Ail Natur 122 7
Rhagfyr 2016
Diddorol iawn oedd llythyr John Ellis Jones, Hen Golwyn am y cais i gael
gelod yn 1948 ac roedd hanes y defnydd o gelod, Hirundo medicinalis, yn yr erthygl o’r Pharmaceutical Journal 1994
yn ddifyr iawn, iawn. Mi es i chwilio ar y We i weld fedrwn i ddysgu rhywbeth
am Biopharm a hyd y medra i weld maen nhw’n dal mewn busnes ac mae’r brif
swyddfa yn dal i fod yn ardal Abertawe er fod ganddynt swyddfeydd mewn sawl lle
dros y byd erbyn hyn.
Diolch hefyd i Morwenna Williams, Pentraeth am y dywediadau am y tywydd.
Tybed sut byddwch chi’n darogan eira? Fydd hi’n Nadolig gwyn eleni?
Diolch yn fawr i Irene
Williams, Cerrigceinwen am y llun o’r draenog a welodd yn yr ardd ar 26 Hydref
eleni. Roeddech chi’n holi “Oni ddylai fod yn cysgu erbyn hyn?” Dim o
anghenraid. Mae draenogod yn gaeafgysgu wrth gwrs, ond os ydi’r tywydd wedi bod
yn ddigon cynnes ac fod digon o fwyd o gwmpas, yna mi all fod yn fis Tachwedd
arnyn nhw’n mynd i gysgu. Y sbardun iddyn nhw fynd i chwilio am rywle clyd dros
y gaeaf ydi’r tymheredd yn gostwng, ond hyd yn oed yng nghanol y gaeaf os cawn
ni ambell i ddiwrnod go gynnes, mi allan nhw godi am ychydig a chwilio am fwyd.
Dydi draenogod yng
Ngogledd yr Affrig (Atelerix algirus)
ddim yn cysgu dros y gaeaf am fod digon o fwyd ar gael yno. Ond yma, ble
mae’n oerach ac mae prinder bwyd, mi fydd y draenog yn adeiladu nyth iddo’i hun
ac yn gaeafgysgu tan tua mis Ebrill pan fydd y tywydd yn dechrau cynhesu
unwaith eto. Yn ystod y cyfnod yma, mi fydd ei dymheredd yn disgyn o 35 gradd Celsius i 15-20 gradd Celsius, ac mi fydd curiad y galon yn disgyn o 250 o guriadau y funud i 10 curiad
y funud.
Tybed fyddwch chi’n mentro allan i dynnu lluniau yr adeg hon o’r flwyddyn?
Mae’r gwahanol batrymau wneir gan farrug, rhew ac eira ar blanhigion a choed yn
gallu bod yn eithriadol o hardd. Os byddwch chi’n tynnu lluniau, beth am eu
rhannu â ni?
Mewn blwyddyn heb lawer
o oleuni ynddi hi, mi ges i lygedyn bach o obaith yn ddiweddar a hynny gan y
Gymdeithas Gwarchod Adar yng Nghymru. O’r diwedd, ar ôl blynyddoedd o waith cadwriaethol caled, cyhoeddodd y
Gymdeithas bod aderyn y bwn (Botaurus
stellaris; Bittern) wedi nythu ar Gors Ddyga neu Gors Malltraeth ym Môn yn
ystod yr haf diwethaf - y tro cyntaf yng Nghymru mewn 32 o flynyddoedd.
Dydi’r aderyn yma ddim yn
hawdd ei weld ac er ei fod o wedi bod ar Gors Ddyga ers rhai blynyddoedd, eleni
mae o wedi magu. Mae’r ffordd mae’r gors yn cael ei rheoli yn golygu fod y
cynefin yma nid yn unig yn dda ar gyfer aderyn y bwn ond hefyd ar gyfer nifer o
rywogaethau bregus fel llygod y dŵr, telor y gwair a dyfrgwn, ac unwaith eto,
mae’r rhain yn ffynnu yma hefyd.
Mae’n anodd gweld aderyn y bwn yn symud yn dawel drwy’r hesg ar lan y
dŵr yn chwilio am bysgod. Fodd bynnag, yn y gwanwyn mae'r gwrywod yn enwog am
eu sŵn uchel wrth iddynt ddenu cymar.
Gan fod yr aderyn yn un mor anodd ei weld bu’n rhaid i swyddogion y
Gymdeithas Gwarchod Adar fod allan yn gynnar yn y bore ac yn hwyr gyda’r nos i
geisio cadarnhau fod yr aderyn yn nythu yno. Mae aderyn y bwn yn hoff iawn o
amgylchedd tawel a llonydd wrth fridio, ac felly roedd Cors Ddyga yn cynnig cynefin
sydd bron yn berffaith iddo.
Gobeithio’n fawr y bydd yn para i nythu ar y gors am flynyddoedd i ddod.
No comments:
Post a Comment