Bywyd gwyllt y traeth yn y gaeaf 30ain Tachwedd 2016
Bore gwyntog iawn oedd hi ar y traeth ym
Mhorth Trecastell ond roedd hi’n llawer tawelach nag roedd hi wedi bod ynghanol
Storm Angus y diwrnod cynt! Roedd y gwylanod yn methu’n glir â glanio a’r
moresg ar fin y traeth yn cael eu chwalu i bob cyfeiriad gan y gwynt. Yn union
ar ôl storm ydi’r amser gorau i ddŵad i’r traeth i weld be sy wedi cael ei
olchi i’r lan gan ryferthwy’r gwynt a’r tonnau.
Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael cwmni Nia
Jones o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ar y traeth. Mae Nia’n
gweithio fel swyddog morol i’r Ymddiriedolaeth ac wedi hen arfer â bywyd y
traeth. Yn ystod yr haf, mi fydd yr Ymddiriedolaeth yn aml yn codi pabell ar
lan y môr ac yn gwahodd pobl a phlant sydd ar y traeth i ddod gyda nhw i
chwilio a gweld y gwahanol bethau sydd i’w canfod pan fo’r môr ar drai.
Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn trefnu nifer o
ddigwyddiadau a theithiau, ar ddydd Sadwrn fel rheol, i wahanol draethau yng
ngogledd Cymru ac mi fedrwch gael rhagor o fanylion ar eu gwefan(www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy
). Mi fydd Nia yn rhannu cardiau adnabod i bawb sy’n ymuno yn y gweithgaredd
sy’n dangos lluniau o’r gwahanol rywogaethau mae modd eu gweld ar y traeth yn
ystod y pedwar tymor. Un o’r rhywogaethau rydach chi’n debyg o’u gweld yn ystod
y gaeaf ydi’r bioden fôr (Haematopus ostralegus;
Oystercatcher) ac mi fedra i dystio fod hyn yn wir, ac oedd roedd hi yna a’i
chri ddolefus ar y traeth.
Prosiect Cymru Tanddwr ydi’r prosiect gan yr
Ymddiriedolaeth a hyd yn oed os nad oes neb hefo chi i’ch arwain ar daith a
chyfeirio’ch llwybr, mi fedrwch dynnu lluniau eich hun a’u hanfon i dudalen
Facebook (Underwater Wales) neu gyfri Twitter (@Underwater Wales) yr
Ymddiriedolaeth a gofyn am gymorth. Er mai Saesneg ydi’r tudalennau yma, os
holwch chi gwestiwn yn Gymraeg, mi wnewch chi dderbyn ateb yn Gymraeg.
Wrth i ni gerdded y traeth, un o’r pethau
welsom oedd slefren fôr y lloer (Aurelia
aurelia; Moon jellyfish) oedd yn syllu arnom yn unllygeidiog o ganol swp o wymon.
Roedd hwdedd o wymon wedi ei luchio a’i adael ar y traeth ac roedd llawer iawn
o’r gwymon yn ddarnau o’r môr-wiail mawr.
Rhywbeth arall hynod o ddiddorol y daethom ar
ei draws oedd darn o’r llysywen bendoll
neu’r llysywen fôr (Conger conger;
Conger eel) – yn anffodus roedd rhywbeth wedi bwyta ei phen ond roedd modd
gweld ei bod yn un gweddol fawr hyd yn oed hefo hynny oedd yn weddill ohoni.
Yn anffodus, mae llawer iawn o blastig hefyd
yn cael ei fwrw i’n traeth ac mi ddangosodd Nia gasgliad i mi o’r pethau mae hi
wedi dod ar eu traws dros y blynyddoedd. Un oedd dyn bach plastig, ac roedd hwn
yn degan oedd yn arfer cael ei roi mewn bag ‘Happy Meals’ McDonalds yn 2006:
felly maen rhaid fod hwn wedi nofio cryn dipyn!
Pethau eraill sy’n cael eu golchi i’r lan ydi
hen getris. Fedrwn i ddim dychmygu sut roedd hyn yn digwydd nes i Nia egluro
fod saethu colomennod clai ar fyrddau llongau mordeithiau pleser yn arfer bod
yn boblogaidd iawn rai blynyddoedd yn ôl. Roedd y cetris gwag yn cael eu taflu
dros yr ochr i’r môr a’r cerrynt wedyn yn eu cario o’r Azores, heibio Cernyw ac
yn raddol i fyny arfordir Cymru nes cyrraedd traethau fel Porth Trecastell.
Tagiau o gewyll cimychiaid yng Nghanada ydi rhywbeth arall sydd wedi canfod ei
ffordd yma.
Pwrs y forforwyn ydi un arall o’r pethau
poblogaidd i’w weld ar y traeth, sef coden wyau morgi neu forgath yn amlach na
pheidio.
Ar waethaf y gwynt oer, mi ges amser gwerth
chweil yn edrych ar y rhyfeddodau wedi’r storm yng nghwmni Nia a chofiwch fod
digon o weithgareddau’n cael eu trefnu gan yr Ymddiriedolaeth hyd yn oed yng
nghanol y gaeaf.
No comments:
Post a Comment