud hyd yn hyn ac
mae’r tîm yma yn gobeithio casglu data drwy deithio hefo caiac o amgylch
Ynysoedd Prydain. Un peth nad ydyn nhw’n siŵr ohono fo ydi, oes gan y gwahanol
bysgod wahanol dafodieithoedd. Mi wyddom fod tafodieithoedd gan adar a morfilod,
er enghraifft, ond mae’n ymddangos fod hyn yn wir am y penfras hefyd. Wrth i’r
moroedd gynhesu hefo newid yn yr hinsawdd, a physgod yn symud yn fwy i’r
gogledd, tybed fyddan nhw’n adnabod tafodiaith ei gilydd?
Mae ‘na lawer iawn o gwestiynau i’w hateb felly ac mi
fydd yn ddiddorol iawn gweld be fydd ffrwyth gwaith y grŵp yma o Brifysgol
Caerwysg.
No comments:
Post a Comment