Wednesday 20 July 2016

Mesur fy Ngardd 20fed Gorffennaf 2016


Mesur fy ngardd
Yn Steddfod yr Urdd yn Sir y Fflint roeddwn, ac un dda oedd hi hefyd ynte? Ac wrthi’n crwydro o stondin i stondin yn edrych am y peth yma a’r peth arall, a dyma gyrraedd y Gwyddonle. Reit wrth y drws, roedd ‘na stondin ddifyr iawn yr olwg a dyma stopio a dechrau edrych ar y pamffledi ar y bwrdd, ac mi ddaeth ‘na ddyn ifanc clên iawn ata i a gofyn os oeddwn i isio help. Dwi wedi sylweddoli wedyn mai Iwan Edwards oedd o, o’r rhaglen Garddio a Mwy ar S4C.
Edrych ar daflen arolwg “Polli:Nation” roeddwn i, ac mae’r enw’n glyfar iawn yn Saesneg gan mai edrych ar beillio mae’r arolwg. Mi eglurodd Iwan mai cyfan sydd angen ei wneud ydi mapio llecyn 10 metr wrth 10 metr yn yr ardd, cofnodi sut fath o dir ydi o (concrit, pridd, glaswellt etc), cofnodi pa fath o blanhigion sy’n tyfu yna ac wedyn cofnodi pa drychfilod sy’n ymweld â’r llecyn. Roeddech chi’n cael templed reit hwylus yn y cyfarwyddiadau, rhestr o blanhigion i’w nodi a chanllaw clir yn dangos y gwahanol drychfilod allai ymweld â’ch Eden fach.
Reit, be allai fod yn symlach? Wel, ‘blaw am anhawster mesur deg metr wrth ddeg metr a wedyn mesur y darnau o fewn y deng metr sgwâr, roedd o’n weddol hawdd. Wnes i erioed sylweddoli darn mor fawr ydi 10 metr wrth 10 metr! Yn fras, mae metr tua’r un fath â llathen ac felly, tua deg llath wrth ddeg llath.
Dyma ddechrau brasgamu i drio mesur hyn a gweld ar fy union gymaint o goncrit a glaswellt diffaith oedd gen i yn y darn yma o’r ardd ac mi fydd yn rhaid i mi drio mynd ati i blannu rhagor o lwyni a blodau sy’n mynd i ddenu peillwyr y flwyddyn nesa!
Ond roedd yn rhaid gwneud hyn yn iawn, ac felly dyma ofyn i’r ‘bos’ fy helpu i fesur 10m wrth 10m. Sôn am strach! Ond, gair o gysur i chi, dyma oedd y rhan anoddaf – roedd popeth arall yn reit hawdd ac yn hynod o bleserus.
Roeddwn i wedi dewis y darn sydd wrth ymyl y garej a lle mae gen i siglen lle bydda i’n eistedd i ryfeddu at fy ngardd. Nid ei bod hi fel gardd Kew, peidiwch â chamddeall, ond mae hi’n rhoi llawer iawn o bleser i mi. Gan fy mod wedi cael fy ngorfodi i eistedd yn llonydd a gwylio’r byd yn mynd heibio yr haf yma rydw i wedi gwerthfawrogi’r ardd yn fawr iawn.
Mi dria i ddisgrifio’r darn yma o’r ardd i chi. Mae ‘na wal bach ar hyd un ochr a blodau yn tyfu ar ei phen, wedyn gwrych y lôn, darn o lawnt ar yr ochr arall ac mae’r garej yn ffurfio’r bedwaredd ochr. Mae ‘na lwybr concrit wrth ochr y garej ac ambell i bot yn llawn blodau ger y siglen.
Hefo border o bridd gweddol lydan o’i gwmpas ac ar hytrawst, mae hen sylfaen y cwt haf pren chwythwyd i lawr yn stormydd y gaeaf tua pum mlynedd yn ôl. Doeddwn i ddim yn siŵr iawn be i’w wneud hefo’r darn concrit yma, ond o blannu lafant , mantell Fair a chlychau cwrel o’i gwmpas, mae’n llwyddo i’w guddio’n weddol dda, ac mae’n amlwg fod y lafant yn lecio ei le yn fawr yna.
Mae ‘na forder gweddol fawr wrth ran o’r gwrych ger y lôn, celynnen, coeden tresi aur reit nobl, slabiau yn arwain dan y lein ddillad ac mae’r gweddill yn lawnt. O ia, mi anghofiais sôn mae gen i dair coeden ddrops a dwy ywen yn rhan o’r cyfan.



