Wednesday 24 August 2016


Glas ym Myd Natur

Mae’n rhyfedd meddwl, ond does ‘na ddim cymaint â chymaint o las ym myd natur. Wel, ‘blaw am yr awyr a’r môr wrth gwrs ond mae’n debyg mai adlewyrchiad ydi hynny o sut rydan ni’n gweld pethau ac nid lliw glas ei hun.

Mi wn ein bod yn dweud fod ‘y ddaear yn glasu’ ac mae o’n ddywediad hyfryd, ond gwyrdd ydan ni’n ei feddwl mewn gwirionedd ynte? Mae ‘na flodau glas ond ychydig ydyn nhw o’u cymharu â blodau eraill fel melyn a choch.

Un blodyn dwi’n arbennig o hoff o’i weld yn gynnar yn y gwanwyn ydi llygad doli (Veronica chaemaedrys; Germander speedwell).


Nad fi’n angof ydi un arall ac mae clychau’r gog ne bwtsias y gog yn ffefryn hefyd – “yr hen lesmeiriol baent” chwedl R. Williams Parry.


Ond wedi dweud hynny, ‘blaw am ambell i blanhigyn fel y clefryn a thamaid y cythraul, a’r planhigyn godidog hwnnw, celyn y môr,

‘chydig ar y naw o flodau glas sy ‘na ac eithrio blodau gardd, ac mae ‘na un mynawyd y bugail sydd â lliw glas gogoneddus arno.


Un planhigyn sydd â blodau glas golau godidog ydi had llin. A phan rydach chi’n edrych ar gae o flodau had llin o bell, maen edrych yn union fel llyn glas. Ond byr hoedlog iawn ydi’r petalau ac fel arfer maen nhw’n disgyn ar ôl ryw ddiwrnod. Mae planhigion ar y cyfan angen amodau alcali er mwyn medru cynhyrchu’r lliw glas, ac yn amlach na pheidio, mymryn yn asidig ydi planhigion.

Ac mae ‘na lai fyth o drychfilod, adar ac anifeiliaid sy’n las. Wel heblaw am adar fel glas y dorlan a ffrwythau fatha llus ag ati.

Tan tua 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl doedd o ddim llawer o wahaniaeth pa liw oedd pethau i drigolion y ddaear am nad oedd llygaid gan unrhyw un.  Mae 600 miliwn o flynyddoedd yn dipyn o amser a’r adeg hynny, medda nhw – y gwybodusion hynny ydi – roedd ‘na anifeiliaid syml oedd yn gwneud dim byd ond nofio o gwmpas. Roedden nhw’n ymwybodol o olau neu o heulwen, er dwn i ddim sut chwaith, ond doedd ganddyn nhw ddim yr organau na’r organebau sy’n medru amgyffred lliw.


Felly cyn i’r llygad esblygu, doeddan nhw ddim yn medru gweld be oedd ‘na heb sôn am weld mewn lliw. Roedd yr anifail cyntaf wnaeth esblygu dull o weld, hefo mantais aruthrol dros y lleill, ac yn fuan iawn wedyn fe wnaethon nhw ddechrau gweld pethau mewn lliw.

Yn sydyn reit roedd lliw fel arwydd neon yn deud wrth anifeiliaid – dyma fwyd neis! Ryw arwydd fel Macdonalds bach cyntefig! Os oeddech chi’n digwydd bod yn llyngyren neu’n fwydyn oedd yn felyn neu’n goch llachar, yna druan ohonoch, yn sydyn reit - chi oedd cinio nesa’r anifail mawr. 


Yn raddol fach, felly, roedd gwahanol liwiau’n esblygu ym myd natur, ond nid bob lliw. Mae brown a llwyd yn weddol gyffredin ym myd yr anifeiliaid ac mae digon o wyrdd gan blanhigion, ond mae glas yn lliw sy’n eithriadol o anodd i’w greu.


Dydi’r ‘nhw’ holl wybodus ddim yn hollol siŵr pam. Mi all anifeiliaid wneud melyn a choch o’r pigmentau maen nhw’n ei fwyta yn eu bwyd, ond mae glas yn anodd iawn i anifeiliaid ei greu – a dyna, mae’n siŵr gen i, pam fod cyn lleied o anifeiliaid glas.


