Thursday 29 September 2016


Coed y Brenin

Sŵn nant yn byrlymu, sŵn yr adar yn canu a sŵn y traffig ymhell islaw i mi oedd yn fy nghroesawu wrth i mi gyrraedd Coed y Brenin. Roedd brigau’r griafolen yn gwargrymu hefo’r aeron coch a hadau’r efwr a’r helyglys yn amlwg iawn. Roedd popeth yn llonydd, dim mymryn o siffrwd y gwynt hyd yn oed a llonyddwch Medi yn lapio am bopeth yn ddistaw a lliwgar.


Ond am unwaith nid wedi dod yma i ryfeddu at fyd natur roeddwn i ond i glywed am y defnydd a wneir o’r coedwigoedd yng Nghymru. Cyfarfod â StJohn Ashworth ac Ifan Jones o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) roeddwn i, i glywed sut mae coed yn cael eu cynaeafu yng Nghymru ac yn benodol yng Nghoed y Brenin. Mae’r coed yma yn rhan o Goedwig Vaughan oedd ar Ystâd Nannau ac mi gredir fod yna goed wedi bod yma ers oes y Tywysogion oedd yn cael eu defnyddio i hela er mwyn pleser yn ogystal ag i gael bwyd.

Diddorol, felly, ydi sylwi fod defnydd Coed y Brenin wedi newid erbyn heddiw o’r hyn fwriadwyd ar ei gyfer pan sefydlwyd y Comisiwn Coedwigaeth ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Y bwriad yr adeg honno oedd gofalu fod ‘na ddigon o bren ar gael ar gyfer rhyfela. Erbyn heddiw mae hamddena yn rhan bwysig o’r hyn sy’n digwydd yng nghoedwigoedd Cymru a chyfle i bobl feicio mynydd, rhedeg a cherdded yn hyfrydwch y gwahanol goedwigoedd.

Sbriwsen Sitca (Picea sitchensis; Sitka spruce), llarwydden (Larix spp; Larch) a ffynidwydden Douglas (Pseudotsuga menziesii; Douglas fir) ydi’r prif gnwd yma a’r Sitca yn bennaf. Mae hon yn goeden sy’n frodorol i ogledd Canada ond mae’n hoffi’r amodau claear a thamp sydd gennym yng Nghymru. Pan fydd y goeden tua ugain i bum mlwydd ar hugain, mae angen dechrau teneuo’r cnwd ac yna mi gaiff ei llwyr gwympo pan fydd tua hanner cant i drigain oed.

Mae StJohn yn gyfrifol am reoli’r cynaeafu yn Nhîm gogledd Cymru ac mi eglurodd sut y gwerthir coed i gynhyrchwyr. Mae dau ddull: naill ai wedi eu cwympo a’u gosod ar un ochr gan weithwyr CNC neu drwy werthu cnwd o goed ar eu traed yn uniongyrchol i’r cynhyrchwyr a hwythau wedyn yn dod â’u pobl eu hunain i mewn i gynaeafu.

Mi ges i gyfle i weld y broses cwympo a gosod y coed mewn pentyrrau. Mi aeth Ifan Jones, Rheolwr Cynaeafu Coed y Brenin, Meirionydd a Phenllyn, a fi reit i mewn i’r goedwig i weld y broses.


Y cynaeafu ydi’r cam gyntaf. Wedi i’r coed gael eu cwympo, mae peiriant anferthol sy’n edrych fel Jac Codi Baw ond hefo cyllyll torri mawr arno yn gafael yn y goeden sydd wedi’i chwympo, tynnu’r brigau oddi arnyn nhw ac wedyn eu torri i’r maint cywir. Aled Jones oedd yn gyfrifol am y Cynaeafwr ac roedd o’n medru gwneud hyn i gyd mewn llai na dau funud!

Roedd y cyfan yn cael ei weithio drwy’r cyfrifiadur oedd yn y cab ac wnes i ddim sylweddoli fod y broses yn cael ei rheoli i’r fath raddau drwy’r cyfrifiadur a llywio deheuig o’r holl fotymau. Roedd o’n gadael y boncyffion wedyn ar lawr.