A rŵan y cyfan dwi angen ei wneud ydi siglo ar y siglen yn haul yr haf a gweld pa drychfilod sy’n mynd i ymweld â fy Mharadwys fach, eu cofnodi a rhannu’r wybodaeth hefo Polli:Nation. Pasiwch y Pimms plîs!



Sunday 10 July 2016


Y Paun

Trip yr Ysgol Sul oedd hi a ninnau wedi mynd i’r Gelli Gyffwrdd i’r plant gael diwrnod o hwyl. Roedd hi’n ddiwrnod godidog o braf (do, dan ni wedi cael rhai o’r rheini!) yn nechrau Mehefin a phawb mewn hwyliau da. Roedd yr hen blant wedi rhuthro yma ac acw ar y gwahanol bethau, a’r rhieni a’r teidiau a’r neiniau yn bustachu ar eu hôl hefo diodydd ac eli haul a phopeth arall sydd ei angen ar blant y dyddia yma.

Roedd hi’n flynyddoedd ers i mi fod yn y Gelli Gyffwrdd ar gyrion Bethel ac roeddwn i wedi fy synnu’n fawr hefo’r holl newidiadau oedd wedi digwydd yna ers y tro dwytha i mi fod yno. Beth bynnag, wedi tro bach o amgylch dyma eistedd wrth fyrddau picnic yng nghysgod coed a chael paned a rhywbeth i’w fwyta. A dyna lle roeddem ni yn rhoi’r byd yn ei le pan wnaeth o ymddangos, a cherdded yn dalog tuag atom.

Y fo oedd bia’r lle – roedd hynny’n gwbl amlwg a dim ond cael ein dioddef yno roeddem ni. Roedd o’n smart ac yn swnllyd, a dwi ddim yn meddwl mod i wedi bod mor agos at baun mor swnllyd erioed o’r blaen.

Roeddwn i’n dotio at y ffordd roedd o’n troedio’n ofalus i chwilio am ei fwyd, ac mi fues i a sawl un arall, yn disgwyl am hydoedd iddo agor ei gynffon. Ond pan wnaeth o, roedd o’n odidog. Roedd gweld ei gynffon yn agor allan a’r symudliw gwyrdd a glas yn cymryd gwynt rhywun. Y ceiliog, y paun, sydd â lliwiau gwych yma, mae’r beunes yn llawer mwy syber.

Aderyn o gyfandir Asia ac Affrica ydi’r paun ac mae pwrpas y gynffon enfawr yma a’r symudliw gogoneddus wedi bod yn destun cryn drafod dros y blynyddoedd. Mi awgrymodd Charles Darwin mai’r pwrpas oedd denu’r ieir a bod y nodweddion coegwych yma wedi esblygu am fod yr ieir yn dewis y ceiliogod oedd yn dangos eu hunain fwyaf. Yn fwy diweddar mae ‘na theori fod y gynffon anferthol yma yn dangos ffitrwydd y ceiliog am fod yn rhai bod yn eithaf cryf a ffit i fedru dal ac arddangos y fath nodweddion.

Y paun o’r India sydd â’r plu symudliw glas a gwyrdd ac mae’r gynffon hefo’r llygaid ar eu blaenau sydd ddim ond i’w gweld yn glir pan fydd y paun yn agor ac yn arddangos ei gynffon. Mae’r iâr a’r ceiliog hefo crib ar eu pen, ond ryw gymysgedd o lwyd, brown ac ychydig o wyrdd ydi’r iâr. Mae hithau’n arddangos ei phlu i gadw ieir eraill draw neu i roi arwydd i’w chywion fod perygl gerllaw. Ryw liw gwyn budr ydi’r cywion.