A chyn i chi ddechrau enwi adar fel y crëyr glas, wel llwyd ydi hwnnw ynte? Maen rhyfeddol nad oes pigment neu liw glas mewn unrhyw aderyn, dim hyd yn oed y glas gwych sydd ym mhlu’r paen. Adlewyrchu golau maen nhw.


Ydi, mae’n od meddwl nad oes ‘na ddim cymaint â hynny o las ym myd natur ar waetha’r ffaith fod y môr a’r awyr yn las, ond wedyn fasa chi isio bwyta mefus glas?


Sunday 21 August 2016


Gwerddon Glyd yn y Goedwig 

Un o’r prynhawniau hynny pan mae amser yn sefyllian oedd hi a chyfle i fyfyrio a rhyfeddu unwaith eto fyth ar fyd natur. Mewn gardd roeddwn i yng nghanol coedwig yng Ngwlad Pwyl, tua deng milltir ar hugain i’r dwyrain o ddinas Poznan. Roedd awyr las uwchben ac ambell i gwmwl gwyn bychan yma a thraw.


Gwerddon fach oedd yr ardd yng nghanol hen goedwig ddilychwin. Cafodd y coed brodorol lonydd i dyfu yn y goedwig hon ers canrifoedd ac erbyn heddiw mae’r llywodraeth yn gofalu amdani. Yn y darn lle roeddwn i, sef pentref bychan bach o’r enw Bure, roedd cymysgedd o goed llydanddail a choed conifferaidd yn tyfu.

Coed conifferaidd oedd amlycaf ac roedd amrywiaeth o larwydd, coed pîn a ffynidwydd yno ond roedd ‘na hefyd goed llydanddail – rhai oedd yn eithaf cyfarwydd i mi fel bedw, deri a cheirios. Be oedd yn braf am y rhan gonifferaidd o’r goedwig oedd ei bod yn ddigon agored a digon o olau yn cyrraedd llawr y goedwig nes bod cyfle i lystyfiant dyfu dan y coed.


Un peth amlwg iawn ar lawr y goedwig oedd morgrug mawr oedd yn brysur yn croesi’r llwybrau i bob cyfeiriad. Roedd y pridd yn eithaf tywodlyd yn y rhan hon, er ein bod ymhell iawn o’r môr ond roedd sawl llyn a phwll yma ac acw drwy’r goedwig.

Hen ffermdy bychan oedd y bwthyn lle roeddem yn aros a thua pum erw o’i amgylch oedd ryw oes wedi’u torri fel caeau gwair neu eu defnyddio i dyfu cnydau. Roedd yr hen beiriannau lladd gwair yn dal o gwmpas ond erbyn hyn wedi eu defnyddio i harddu’r ardd drwy blannu mynawyd y bugail lliwgar ynddyn nhw.


Roedd yr ardd yn hyfrydwch pur gydag amrywiaeth o goed derw, pisgwydd neu goed leim, castanwydden y meirch, ceirios, afalau, eirin a masarnen fach yn ogystal â llwyni fel eirin Mair neu gwsberis a lelog. Eistedd yn y deildy roeddwn i a grawnwin yn disgyn yn rawnsypiau ir o’r to: mae’r tymheredd yma ym mis Awst yn gallu cyrraedd tua 35-360C ac felly roedd yn fendith cael bod dan y cysgod gwyrdd.


Gerllaw roedd sŵn dŵr rhedegog yn llifo drwy bwll oedd yn llawn pysgod aur boliog a cherflun o grëyr glas yn eu gwarchod.


Yma ac acw yn yr ardd roedd gwlâu o flodau o bob lliw a llun a’r perarogl hyfrytaf yn codi ar yr awel.

Afraid ydi dweud fod glöynnod byw yn cael eu denu i’r ardd ac yn arbennig i’r gwely blodau oedd dan ffenestr y gegin. Y ferfain oedd yn tyfu yno ac arni roedd britheg Sbaen (Issoria lathonia; Queen of Spain Fritillary). Prin roeddwn i’n gallu credu fy llygaid – taswn i wedi gweld hon ym Môn, mi faswn wedi bwrw fy nhin dros fy mhen deirgwaith am ei bod yn brin iawn yn Ynysoedd Prydain.