Yna, twrn y Blaenwr oedd hi, yn cael ei drin yn ddeheuig gan Stephen Ellis y tro hwn.

Peiriant anferthol arall oedd yn gafael yn y boncyffion mewn dull nid annhebyg i godi teganau hefo peiriant codi bach mewn ffair bleser, eu llwytho ar drelar ac yna eu dadlwytho’n drefnus wrth ochr y trac ar gyfer y loriau mawr sy’n dod heibio i’w cario i’r cynhyrchwyr.


Mae’r pren yma’n cael ei ddefnyddio yn y farchnad adeiladu, ar gyfer ffensio ac fel tanwydd biomas. Defnyddir peth o’r llarwydd ar gyfer gwlân coed ar gyfer hidlo finegr, ac mae modd ei ddefnyddio i bacio amrywiaeth o nwyddau gan gynnwys stwffio tedi bêrs!

Mi ges i fore oedd yn agoriad llygad i mi, ac mae’n werth i chi fynd draw am dro i Goed y Brenin.







Sunday 18 September 2016


Seren frau                                                                                          21 Medi 2016

Cerdded ar hyd y traeth roeddwn i pan welais i hi, a hynny yn y darn lle mae’r tonnau’n torri ar y traeth. Yr union fan lle mae’n bleserus cerdded yn droednoeth a theimlo’r dŵr yn gynnes ar eich traed ond yn ddigon pell o wlychu eich dillad!


Mi fu bron i mi gerdded arni hi am fod ei chuddliw yn berffaith ac yn asio hefo gronynnau’r tywod. Seren frau (Ophiuroidea) oedd hi a pherthyn i’r ffylwm Ecinodermiaid (Echinodermata) mae hi. Mae’r enw Ecinodermiaid yn dod o Hen Roeg – echinos a derma. Ystyr echinos ydi draenog ac ystyr derm ydi croen – felly croen pigog. Mae hyn yn wir am rai aelodau o’r ffylwm yma, rhai fel draenog môr (Sea urchin) sy’n bigog iawn a thaten y môr neu lygoden y môr (Sea potato neu Heart urchin) sy’n fwy blewog na phigog, a dydi pob un ohonyn nhw ddim yn bigog. Yn sicr dydi’r seren frau ddim yn bigog – mae hi’n weddol fach ac yn hynod o gain.


O ran siâp a llun mae’n debycach i’r seren fôr sydd hefyd yn aelod o’r Ecinodermiaid, a dydi hithau chwaith ddim yn bigog. Tra mae’r seren fôr hefo pum rhan sy’n weddol drwchus, mae pum rhan y seren frau yn eiddil a chain ac er y basa chi’n credu y basa un chwythiad go dda yn torri bob un ohonyn nhw, maen nhw’n syndod o wydn.


Be sy’n nodweddiadol o bob aelod o’r ffylwm yma ydi eu bod nhw i gyd yn arddangos cymesuredd rheiddiol ac maen nhw i gyd yn anifeiliaid sy’n byw yn y môr. Be mae cymesuredd rheiddiol yn ei olygu ydi y medrwch chi dorri’r anifail yn ei hanner unrhyw ffordd a dal i gael dau hanner sy’n gymesur – rwbath tebyg i dorri teisen sbynj yn ei hanner. Allech chi ddim gwneud hynny hefo anifeiliaid fel chi a fi – dim ond mewn un lle y medrwch chi ein torri yn ein hanner i gael dau hanner sy’n debyg i’w gilydd a chymesuredd dwyochrol ydi’r enw ar hynny. Hynny ydi, dim ond i lawr y canol o gorun y pen i lawr rhwng y ddwy goes y medrwch chi’n torri ni er mwyn cael dau hanner sy’n union yr un fath.