Nodwedd o’r enw lliwiad ffurfiannol (structural coloration) sy’n gyfrifol am y lliwiau gwych sydd gan y paun. Brown ydi lliw plu’r gynffon ond mae eu strwythur microsgopig yn ymyrryd â golau y gallwn ni ei weld a dyma sy’n gwneud iddyn nhw adlewyrchu golau glas, gwyrddlas a gwyrdd, ac mae ’na symudliw yna.

Robert Hooke ac Isaac Newton oedd y ddau gyntaf i sylwi ar liwiad ffurfiannol a’r hyn oedd yn ei achosi sef ymyriant tonnau (wave interference) ac fe eglurodd Thomas Young beth oedd symudliw. Fe’i disgrifiodd fel canlyniad i ymyriad rhwng dau neu ragor o adlewyrchiadau o ddau neu ragor o arwynebau o ffilmiau tenau, wedi’i gyfuno â phlygiant wrth i’r golau gyrraedd a gadael ffilmiau o’r fath. Felly, os dwi wedi dallt yn iawn, geometreg sy’n penderfynu mai ar rai onglau fod golau sy’n cael ei adlewyrchu o ddau arwyneb yn ymyriant adeiladol, ac ar onglau eraill mae’n ymyriant dinistriol, ac felly’n achosi i wahanol liwiau ymddangos ar onglau gwahanol.

Mae’r ffenomenon yma i’w weld hefyd yn lliwiau hyfryd adenydd gloÿnnod byw ond maen siŵr mai yng nghynffon liwgar, fawreddog y paun mae o’n fwyaf trawiadol. Ac oedd, mi roedd o’n werth ei weld ac yn un peth arall wnaeth ychwanegu at ddiwrnod ardderchog.


Monday 4 July 2016


Ail Natur 117                                         6 Gorffennaf 2016



Diolch yn fawr iawn i Rhoda Bramhall, Rhuthun am ei llun hyfryd o’r wisteria wych sydd ganddi ar dalcen y tŷ ac i Edwyn Ellis, Dulas am anfon y penillion hyfryd  o enwau’r ffermydd godre’r  Eifl. Dwi bron yn siŵr fod Percy Hughes wedi ysgrifennu rhai i ardal Llanddyfnan hefyd – mi fydd yn rhaid i mi fynd i chwilio amdanyn nhw. Tybed oes ‘na rai mewn ardaloedd eraill yng Nghymru? Os oes, beth am eu rhannu hefo ni a tybed oes modd cael ambell lun hefyd i roi’r penillion yn eu cyd-destun?



Wn i ddim faint o le sydd gennych chi yn eich gardd - mae gen i lawer gormod pan fydd angen torri’r gwair a chwynnu! Ond os mai ychydig o le sydd gennych yn eich gardd, un syniad da y clywais i amdano’n ddiweddar  gan y Cymdeithas Gwarchod Glöynnod Byw (Butterfly Conservation) ydi plannu llond pot o flodau er mwyn denu peillwyr fel glöynnod byw i’ch gardd.



Mae glöynnod a gwyfynod yn perthyn i grŵp o dros 1500 o rywogaethau sy’n peillio ein blodau gwyllt a’n cnydau. Mae’r rhain yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu bwyd ond mae eu niferoedd yn gostwng oherwydd newid yn yr hinsawdd, colli cynefin a ffermio dwys. Os ydi peillwyr fel y glöynnod byw, gwyfynod, pryfed hofran, gwenyn a chwilod yn dal i ddiflannu, mi allai fod yn dominô ar ein blodau, ein hanifeiliaid ac arnom ninnau hefyd.



A dyna pam mae’r Gymdeithas yn gofyn i chi blannu planhigion yn yr ardd sy’n denu peillwyr neu blannu llond pot o blanhigion sy’n llawn neithdar wrth y drws. Y neithdar ydi’r tanwydd sydd ei angen ar y trychfilod yma i’w galluogi i ddal i hedfan a pheillio ein cnydau a’n blodau.



