Friday 28 October 2016


Ffrwythau’r Hydref                                                                 26 Hydref 2016



Do, dwi wedi cael bod yn crwydro unwaith eto a mynd draw i’r bwthyn bach yng nghanol y goedwig yng Ngwlad Pwyl. Roedd hi’n syndod y gwahaniaeth mewn deufis yn y gornel fach hon. Roedd hi’n boeth yna ddechrau Awst ond erbyn hyn, roedd brath ar y gwynt ac angen lapio amdanaf yn dynn cyn mentro allan.

Un o’r coed hardd sy’n yr ardd ydi coeden cnau Ffrengig (Juglands regia; walnut) ac roedd y dail yn dechrau troi eu lliw o wyrdd i felyn tyner. Mae’n goeden llydanddail, fawr sy’n medru tyfu i tua 35 metr o uchder ac mae hi’n un sy’n hoffi digon o haul ac yn tyfu’n dda os oes digon o le o’i chwmpas.


Mewn coeden ifanc, mae’r rhisgl yn llyfn ac yn lliw brown olewydd ond wrth i’r goeden heneiddio, mae lliw y rhisgl yn troi’n arian neu lwyd.


Roedd hon yn goeden aeddfed ac roedd y ffrwythau, y cnau Ffrengig wedi disgyn ar y llawr  gan roi llond powlen o gnau i’w bwyta.

Mae ‘na wiwer goch hefo blew du ar ei chynffon yn ymweld â’r goeden hon er mwyn bwyta’r cnau – a wela i ddim bai arni!

Mae pren y goeden cnau Ffrengig yn bren caled ac mae coeden sydd newydd ei thorri hefo lliw oren/frown ar y coedyn ond o fewn ychydig ddyddiau mi fydd wedi tywyllu yn frown. Unwaith mae wedi sychu, mae’r lliw yn frown tywyll cyfoethog ac yn aml iawn, mi fydd siapiau diddorol yn y pren ac mae galw mawr amdano gan grefftwyr. Defnyddiwyd y pren i wneud dodrefn, gitarau, bwlyn drysau a handlenni.

Mae’r goedwig yn gyfuniad o goed pîn a choed llydanddail fel y fedwen a’r dderwen ac roedd yn wych mynd am dro ar hyd rhodfeydd y goedwig gan wylio dail y bedw yn disgyn am fy mhen fel conffeti.


Dwi’n gwerthfawrogi mynd am dro drwy’r goedwig ac erbyn hyn roedd ffrwythau yn y goedwig hefyd – sef y madarch. Mae amrywiaeth dda yma ac mae casglu madarch yn ei dymor yn bwysig i’r trigolion lleol.



Yr un madarch dynnodd fy sylw i’n fwy na dim oedd amanita’r gwybed (Amanita muscaria; fly agaric) ac roedd ‘na nifer ohonyn nhw yn y goedwig.


Mae’n hawdd iawn adnabod y madarch yma oherwydd ei gap coch a’r smotiau gwyn siâp triongl sydd arno. Mae’n debyg ei fod yn cael yr enw amanita’r gwybed am fod pobl yn arfer a’i dorri’n ddarnau a’i roi mewn soser o lefrith i hurtio gwybed neu bryfed yn ystod yr Oesoedd Canol.

Mae’r cyffur sydd yn y ffwng yn achosi i ddyn weld rhithiau neu ddrychiolaethau. Mae o’n cael yr un effaith â diod feddwol ac yn cael ei ddefnyddio gan y Lapiaid i’r perwyl hwn. Yr hyn maen nhw’n ei wneud ydi sychu’r cap a’i lyncu heb ei gnoi ac mae’r effeithiau’n dechrau dangos ar ôl ryw ugain munud. Mae’n effeithio system nerfol y corff ac mi fydd y person yn aml yn tynnu neu’n plycio yn ei gwsg. Mi fydd hyn yn cael ei ddilyn gan gyfnod o benysgafndod a chwsg trwm iawn.

Yn ystod y cyfnod yma, mi fydd y madarch yn aml yn cael ei chwydu, ond mae ei effeithiau’n para ac mi fydd y person yn gweld gweledigaethau yn glir iawn. Wedi iddo ddeffro, mi fydd yn teimlo’n grêt ac yn arbennig o fywiog ac ambell waith yn credu eu bod yn gallu gwneud pethau oedd y tu hwnt i’w allu, fel hedfan er enghraifft. Mae ‘na dybiaeth fod y Lapiaid wedi darganfod effeithiau amanita’r gwybed drwy sylwi ar yr effaith roedd y madarch yn ei gael ar y ceirw oedd yn ei fwyta.


Be oedd yn fy rhyfeddu i oedd fod ‘na lai o’r madarch yma bob tro roeddwn i’n mynd am dro: mae’n rhaid fod rhyw anifail bach yn eu bwyta ac mi fasa wedi bod yn ddiddorol iawn gweld be oedd yn eu bwyta.