Mae aelodau o’r ffylwm yma i’w cael ym mhob rhan o’r cefnfor - o’r llain rynglanw ar y traeth i ddyfnderoedd mawr ac mae tua saith mil o rywogaethau byw yn perthyn i’r Ecinodermiaid. Un gallu rhyfeddol sy’n perthyn i’r rhan fwyaf o’r Ecinodermiaid ydi’r gallu i aildyfu neu adfywio eu meinwe. Er enghraifft, mi fedran nhw aildyfu braich os ydi hi’n cael ei thorri. Maen nhw hefyd yn medru atgenhedlu yn anrhywiol.

Yr un peth sy’n gwneud yr Ecinodermiaid yn wahanol i bob creadur arall ar wyneb y blaned hyfryd yma rydan ni’n byw arni ydi fod ganddyn nhw system ddŵr ryfeddol. Rhwydwaith o gamlesi sydd ganddyn nhw drwy’r corff ac mae’r rhain yn chwarae rhan mewn cyfnewid nwyon, bwyta, synhwyro a symud. Mae ‘na agoriad i mewn i’r anifail sy’n cael ei alw’n madreporit ac yn y seren frau, mae hwn ar ochr isaf y corff. Hwn sy’n cysylltu â’r gyfres o gamlesi drwy’r corff.



Mae dros ddwy fil o wahanol rywogaethau o’r seren frau yn y byd, a dros eu hanner nhw’n byw mewn dyfroedd sydd dros ddau gan metr o ddyfnder.

Symud ar draws y tywod gan ddefnyddio ei breichiau ystwyth mae’r seren frau ac mi all y breichiau yma fod yn gymaint â phedair modfedd ar hugain mewn un o’r rhai mawr. Un fach ifanc welais i ond pwy a ŵyr na wnaiff hon dyfu i fod yn un fawr ryw ddydd.





Trysorau Cors Erddreiniog                                                                           14 Medi 2016

Diwrnod o haf yn nechrau Medi oedd hi a finna wedi mynd draw i Gors Ddreiniog neu Gors Erddreiniog i roi ei henw llawn iddi hi hefo criw Gwarchod y Gwyllt.



Roedd hi’n ddiwrnod distaw, heulog, poeth a phawb a phopeth fel petai nhw wedi dechrau tawelu.




Os nad ydach chi’n siŵr ble mae Cors Erddreiniog, mae hi’n gors reit fawr, sydd fwy neu lai yng nghanol Môn, i’r gogledd ddwyrain o Langefni. Yn y gors mae Llyn Wyth Eidion ac yn ôl y chwedl roedd gwas Nant Uchaf yn aredig un pnawn trymaidd hefo wyth ych. Roedd yntau eisiau cael darfod ac wrth weld yr ychen yn araf, dyma fo’n codi ei ffon i’w chwipio. O ganlyniad mi ddechreuodd yr ychen redeg yn wyllt. Mi geisiodd yntau eu rhwystro drwy wthio’r ffon i’r ddaear, ond yn ofer. Mi ruthrodd yr ychen i mewn i’r llyn gan foddi a boddi’r gwas. Yn ôl y chwedl, yn y fan ble gwthiodd o’r ffon i’r ddaear fe dyfodd coeden na welodd neb ei thebyg ac os dowch chi o hyd i’r goeden, mae ‘na ffortiwn wrth ei bôn.





Rhai o’r trychfilod amlycaf oedd o gwmpas oedd y gweision neidr. Roedd yn wych gweld yr ymerawdwr (Anax imperator; Emperor Dragonfly) a’r gwäell cyffredin (Sympetrum striolatum; Common Darter) yn hedfan o amgylch, ac nid un neu ddau ond nifer fawr ohonyn nhw.



Roedd hi’n braf hefyd gweld cymaint o flodau: roedd y clefryn (Jasione montana; Sheep’s bit) a thamaid y cythraul (Succisa pratensis; Devil’s bit scabious) yn las gogoneddus ac mewn ambell i fan roedd cwrlid glas o’r clefryn yn gorchuddio’r glaswellt. Yma ac acw hefyd, roedd pennau gwynion yr ystrewllys (Sneezewort) i’w gweld. Mae hwn yn perthyn i’r milddail a dydi o ddim yn annhebyg iddo ond fod blodau’r milddail yn llai.