Rhai o’r blodau y medrwch chi eu defnyddio ydi mintys y creigiau neu’r penrhudd (Origanum vulgare; Wild Marjoram), cosmos Mecsico (Cosmos bipinnatus; Mexican aster), mintys y gath (Nepeta cataria; Catmint), mynawyd y bugail neu big-yr-aran (Geranium; Cranesbill) – mae digonedd o ddewis o’r rhain o bob lliw ac maen nhw’n sobor o ddidrafferth, y llygad llo mwyaf (Leucanthemum x superbum; Shasta Daisy), seren danbaid (Liatris spicata; Gayfeather), a chlust yr oen (Stachys byzantina; Lamb’s Ear). Yn ddiddorol iawn, mae nifer o’r planhigion yma’n perthyn i deulu’r farddanhadlen (Lamiaceae) sef y teulu mae’r mintys yn perthyn iddo ac mae llawer o’r aelodau hefyd yn blanhigion meddyginiaethol.
Cosmos Mecsico - Llun Freia Turland, Butterfly Conservation




Yn ôl y Gymdeithas mae’n hawdd iawn tyfu’r rhain i gyd, ac mi ddôn nhw â lliw a llun, a glöynnod byw, gobeithio, at garreg eich drws!



Ella i chi gofio i mi ymweld â Portmeirion rai wythnosau yn ôl, ac ar ôl cerdded o gwmpas yn edmygu’r Gwyllt, penderfynu mynd i gael tamaid o ginio. A dyma eistedd yn yr haul wrth hen Neuadd y Dref yn mwynhau ein cinio. Er mawr syndod i mi, beth ddaeth i rannu’r pryd ond adar powld! Roeddwn i wedi dotio eu gweld mor eofn ac mi gawsom gwmni y titw mawr hefo’n cinio.

 Y titw mawr powld!




A sôn am adar mae ‘na amcangyfrif fod dros ddwy fil o balod yn nythu ar Ynys Fidra yn Aber Gweryd (Firth of Forth) eleni yn dilyn blynyddoedd o gael gwared â phlanhigyn ymledol o’r ynys. Mi synnais o ddeall mai’r hocyswydden neu ddail rhocos (Lavatera arborea; Tree mallow) oedd y planhigyn yma. Mae’r ynys yn warchodfa gan Gymdeithas Gwarchod Adar yr Alban ac mae’n bur debyg mai ceidwad y goleudy oedd yn gyfrifol am blannu’r dail rhocos yno tua dechrau’r ddeunawfed ganrif, a hynny am fod gan y planhigyn rinweddau meddyginiaethol ond yn bwysicach na hynny, roedd yn cael ei ddefnyddio fel papur toiled.
Hocyswydden neu ddail rhocos



Wel, doeddwn i erioed wedi clywed am y fath ddefnydd i’r planhigyn. Tybed pa blanhigyn eraill sydd wedi eu defnyddio i’r un diben? Byddai’n hynod o ddiddorol clywed gennych.


Friday 1 July 2016

Arogl hyfryd perwellt y gwanwyn


Yr Herald Cymraeg - Ail Natur 116                     22 Mehefin 2016





Diolch yn fawr i Rhian Jones am anfon dywediadau ei thad, Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli ac o Rydyclafdy, am y ddraenen ddu a’r ddraenen wen, ac am eu hegluro i ni. Diolch hefyd am y cwpled :

“Os deilia’r dderwen o flaen yr ynn

Gwerth dy ddafad a phryn fyn.”



Diolch yn fawr iawn i Gwyn Roberts, Penysarn am anfon lluniau o fwyeilch atom; rydach chi’n gwbl gywir – mae’r iâr fymryn yn fwy brown na’r ceiliog sy’n hynod o smart yn eu ddu a’r lliw aur hyfryd ar ei big.



Efallai eich bod yn cofio i mi sôn am y daith wych gefais i yng Nghwmni Seimon, Myfyr a Morus ar lethrau Cader Idris – ia, dyna oedd penderfyniad pwyllgor Parc Cenedlaethol Eryri, ei alw’n Cader Idris. A diolch i Morwenna Williams a Glyn Thomas am eu llythyrau am y gog. Pleser ydi ei chlywed bob blwyddyn ac roeddwn i mor falch o fod wedi ei chlywed yn rantio ar lethrau Cader Idris.