Roedd ‘na blanhigyn oedd yn edrych yn hynod o debyg i’r byddon chwerw neu chwyn Joe Pye (Eupatorium cannabinum; Hemp-agrimony) ond eto doeddwn i ddim yn ei weld yr un fath rywsut. Felly dyma holi be oedd o, a darganfod mai rhywogaeth gardd oedd o Eupatorium maculatum neu Eutrochium maculatum,  spotted Joe-pyeweed – y byddon chwerw fannog. Roedd hwn wedi denu’r fantell dramor (Vanessa cardui; Painted Lady).


Ladis gwynion neu fflocs yn gymysg â’r seithliw a’r lafant oedd mewn gwely arall, a’r lliwiau a’r arogl fel ei gilydd yn hudolus. Ond yr hyn a ddenodd fy sylw’n fwy na dim oedd yr amrywiaeth o drychfilod oedd yno yr ardd: pryfaid dirifedi, chwiws neu wybed mân (oedd yn cosi digon!), mursennod a gweision y neidr yn hofran uwchben y pyllau dŵr, robin sbonc go fawr, chwilod o bob math, gwyfynod yn y gwyll a glöynnod byw yn y dydd. Seren yr Eden yma, fodd bynnag, oedd merch fach o’r enw Weronika Dwynwen, a bydd, mi fydd yn rhaid i mi gael dychwelyd yna!








Wednesday 10 August 2016


Gwylio’r Ardd



Ella eich bod chi’n cofio i mi “Fesur fy Ngardd” er mwyn cymryd rhan yn yr arolwg Polli:Nation. Wel ers hynny, rydw i wedi bod yn gwylio’r ardd yn ddyfal bob cyfle ga i ac mae diogi a gwylio yn bleser pur.




Y peth cynta’ sy’n tynnu sylw rhywun ydi faint o’r blodau sy’n ddeniadol i drychfilod. Mi synnais i weld faint o wenyn a chacwn oedd yn cael eu denu at y goeden drops, ac mae gen i bedair o’r rhain yn y darn 10 metr sgwâr. Mae’n dlws - un hefo blodau coch a chanol piws ydi tair ohonyn nhw sydd wedi tyfu yn yr ardd yma ers cyn co’ ac sy’n hadu ei hun yma ac acw. Dropsan sydd bron yn wyn ydi’r llall. 





Mae’n wych gwylio’r cacwn a’r gwenyn, a sylwi pa mor ofalus ydyn nhw’n hedfan o un blodyn i’r llall yn casglu’r neithdar ac yna’n mynd ymlaen i’r blodyn nesa. Peth arall ydw i wedi ei werthfawrogi wrth eistedd a gwrando yn llonydd a distaw ar fy siglen ydi su’r gwenyn ac mae hwn yn gyfareddol.



Dw’n hoff iawn o’r gwyddfid sy’n cordeddu ar y rhododendron. Dydi’r llwyn ddim yn tyfu’n fawr iawn, dwi’n amau fod gormod o galch yn y pridd, ond mae’n handi iawn i ddal y gwyddfid. Er mai pur anaml rydw i’n gweld unrhyw beth yn ymweld â’r blodau, dwi’n weddol dawel fy meddwl fod gwyfynod yn ymweld â’r gwyddfid yn ystod oriau’r gwyll.



Diolch i Rhoda Bramhall, Rhuthun am holi am y clychau cwrel pinc, ac mae’n rhaid i mi syrthio ar fy mai a chyfaddef mod i wedi gwneud camgymeriad. Nid clychau cwrel (Heuchera) mo’r rhain ond Diascia (twinspur) fel y gwelwch o’r llun ac rydw i’n ymddiheuro’n fawr am eich camarwain. Rydw i’n hoffi’r Diascia pinc yn fawr ac maen nhw’n lledaenu’n rhwydd yn y border ac yn cuddio llawer o frychau ond dydyn nhw ddim i weld yn denu ryw lawer o drychfilod gwaetha’r modd. Hyd y gwn i, does gan hwn ddim enw Cymraeg – oes rhywun am fentro bathu un?