Ystrewllys




Braf hefyd oedd medru gwrando ar drydar y robin sbonc neu sioncyn y gwair neu’r ceiliog rhedyn ac mi fues yn ddigon ffodus i fedru gweld un ar y llwybr pren.


I mi, un o’r golygfeydd harddaf oedd gweld brial y gors (Parnassia palustris; Grass of Parnassus). Mae’r blodyn yma’n un gwirioneddol dlws – pum petal wen a gwythiennau gwyrdd arnyn nhw, ac yn y canol ar waelod y petalau mae ‘na ddotyn bach gwyrdd. Cors ydi palustris ac mae’r enw Parnassus yn dod o Fynydd Parnasws yn hen Wlad Groeg ble roedd yn tyfu.

Brial y gors



Roedd tafod y gors yn tyfu gerllaw iddo a phryf copyn mawr boliog wedi llunio ei we yn gain gerllaw. Roeddwn i uwchben fy nigon!




Ac nid dyna’r cyfan, fe wnaethom hefyd weld y gorsfrwynen ddu (Schoenus nigricans; Black bog-rush) ac mae’r gorsfrwynen hon yn denu’r tân bach diniwed neu’r pryf tân. Ond roedd gwell i ddod! Mi welais froga bach ifanc (Bufo bufo; Toad) a gialipi wirion neu fadfall neu’r genau goeg, ac mi lwyddodd pawb ond fi i weld gwiber! 





Mae’r gors wedi datblygu am fod dŵr melys yn ffrydio o’r garreg galch ac yn troi’r dŵr yn alcali, a dyma sy’n cyfri am yr amrywiaeth o blanhigion sy’n tyfu yma. Mae ‘na hefyd dywodfaen Llugwy yn brigo yma ac acw drwy’r gors ac mae’r darnau yma’n asidig sy’n golygu fod ambell i ddarn o rostir i’w weld lle mae eithin mân a grug yn tyfu.



Yma y gwelais i yr hyn i mi oedd yn goron ar y cyfan, sef gweld crwynllys y gors (Gentiana penumonanthe; Marsh gentian). Blodyn glas godidog fel awyr las yr haf sy’n edrych fel ffiol gain ydi hwn, ac mae o’n brin. Oedd, roedd fy ffiol bersonol i yn llawn.



Unwaith eto roedd ‘na glystyrau ohono’n tyfu ac yn weddol agos ato roedd cwrlid o lafn y bladur (Narthecium ossifragum; Bog asphodel) yn goch ar ôl mynd i had.  





Dwi’n reit siŵr o un peth. Does dim rhaid i chi fynd i chwilio am goeden arbennig i ddod o hyd i drysorau – mae Cors Ddreiniog yn llawn ohonyn nhw.








Sunday 11 September 2016


Ail Natur 119                                         7 Medi 2016



Mi dderbyniais i un cerdyn arbennig iawn yn ystod yr haf a llythyr gwerth chweil i gyd-fynd ag o, ac rydw i wedi cael caniatâd y perchennog i’w rannu gyda chi. Cerdyn gefais i gan Goronwy Parry o’r Fali ydi o ac mae’r tu blaen yn llun ohono mewn dyfrlliw gan Philip Snow. Ond nid fo yn unig sydd yn y llun: mae ‘na hefyd ddau gi, cath a gŵydd a phawb yn mynd am dro ar lannau’r Lasinwen ger ei gartref! 