Diolch i Emrys Llewelyn, Caernarfon am ei lun o’r ‘gwylanod yn cael sgram’! A diolch i Rhoda Bramhall, Rhuthun am rannu mannau sy’n agos at ei chalon hefo ni, sef Sycharth, Eglwys Sant Dogfan, Llanrhaeadr ym Mochnant a Chapel Pontrobert. Dwi erioed wedi bod yn Sycharth ac mi leciwn i fynd yno – cyn diwedd yr haf ella!



Cefais ymholiad yn ddiweddar yn holi beth oedd ‘deilen sawdl y diafol’. Mae’r cyfeiriad yn Gwen Tomos, Daniel Owen lle mae Nansi’r Nant yn dweud wrth Harri, “petaet ti’n rhoi’r ddeilen yma o fewn modfedd i dy drwyn, fe fyddi di’n marw. Fyddai dim ond rhaid i mi yrru’r ddeilen yma mewn llythyr i – mi wyddost pwy – ag iddo fo ei harogli, fe fyddai’n cicio’r bwced yn syth.” Doedd gen i ddim syniad yn y byd be oedd y ddeilen y cyfeirir ati ac felly dyma holi rhai o fy nghyfeillion sy’n fwy gwybodus na fi, a doedden nhw ddim yn gwybod chwaith! Felly, dyma droi at ddarllenwyr gwybodus yr Herald Cymraeg. Oes rhywun ŵyr?



Diolch i Edwyn Ellis, Dulas am ei lythyr diddorol am y robin pen grynu (Briza media; Quaking grass). Mae sawl enw Cymraeg ar hwn gan gynnwys arian byw, dail crynu, eigryn, gwenith yr ysgyfarnog, hadau sgwarnog, robin grynwr ac ŷd Sant Pedr. Mi fydda i wrth fy modd hefo fo ac mae’n dda gen i ddweud fod ‘na dipyn ohono yng Nghors Bodeilio sydd ar gyrion y Talwrn, ac yn un o warchodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru.



Wn i ddim os ydach chi, fel fi, yn gwirioni ar arogl gwair newydd ei dorri? Be sy’n well ar noson o haf na phan fydd grwnian y peiriannau torri gwair wedi darfod ac mae awel y nos yn llawn o’r arogl meddwol o wair newydd ei dorri? Perwellt y gwanwyn (Anthoxanthum odoratum; Sweet vernal grass) ydi’r gweiryn sy’n gyfrifol am hwn. Mae o’n un o’r gweiriau sy’n blodeuo gynharaf yng Nghymru ac, fel llawer o’r gweiriau, yn blanhigyn eithaf disylw. Blodau bach melyn golau iawn sydd ganddo, ond yr arogl mwyaf hudolus. Mae rhannau benywaidd y blodyn yn datblygu o flaen y paill, sef y rhannau gwrywaidd.



Cwmarin  ydi’r cemegyn sy’n gyfrifol am yr arogl peraidd yma ac mae o i’w gael hefyd mewn erwain neu frenhines y weirglodd, ac yn y briwydd bêr (Galium odoratum; sweet woodruff) ac oes, mae arogl da arnyn nhw. Mae ffwng yn medru troi cwmarin i dicoumarol, sydd yn wrthgeulydd gwenwynig. Mae warffarin, sy’n wrthgeulydd, wedi ei baratoi o dicoumarol, ac mae warffarin wedi ei ddefnyddio i ladd llygod mawr ac i atal thrombosis. Diddorol ynte?  






Llond cae o erwain

 Yr erwain neu brenhines y weirglodd
















Blodau ag Enwau Beiblaidd


Blodau ag Enwau Beiblaidd

Mae ‘na beth mwdradd o flodau sydd ag enwau Beiblaidd arnyn nhw, ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn flodau sy’n ddigon cyfarwydd i ni.

Dail y Beiblau ydi un o’r rhai amlycaf am wn i. Efallai mai hefo’r enw Hypericum rydach chi’n eu hadnabod nhw, sef teulu’r eurinllys neu llysiau Gŵyl Ifan. Llwyni yn yr ardd fel rheol ydi dail y Beibl hefo blodau melyn reit fawr arnyn nhw ac maen nhw hefyd yn cael eu galw’n Tutsan. Roedd pobl erstalwm yn cario’r ddeilen yn eu Beibl neu eu Llyfr Emynau ac roedd y deilen y llyfn ac heb fod yn rhy fawr.