Mantell Fair (Alchemilla vulgairs; Lady’s mantle) ydi un arall sy’n llenwi’r borderi. Blodau digon diddim sydd gan hwn ond dwi’n hoffi ei ddail ac mae gweld diferion o law wedi crynhoi ar y ddeilen yn hyfryd ond dydi hwn chwaith ddim i weld yn denu llawer o drychfilod.


Yr un sy’n denu trychfilod, fodd bynnag, a hynny wrth y fil ydi’r lafant ac mae ei arogl yn hyfryd! Mae gen i hefyd yn y darn deg metr yma, fynawyd y bugail (Geranium) lliw porffor golau ac unwaith eto, mae pob math o drychfilod yn cael eu denu at hwn. Mae gen i fynawyd y bugail glas dan y rhosod yn yr ardd isaf sy’n denu nifer o gacwn.


Dau blanhigyn sy yn yr ardd isaf ydi’r goeden fêl a’r seithliw, a dyma i chi blanhigion sy’n denu gloÿnnod byw ac mae’r arogl o’r goeden fêl yn feddwol!


Mi gyfrais bymtheg o’r fantell goch (Vanessa atlanta; Red Admiral), un iâr fach amryliw (Aglais urticae; Small Tortoiseshell) ac un peunog (Inachis io; Peacock) ar y rhain y bore o’r blaen ac roedd ‘na fantell goch wedi glanio ar y llygad llo mwyaf.


Y lle arall mae ‘na su gwenyn ydi o’r gruw yn yr ardd berlysiau. Wrth ddiogi a gwylio’r ardd dwi wedi dysgu be sy a be sy ddim yn denu’r trychfilod, sef y peillwyr, i’r ardd.

Dwi hefyd wedi sylweddoli fod gen i lawer iawn gormod o wair a ‘blaw am un darn o feillion ac ambell i flodyn menyn yma ac acw, dydi’r gwair ddim yn denu peillwyr, felly mi fydd angen plannu gwely arall o lwyni a blodau at flwyddyn nesa. Dwi wedi penderfynu’n barod mai dim ond planhigion peraroglus a rhai sy’n denu peillwyr fydd yn hwn. Tybed pa rai ydi’ch hoff flodau peraroglus chi a pha rai sy’n rhai da am ddenu trychfilod?





Ail Natur 118                                         3 Awst 2016



Mae newyddiadurwyr yn aml yn cyfeirio at y cyfnod yma fel “dyddiau cŵn” ac mae tarddiad yr enw yn eithaf difyr. Roedd yr Hen Roegiaid yn meddwl am gytser y Canis Major fel ci yn rhedeg ar ôl ysgyfarnog. Siriws neu Seren y Ci oedd trwyn y ci ac roedden nhw’n cyfeirio at leoliad y seren arbennig hon yn y ffurfafen. I’r Groegiaid a’r Rhufeiniaid, roedd hi’n ddyddiau cŵn pan oedd y seren hon yn ymddangos ychydig cyn codiad yr haul tua diwedd Gorffennaf. Iddyn nhw y dyddiad yma oedd poethaf y flwyddyn ac yn gyfnod allai ddod â thwymyn neu drychineb hyd yn oed. Mae cyfeiriad at hyn gan Homer yn yr Iliad, lle mae’n cyfeirio at Seren y Ci fel ci Orion ac yn ei disgrifio fel seren oedd yn gysylltiedig â rhyfel a thrychineb. Oes ‘na ddywediad Cymraeg am y cyfnod hwn neu ydan ninnau hefyd yn dilyn yr Hen Roegiaid?     

Yn ddiweddar fe ddigwyddodd sawl anffawd y naill un ar ôl y llall yn ein teulu ni: dim byd mawr, mae’n dda gen i ddweud, ond roedd y ‘bos’ yn adrodd hanes ein teulu wrth gyfaill iddo o’r Rhos, ac meddai yntau, “Wel rargien fawr, aethoch chi ddim i chwilio am hen blât?” Mi aeth rhagddo i egluro mai dyna fyddai’n digwydd gartref – os byddai dau anlwc neu anffawd wedi digwydd, mi fyddai ei fam yn ddi-ffael yn mynd i chwilio am hen blât a’i thorri’n racs, er mwyn gwneud yn siŵr fod y trydydd anlwc wedi digwydd. Tybed pa mor gyffredin ydi hyn? A be arall fyddwch chi’n ei wneud i geisio torri anlwc neu i annog lwc?