Un ci oedd ganddyn nhw’n wreiddiol ond wedyn mi ddaeth rhywun â chi bach oedd yn chwilio am gartref i’r ysgol, ac mi gafodd yntau lety. Y gath ddaeth nesa – dim ond cyrraedd wnaeth hi ac o fewn dim, roedd wedi cael ei derbyn. Mi fyddai pawb yn mynd am dro, fore a fin nos, ac yna tua tair blynedd ar ddeg yn ôl ar Ddydd Gŵyl Ddewi, mi ddaeth Davida atyn nhw – sef yr ŵydd ac mi fyddai hithau hefyd yn cerdded. Ambell waith byddai elyrch yn canlyn Davida, a thro arall gŵydd Canada neu ŵydd ddu (Brent goose).


Difyr ynte? Sgwn i oes gan rhywun arall hanesion tebyg neu luniau efallai o anifeiliaid gwyllt sydd wedi troi’n gyfeillion dros y blynyddoedd? Os oes, beth am eu rhannu hefo ni?

Diolch yn fawr i Gwyn Roberts am anfon llun mor dda o’r hebog tramor i ni. Mae hwn yn llawer mwy cyffredin erbyn heddiw nag roedd yn arfer â bod. Am fod llawer ohonom yn bwydo adar yn ein gerddi, mae’r rhain fel caffis yn llawn o adar mân ac yn fwyd blasus i’r hebog tramor.

Un o’r planhigion y bydda i wrth fy modd yn ei gweld yn yr ardd ydi mantell Fair (Lady’s mantle). Alchemilla mollis ydi’r enw gwyddonol ac mae’n cael yr enw ‘alcemydd bach’ am fod diferion gloyw o ddŵr sy’n edrych fel mwclis crisial yn casglu ar ei ddail. Y rheswm fod glaw yn edrych fel hyn ar y dail ydi nodweddion dad-wlychu sydd gan y dail. Maen debyg fod rhywbeth yn y dail sy’n gwrthod dŵr ac oherwydd hynny mae haenen denau o aer rhwng y rhyngwyneb soled a’r hylif. Credai’r alcemyddion mai hwn oedd y ffurf buraf o ddŵr ac roedden nhw’n defnyddio’r dŵr yma wrth geisio troi metelau yn aur.


Ddechrau’r haf fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi rhestr o ddeg uchaf llwybrau cerdded yr haf ac yn eu plith taith o amgylch Cwm Idwal, Cylchdaith y Ddôl yng ngwarchodfa natur genedlaethol Cadair Idris a Llwybr Alwen yng Nghoedwig Hiraethog. Ble fyddech chi’n ei ddewis tybed, petaech chi eisiau rhestru deg taith gerdded ar gyfer yr hydref? Beth am gychwyn drwy gynnig un?

Mi ges i anffawd yn ystod mis Awst. Roeddwn i wedi penderfynu y baswn i’n prynu dwy wrn (i fod yn posh!) er mwyn eu rhoi ar bob pen i wal bach sydd gen i o flaen y tŷ. Iawn, campus, dim problem hefo hynny ac mi ges y ‘bos’ i fy helpu i’w symud a’u llenwi hefo compost. Mi es ati fy hun i’w plannu hefo planhigion tlws, melyn a glas ag wir, roeddwn i’n ffansio fy hun braidd mod i wedi gwneud joban dda. Yn anffodus roedd y degau o falwod sydd gen i yn yr ardd hefyd o’r un farn ac mi ddiflannodd hanner y planhigion dros nos.

Dyma geisio adfer y sefyllfa gan symud planhigion Meri a Mari (Nastursiums) i’r yrnau er mwyn trio cael y llaw uchaf ar y malwod.

Mi lwyddais i wneud hynny ond yn anffodus roeddwn wedi anghofio am un lindys bach sydd wrth ei fodd hefo dail Meri a Mari, sef lindys yr iâr wen fawr neu’r gwyn mawr (Pieris brassicae; Large White neu Cabbage White) ac mi gafon nhw wledd! Mae’r lindys wrth eu bodd hefo holl deulu’r fresychen ac mae Meri a Mari yn un ohonyn nhw. Hitiwch befo, o leia mi gai’r pleser o weld yr iâr wen fawr yn yr ardd!