Morgrug:
yr ateb i ddiffyg gwrthfiotigau? 23ain Tachwedd 2016
Mae morgrug yn anifeiliaid sydd wedi fy
rhyfeddu i erioed ac maen nhw’n dal i wneud hynny. Maen nhw’n perthyn i
ddosbarth mawr y Trychfilod (yr Insecta) ac i urdd yr Hymenoptera - yr un urdd
ag y mae’r gwenyn, gwenyn meirch a’r morgrug gwyn yn perthyn iddo. Maen nhw’n
bryfaid cymdeithasol ac yn trefnu eu hunain mewn ffordd arbennig o fewn eu
trefedigaethau.
Fel arfer mae tri gwahanol fath o
unigolyn mewn nyth. Y frenhines ydi’r
mwyaf yn y nyth, ac mae
ganddi hi ddau bâr o adenydd. Y rhai lleiaf ydi’r
gwrywod ac mae ganddyn nhw hefyd adenydd; mae’r gweddill i gyd yn weithwyr a does ganddyn
nhw ddim adenydd.
Mi fydda i ar fy nghynefin a gweld morgrug yn ystod yr
haf yn yr ardd ond mae gwahanol forgrug i’w canfod ym mhob rhan o’r byd bron.
Mae un math wedi tynnu sylw gwyddonwyr yn ddiweddar, sef y morgrug sy’n ffermio
ffwng fel bwyd ac mae’r rhain yn byw mewn ardaloedd trofannol yng Ngogledd a De
America. Mi gychwynnodd morgrug wneud hyn tua 15 miliwn o flynyddoedd yn
ôl ac maen nhw wedi bod yn hynod o lwyddiannus, ac erbyn hyn mae ‘na dros 200 o
rywogaethau o forgrug sy’n ffermio ffwng.
Mae’r morgrug yma yn chwilota am blanhigion, yn torri
darnau o’r dail, yn eu cario yn ôl i’r nyth ac yn bwydo’r dail i’r ffwng. Yn eu tro, mae'r ffwng yn eu torri nhw i lawr
er mwyn i’r morgrug allu eu bwyta yn haws. Mae’n enghraifft o gydymddibyniaeth
rhwng y morgrug a’r ffwng: mae angen y naill ar y llall.
Mae’r ffordd mae’r morgrug yn gofalu am eu gardd ffwng
a’r ffordd maen nhw’n cael gwared â gwastraff yn rhyfeddol ac mae gan wahanol
aelodau o’r nyth waith penodol i’w wneud.
Y gweithwyr sy’n cario’r gwastraff a’r rhai sy’n gweithio ar y domen
ydi’r gweithwyr hŷn yn y nyth, a’r oedolion ieuengach, iachach ydi’r rhai sy’n
tendiad yr ardd ffwng. Fel arfer, mae’r domen y tu allan i’r nyth. Unwaith
mae’r gwastraff wedi’i ollwng ar y domen, mae’r hen weithwyr yma yn ei symud o
gwmpas er mwyn sicrhau ei fod yn pydru’n iawn.
Ond mae ‘na fwy na hyn i’r stori. Mae’r gwyddonwyr wedi
darganfod fod ffwng diarth yn ymosod ar y nythod ambell dro ac yn lladd y ffwng
a’r nyth. Mae ‘na bartner arall yn y stori yma, sef bacteria sy’n tyfu ar y
morgrug ac yn rhyddhau cemegau i ddiogelu’r nyth rhag ffyngau eraill sy’n trio
difetha’r nyth. Roedd gwyddonwyr wedi sylwi fod rhai morgrug hefo darnau bach gwyn
ar eu cyrff ac yn edrych fel tasa nhw wedi eu gollwng mewn siwgr. Y rhain ydi
bacteria mae’r morgrug yn ei storio ar eu cyrff a’r bacteria yma sydd â’r
gwrthfiotigau a gwrth-ffyngau cryf iawn. Felly mae’r morgrug yn meithrin y
bacteria sy’n cynhyrchu’r rhain ac sydd, yn eu tro, yn amddiffyn y nyth.
Un peth rydan ni’n ymwybodol iawn ohono'r dyddiau yma ydi
fod angen gwrthfiotigau newydd ar ddyn. Mae’n debyg fod tua 700,000 o bobl
ledled y byd yn marw bob blwyddyn o haint
sy’n medru gwrthsefyll cyffuriau. Felly mae chwilio am wrthfiotigau
newydd o bwys mawr i ddynoliaeth.
Gwaith ymchwil sy’n digwydd dan arweiniad yr Athro
Cameron Currie ym Mhrifysgol Wisconsin-Madison ydi’r gwaith ymchwil ar y
morgrug yma, a be sy’n eithriadol o bwysig i ni, ydi fod y bacteria yma yn
debyg i’r rhai mae cwmnïau fferyllol yn eu defnyddio i wneud gwrthfiotigau. Mae
gwyddonwyr eisoes yn dechrau paratoi’r
gwrthfiotigau yma i’w profi nhw ar anifeiliaid a gweld os ydyn nhw’n mynd i
weithio ar gyfer dyn. Y gobaith ydi y byddan nhw’n medru tynnu allan y rhai
gorau o’r bacteria yma a’u defnyddio nhw i wneud gwrthfiotigau newydd ar gyfer
y ddynolryw.
Mae’n
rhoi ystyr cyfangwbl newydd greda i, i’r adnod “cerdda at y morgrugyn tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd
ddoeth.” (Diarhebion: 6, 6)
No comments:
Post a Comment