Diolch yn fawr iawn i Helga Martin, Ysbyty Ifan am rannu’r cyfoeth o adar sy’n ymweld â’i gardd hefo ni.

Llun o fysedd y cŵn anarferol gafwyd gan Morwenna Williams, Pentraeth. Dwi’n ryw feddwl mai bysedd y cŵn gardd oedd y rhain ac mae’n bosib eu bod wedi eu croesi yn benodol er mwyn cael blodau gwahanol. Posibilrwydd arall ydi mai’r hyn sydd wedi digwydd yma ydi polyploidedd, ac mae hyn yn rhywbeth sy’n digwydd yn gymharol aml mewn planhigion ym myd natur. Yn lle fod ‘na un set o gromosomau (haploid) yn y niwclews, mi all fod yn ddau (diploid), tri (triploid), pedwar set (tetraploid) neu hyd yn oed ragor ambell dro. Rhai enghreifftiau o blanhigion sy’n arddangos polyploidedd ydi melon dŵr, gwenith, dahlias a tiwlipau.

Fe anfonodd Gareth Pritchard glamp o lythyr diddorol yn rhoi hanes Creigiau Rhiwledyn i ni a diolch hefyd am y lluniau hyfryd o’r gwylanod coesddu.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n gwneud cyfrif o adar môr sy’n nythu ar arfordir Cymru ac wedi canolbwyntio ar arfordir Môn a Phen Llŷn yn ystod y misoedd dwytha ‘ma. Mi ddechreuwyd ar y cyfri llynedd ac maen nhw’n gobeithio cwblhau’r cyfri y flwyddyn nesa. Maen nhw’n gwneud hyn er mwyn cyfrannu at y cyfrifiad diweddaraf o adar môr sy’n bridio ym Mhrydain ac Iwerddon – rhaglen gychwynnwyd 45 mlynedd yn ôl er mwyn gweld be oedd yn digwydd mewn poblogaethau adar môr.

 Mae casglu’r wybodaeth yma’n bwysig er mwyn gweld be sy’n digwydd dros gyfnod cymharol hir i’r adar môr a’r anifeiliaid maen nhw’n dibynnu arnyn nhw. Yn barod eleni maen nhw wedi cofnodi newidiadau lleol, gan gynnwys diflaniad nythfa o 500 o wylanod coesddu ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn. Ar y llaw arall roedd ‘na gynnydd o 2,500 i 5,000 yn niferoedd gwylogod ar Ynys Badrig oddi ar ogledd Ynys Môn.

Er y flwyddyn 2000, mae rhai o adar môr mwyaf eiconig Cymru wedi dirywio – rhai fel y  fulfran werdd, aderyn drycin y graig, gwylan gefnddu leiaf a gwylan goesddu. Ond nid newyddion drwg i gyd sydd ‘na gan fod niferoedd gwylogod, llursod a phalod wedi cynyddu.

Diolch i bawb sy’n sgwennu llythyrau mor ddiddorol ac os byddwch chi’n mynd i rywle gwahanol dros yr haf, ac yn gweld rhyfeddodau ym myd natur beth am dynnu lluniau a’u hanfon atom?



Gwarchodfa Conwy



Ar waetha’r ffaith fod holl drafnidiaeth swnllyd yr A55 yn chwyrnellu heibio i warchodfa’r Gymdeithas Gwarchod Adar yng Nghonwy, roedd hi’n rhyfeddol o dawel yno a digon i’w weld heb fynd draw i ganol yr hesg ac i syllu ar yr adar ar y pyllau. Roedd yn braf edrych i fyny Dyffryn Conwy a gweld pobl yn ymlacio ar y warchodfa yn haul y bore.





Gerllaw, roedd digon o arwydd gweithgaredd. Roedd rhywun wedi gosod blwch adar dan y bondo ac roedd teulu o adar to swnllyd iawn wedi ei feddiannu. Roedd yr erwain neu frenhines y weirglodd yn wawl gwyn yn haul y bore ac yn y cefn, yn weddol agos i’r gwrych roedd rhywun wedi bod wrthi’n brysur yn paratoi a gosod cartref i drychfilod hefo’r arwydd “rhowch gartref i fyd natur”.





