Tuesday 14 June 2016

Y Dyn Drws Nesa


Ar y “dyn drws nesa” mae’r bai. Dwi’n reit siŵr o hynny. Roeddwn i wedi gofyn iddo fo osod y blwch nythu ar 14eg Chwefror eleni. “Mi wna i ti wsnos nesa,” oedd yr ateb, ag mae’n siŵr eich bod chi’n gwybod cystal â finna be mae hynny’n ei olygu!

Mi fu’r blwch nythu ar ben y wal am ryw wsnos go dda nes i mi ddechra pryderu y basa cathod yn dŵad heibio a ‘mosod ar y blwch. A dyna pryd y gwnes ei symud yn nes at lle roedd o i fod, sef y goeden afalau yn yr ardd isaf. Roedd o fod i gael ei osod ar yn ddigon uchel ar y goeden a’i gefn i’r gwynt o’r de-orllewin. Wrth gwrs, be wnes i ond ei adael yn yr hollt rhwng y ddau foncyff ac atgoffa fy hun bron yn ddyddiol fod yn rhaid i mi ofyn i’r “dyn drws nesa” ei osod o lle roedd o i fod.

Y drwg ydi, mae bywyd yn rhy brysur yn tydi? A chant a mil o bethau gan rywun i’w wneud a rywsut mi lithrodd Chwefror yn Fawrth, mi aeth mis Mawrth drwy fy nwylo a chyn mod i wedi troi rownd roedd hi’n ddiwedd Ebrill.

Yna, un diwrnod, wrth wag-symera yn ffenestr y llofft lle bydda i’n gweithio, dyma sylwi fod ‘na dderyn bach wedi mynd i mewn i’r blwch nythu. Na! Doedd bosib eu bod nhw wedi dechrau nythu! Ond wir i chi, dyna oedd wedi digwydd. Titw mawr oedd ‘na, a fedrwn i wneud dim oll ond gwylio a beio fy hun am adael y blwch mor agos at y ddaear – a rhempio’r “dyn drws nesa”! Peth hawdd ydi gweld bai ar bobl eraill pan mae’ch cydwybod yn eich pigo ynte?



A felly buodd hi. Dau ohonyn nhw yn ddiwyd gwibio eu ffordd i mewn ac allan o’r blwch nythu a finna’n cael cathod bach yn trio cadw cathod draw. Fin nos roeddem ni’n medru clywed y cywion yn gweddi o’r tu mewn, ac yna un diwrnod, distawrwydd. Roedden nhw wedi mynd. Mi fues i’n lwcus – yn lwcus ofnadwy!

Ond nid dyna ei diwedd hi. Roedd gen i flwch nythu arall – yn yr ardd ucha y tro yma. Roedd hwn wedi bod yn un da iawn a titw Tomos las wedi nythu yn yr un bach yma ar goeden y tresi aur ers blynyddoedd, ond roedd y blwch wedi dechrau darfod a’r gwaelod bron wedi disgyn, ac oeddwn, roeddwn i wedi bwriadu trwsio hwn hefyd ac unwaith eto wnes i mo’i chyrraedd hi.

Yna un dydd Sadwrn hafaidd ym mis Mai, tra’n eistedd ar y siglen yn yr ardd yn sgwrsio’n braf mi ddaeth ‘na ddwrdio mwyaf dychrynllyd o goeden eirin gyfagos. Titw Tomos las oedd ‘na a chyn pen dim roedd ‘na un arall wedi cyrraedd ato ac un ohonyn nhw’n dwrdio ac yn ysgwyd ei adenydd na fuo erioed rostiwn beth. Mi feddyliais am funud mai cyw yn begian bwyd gan riant oedd ‘na, ond buan iawn y sylweddolais fy nghamgymeriad a deall mai ceiliog ac iâr oedd ‘na.

Yna’r munud nesa, tawelwch. Mae’n rhaid fod ganddyn nhw nyth yn rhywle a dyma godi o fy niogi paradwysaidd bnawn Sadwrn a mynd i ddechrau chwilio. Rhaid fod y nyth yn weddol agos i’r titw tom fod yn dwrdio gymaint, a dyma basio’r wal a dechrau chwilio ar hyd y clawdd a’r gwrych a sbïo ar y coed eirin (sydd yng ngardd y “dyn drws nesa”) ond welwn i ddim. Nôl â fi i glydwch y siglen, dim ond i wynebu’r un storm o brotest eto, ac mi gafodd y titw tom ei enwi “y cythraul bach cras”!

Hynny fu. Yna, fore Llun, wrth roi’r dillad ar y lein, mi welais lle roedd y nyth – yn y wal. Os craffwch yn ofalus ar y llun, mi welwch fflach o rywbeth glas/gwyrdd/llwyd yn dŵad allan o’r twll isaf yn y wal, ac ia, y titw tomos las ydi o. Dwi’n sobor o falch o ddweud fod y rhain hefyd wedi codi i hedeg yn llwyddiannus, er, mi faswn yn falch tasa nhw ddim wedi gwneud ar ddiwrnod trip yr Ysgol Sul pan nad oedd gen i amser i dynnu eu lluniau!

Beth bynnag, mi fydd y “dyn drws nesa” adra o’i wyliau wsnos nesa – a gesiwch be fydd y joban gyntaf fydd yn ei wynebu!