Planhigion y Nadolig
Mae’n syndod faint o blanhigion, yn goed ac
yn flodau, rydan ni’n eu cysylltu â’r Nadolig erbyn heddiw, ac yn rhyfeddol
hefyd faint ohonyn nhw sy’n cynnwys y gair ‘Nadolig’ yn eu henw. Felly, os
cewch chi gyfle i gael pum munud bach distaw ar ôl yr Ŵyl, ella y basa chi’n
lecio meddwl am rai ohonyn nhw.
Dyna chi gactws y Nadolig er enghraifft, sydd
gyda llaw hefyd yn cael ei alw’n gactws y tegeirian neu gactws y cranc. Schlumbergera ydi enw’r genws ac mae tua
chwe gwahanol rywogaeth o’r cactws yn tyfu yn ardal mynyddoedd arfordir
de-ddwyrain Brasil. Mi fydd y planhigion yn tyfu ar goed neu greigiau sy’n
gysgodol gyda lleithder uchel yn yr awyr. Yn ddiddorol iawn, Flor de Maio - blodyn
Mai ydi’r enw ar y planhigyn ym Mrasil, gan ddangos ym mha fis mae o’n blodeuo
yn Hemisffer y De. Erbyn heddiw, wrth gwrs, mae sawl croesiad wedi’i wneud a
sawl cyltifar wedi’i dyfu ac mae blodau gwyn, pinc, melyn, oren, coch a
phorffor i’w cael.
Un arall o’r planhigion hynny sy’n cael eu
rowlio allan yn eu miloedd bob Nadolig ydi’r Poinsetia. Perthyn i deulu’r
llaethlys (spurge) mae’r Poinsetia ac yn tyfu’n frodorol ym Mecsico a’r enw
gwyddonol ydi Euphorbia pulcherrima. Mae’n cael yr enw Poinsetia ar ôl gŵr o’r enw Joel Roberts
Poinsett, aned yn 1779 yn fab i Elisha Poinsett a Katherine Ann Roberts. Wel
mae’n rhaid fod ‘na gysylltiad Cymreig yn fanna yn does! Beth bynnag Joel
Poinsett oedd Gweinidog cyntaf yr Unol Daleithiau i Fecsico, a fo gyflwynodd y
planhigyn i’r Unol Daleithiau yn 1825.
Llwyn neu goeden fach ydi’r planhigyn ac mae
dail gwyrdd tywyll arni hi. Bractiau sy’n goch, er eu bod yn aml yn cael eu
camgymryd am betalau. Er mwyn i’r bractiau ddatblygu’r lliw coch mae angen
cyfnod o ffotogyfnodedd arnyn nhw, sef o leiaf deuddeg awr o dywyllwch ar bum
diwrnod dilynol, ac ar yr un pryd mae angen digon o olau arnyn nhw yn ystod y
cyfnod o oleuni. Does dim rhyfedd eu bod yn anodd i’w trin a’u tyfu yn y tŷ!
Roedd yr Asteciaid yn defnyddio’r planhigyn
yma i gynhyrchu lliw coch, ac fel meddyginiaeth i ostwng twymyn, ac mae’n cael
ei alw’n Blodyn Noswyl Nadolig ym Mecsico. Yn Hwngari Blodyn Santa Clôs ydi’r
enw. Mae’n debyg fod cysylltiad y Poinsetia â’r Nadolig wedi cychwyn yn yr
unfed ganrif ar bymtheg ym Mecsico lle roedd merch fach dlawd o’r enw Pepita.
Doedd ganddi hi ddim digon o arian i roi anrheg i ddathlu pen blwydd yr Iesu
ond fe gafodd ei hysbrydoli i gasglu ‘chwyn’ o ochr y ffordd a’u gosod ar yr
allor. Fe ymddangosodd y bractiau coch o’r ‘chwyn’ a datblygu i fod yn
Poinsetia hardd.
Yng Nghymru, y planhigion rydan ni’n eu
cysylltu’n draddodiadol â’r Nadolig ydi’r gelynnen, yr eiddew, yr uchelwydd a’r
pinwydd. Mae’r gelynnen yn gysylltiedig â symbolaeth Gristnogol ers y canol
oesoedd, ac yn garol Saesneg, The Holly
and the Ivy, mae’r celyn yn cynrychioli’r baban Iesu a’r eiddew yn symbol
o’r forwyn Fair. Mae’r pigau sydd ar
ddail y celyn yn atgoffa credinwyr o’r pigau ar goron ddrain Crist a’r aeron
coch o’r gwaed a dywalltwyd.
Roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio’r celyn i
addurno eu tai yng nghanol y gaeaf wrth ddathlu Gŵyl Satwrnalia a chredai’r
derwyddon fod dail y celyn yn cadw ysbrydion drwg i ffwrdd. Roedd y gelynnen
hefyd yn cael ei gweld fel symbol o ffrwythlondeb ac ystyrid ei fod yn anlwcus
iawn i gwympo celynnen.
Roedd boncyff y Nadolig hefyd yn rhan o’r
traddodiad Cristnogol ac yn un arall sydd â’i wreiddiau ymhell, bell yn ôl.
Roedd yn arferiad dewis boncyff yn arbennig a’i gario i mewn ar yr aelwyd dros
Ŵyl y Nadolig i gynnig cynhesrwydd, ac yn sicr mae’r goeden Nadolig wedi hen
ennill ei phlwy yn ein cartrefi.
Sut bynnag y byddwch chi’n addurno eich
cartref eleni, gobeithio y cewch chi Ŵyl dangnefeddus.
No comments:
Post a Comment