Mae’r gwaith mae’r Gymdeithas Gwarchod Adar wedi’i gyflawni yma yng Nghonwy yn rhyfeddol. Dwi’n cofio dŵad yma pan oedd y twnnel dan yr afon Gonwy wrthi’n cael ei dyllu a dim byd ond tomenni o rwbel ar y safle yma, ac mae hynny tua phum mlynedd ar hugain yn ôl erbyn hyn. Ers hynny, maen nhw’n sicr wedi cynnig “cartref i fyd natur” yma, ond fydden nhw ddim wedi medru gwneud hynny heb gymorth eu gwirfoddolwyr, ac maen nhw’n chwilio am ragor o wirfoddolwyr.



Derbyniodd y Gymdeithas arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri er mwyn hwyluso’r gwaith yma ac mi fydden nhw’n hoffi recriwtio tua ugain o wirfoddolwyr newydd. Mi fyddan nhw hefyd yn defnyddio’r arian i osod offer rhyngweithiol fel mannau sain a thelesgopau er mwyn annog teuluoedd i fentro ymhellach i’r gwlypdir er mwyn gwerthfawrogi’n llawn y cyfoeth sydd yma.


Chwilio maen nhw am bobl sydd â diddordeb ym myd natur, yn frwdfrydig ac sy’n medru siarad yn rhwydd hefo pawb. Dydyn nhw ddim yn chwilio am arbenigwyr – dim ond am bobl sydd eisiau rhannu eu brwdfrydedd am fyd natur hefo eraill, ac hefo plant yn arbennig. Bod yn fodlon siarad hefo pobl a holi “welsoch chi’r crëyr mawr gwyn ar y pwll?” Oedd, roedd ‘na un o’r rheini yno pan oeddwn i draw yno ddydd Gwener dwytha!





Aderyn trawiadol ydi’r crëyr mawr gwyn a thua’r un maint â’r crëyr glas. Mae’r corff yn wyn, y pig yn felyn a’r traed yn ddu. Ardea alba ydi’r enw gwyddonol a Great White Egret ydi’r enw Saesneg arno. Wrth i boblogaethau o’r crëyr mawr gwyn gynyddu yn Ewrop, mae eu niferoedd yn cynyddu yn Ynysoedd Prydain ac maen nhw’n amlwg yn teithio’n fwyfwy i’r gogledd o dde Lloegr. Pysgod, trychfilod a llyffantod ydi eu bwyd ac maen nhw’n picellu’r rhain hefo’u pigau hir, miniog.



Mae ‘na ddarpariaeth yma ar y warchodfa yng Nghonwy i blant ysgolion cynradd hefyd. Mae modd i ysgolion ddewis o rhaglenni dysgu sydd  wedi eu cysylltu â’r cwricwlwm, ac mi fedrwch gael hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn i’r plant. Mae’r hyn sy’n cael ei gynnig yn amrywio hefo’r tymhorau ond mae cyfle i weld trychfilod, planhigion ac adar, ac mae’r plant yn gallu dilyn llwybrau’r warchodfa i gael gwersi yn yr awyr agored.



Mae ‘na ganllawiau i athrawon a chyflwyniad ar y wefan ag awgrymiadau am waith blaenorol a dilynol. Cost sesiwn ydi £3.50 fesul disgybl ond ar hyn o bryd mae ALDI wedi rhoi yr arian maen nhw’n ei godi am fagiau plastig er mwyn noddi’r cynllun yma ac mae ‘na rywfaint o bres ar ôl.



Rhan fawr o apêl y warchodfa dwi’n credu ydi na wyddoch chi ddim o un diwrnod i’r llall be welwch chi yma. Maen nhw’n chwilio am wirfoddolwyr sy’n fodlon bod yn hyblyg, sy’n fodlon plannu blodau gwyllt neu baratoi bwyd adar hefo plant, a datgelu rhyfeddodau byd natur iddyn nhw. Os oes gennych chi ddiddordeb, ffoniwch y warchodfa ar 01492 584091 i gael sgwrs. Wyddoch chi ddim beth ddaw i’ch rhan wrth agor y drws yma ar fyd natur.