Dail y fyddigad ydi’r enw ar lafar ym Môn ar yr eurinllys trydwll (Hypericum perforatum; Perforate St John’s Wort) ac mae gen i dystiolaeth ei bod wedi ei defnyddio yn ardal Llanfechell i dynnu’r fyddigad – sef rhywbeth fel carbwncl neu gornwyd, neu benddyn oddi ar y croen . Byddai deilen y planhigyn yn cael ei rhoi mewn llefrith i g’nesu ac yna ochr isaf y ddeilen yn cael ei gosod ar y fyddigad ar y croen. Mi fyddai’r gôr yn dod allan o’r fyddigad wedyn.

Roedd yr enw dail y fyddigad wedi fy nghyfareddu i’n llwyr ac mi es i chwilio am ei ystyr yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru. Yno, dan ‘fyddigad’ mi welwch “bendigaid – y fendigaid”. Felly rydw i’n cymryd mai llygriad ydi’r enw o “dail y fendigaid”.

Mae yna nifer o wahanol blanhigion yn perthyn i deulu’r eurinllys (Clusiacae) ac aelod arall ydi rhosyn Saron (Hypericum calycinum). Mi fydd rhai aelodau o’r teulu yma yn cael eu tyfu yn ein gerddi.

Blodyn arall sy’n eithaf cyffredin yn yr ardd ydi mantell Fair (Alchemilla mollis; Lady’s mantle). Mae hwn fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar hyd ochrau llwybrau neu forderi a gan fod y dail yn lled fawr, mae’n planhigyn defnyddiol dros ben i atal chwyn. Mae’r dail hefyd yn dal diferion gwlith a glaw arnyn nhw nes eu bod yn sgleinio pan fydd yr haul yn ymddangos. Roedd y dail yn arfer cael eu defnyddio i’w rhoi yn y gwely i gadw chwain draw.


Abraham-Isaac-Jacob ydi enw arall sy’n fy nghyfareddu. Trachystemon  orientalis ydi ei enw gwyddonol ac mae’n perthyn i’r teulu Boraginaceae, sef teulu tafod yr ych.

Llysiau Solomon neu dagrau Job ydi un arall. Polygonatum multiflorum ydi ei enw gwyddonol a rhai o’i enwau Saesneg ydi Solomon’s seal, David’s Harp, a ladder to heaven. Mae ‘na flodau bach gwyn yn disgyn o’r gesail hefo’r dail ar hwn ac mae’n un tlws iawn i’w gael yn yr ardd.

Os trowch chi i dir anial, mi ddowch ar draws ysgol Crist neu’r ganrhi goch (Centaurium erythrea; Common Centuary) sy’n flodyn bach hynod o ddel hefo petalau pinc ar waethaf yr enw – y ganrhi goch. Roedd ‘na gred erstalwm fod can rhinwedd yn y planhigyn hwn.


Planhigyn arall a’r enw Crist yn rhan ohono ydi Llysiau Crist, sef Polygala vulgaris a Common Milkwort yn Saesneg.

Llygad Crist ydi enw arall ar yr effros (Euphrasia nemorosa; Eyebright) sy’n blodeuo ar hyn o bryd. Os ewch chi draw i dwyni tywod, mae digon ohono i’w weld yn y pantiau ar hyn o bryd – yn gymysg hefo’r gruw fel rheol ac yn llunio cwrlid lliwgar digon o ryfeddod.

Enw Beiblaidd arall sy’n syndod o gyffredin ar blanhigion ydi Iago. Un enghraifft ydi llysiau Iago neu creulys Iago (Senecio jacobaea; Common Ragwort). Mae hwn eto yn ei flodau rŵan ac mi welwch chi o ar ochr y ffordd neu ar dir anial fel rheol ac mae’n wenwynig i anifeiliaid. Fel rheol hefyd mi fydd lindys gwyfyn y creulys yn bwydo arno.


Dyna i chi rai planhigion ag enwau Beiblaidd arnyn nhw, ac os gwyddoch chi am ragor, beth am eu rhannu hefo ni? A gorau oll os oes gennych chi luniau!