Wednesday 19 October 2016


Bwlch Nant yr Arian                                                                                 19 Hydref 2016

Roeddwn i wedi bod ym Mwlch Nant yr Arian o’r blaen ac mae o’n lle hudolus. Rhag ofn na fuoch chi yno, mae o ar yr A44 ychydig i gyfeiriad Aberystwyth o Bonterwyd. Ond roedd ‘na rywbeth ychydig yn wahanol am y lle y tro hwn; roedd o’n fwy agored rywsut ac mi wyddwn i pam - roedd ‘na nifer o goed llarwydd wedi eu cwympo yno.


Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian ar lan llyn ac mae ‘na gaffi braf iawn yno lle medrwch edrych dros y llyn wrth gael eich paned. Mae’r ganolfan yn un o’r rhai sy’n bwydo’r barcud coch ac felly mae cyfle i’w gweld yn bwydo bob pnawn. Fel mae’n digwydd, roedd un yn hofran uwchben wrth i mi gyrraedd; mae o’n aderyn trawiadol ac yn un rydan ni bellach yn ei gymryd yn ganiataol yng Nghymru.


Mae ‘na bwyslais ar weithgareddau awyr agored ym Mwlch Nant yr Arian ac mae pobl yn tyrru yma i feicio mynydd, rhedeg a cherdded. Mae’r ardal hon yn goedwig sy’n gorchuddio tua 35,000 o erwau yng ngorllewin Powys a Cheredigion ac mae yng ngofal Cyfoeth Naturiol Cymru. Mi ges i gwmni Gareth Owen, rheolwr y Ganolfan a Greg Jones sy’n Gynlluniwr Coedwigoedd ar y safle ac mi eglurodd Greg eu bod wedi gorfod llwyr gwympo rhannau helaeth o goed llarwydd yma oherwydd Phytophthora ramorum, sef y ffwng sy’n effeithio ar goed llarwydd.

Roedd y Phytophthora wedi ei ddarganfod mewn un lle yn 2012 ar safle fymryn i’r de o’r Ganolfan ac roedd y cwestiwn yn codi wedyn o sut y dylid ei reoli. A ddylid cwympo'r ychydig goed oedd wedi eu heffeithio yn unig neu a ddylid llwyr gwympo er mwyn sicrhau nad oedd haint y llarwydd yn dychwelyd? Penderfynu clirio’r cyfan wnaed yma er mwyn ceisio sicrhau na fydd yr haint yn dychwelyd. A dyna pam roeddwn i wedi sylwi ar ddarnau agored o amgylch y llyn – roedd hwn hefyd yn ddarn ble roedd y llarwydd wedi eu llwyr gwympo.

Y cwestiwn roeddwn i isio ateb iddo, oedd sut maen nhw’n darganfod yr haint. Mae’r llarwydden yn goeden gonifferaidd sy’n bwrw ei nodwyddau dros y gaeaf a hon ydi’r goeden sy’n rhoi’r lliw aur hyfryd mewn clytwaith o goed coniffer yr adeg hon o’r flwyddyn. Yn y gwanwyn mae nodwyddau ifanc ir, gwyrdd golau i’w gweld arni. I ganfod os oes haint ai peidio maen nhw’n edrych ar y coed yn y gwanwyn. Os ydi’r nodwyddau’n dechrau troi’n frown yn y gwanwyn, yna mae angen cymryd golwg eto. Gan fod erwau o goed i gadw llygad arnyn nhw, yr hyn sy’n digwydd ydi hedfan uwch eu pen mewn awyren gan chwilio am y rhai sy’n newid eu lliw yn y gwanwyn.

Unwaith maen nhw’n sylweddoli fod problem gyda’r coed llarwydd, yna maen nhw’n cymryd samplau ac yn anfon darnau o’r canghennau a’r nodwyddau i labordy i wneud profion arnyn nhw. Mae sborau Phytophthora yn cael eu cario yn yr awyr gan y gwynt, ar ddillad, gan anifeiliaid, ar beiriannau, ar feiciau, ar esgidiau a gan gerddwyr. Fe eglurodd Gareth mai dyma pam mae cymaint o bwyslais ar lendid mewn safleoedd fel Bwlch Nant yr Arian. Maen nhw’n gofyn i bawb sy’n ymweld â choedwigoedd i sicrhau fod ceir, beiciau ac esgidiau yn lân – yn arbennig felly os ydych chi’n rhywun sy’n ymweld â nifer o safleoedd tebyg - er mwyn ceisio atal y ffwng rhag lledaenu o un safle i’r llall.

Mae rhai o’r rhannau a gafodd eu clirio yma wedi eu plannu gyda tua 12,000 o goed brodorol – rhai fel y dderwen, masarnen fach, bedwen, y ddraenen wen, y ddraenen ddu a’r geiriosen ddu. Y gobaith drwy wneud hyn ydi y bydd modd osgoi llwyr gwympo a ffwng y llarwydd yn y dyfodol ac y bydd cyfle i fwynhau gogoniant y safle hon drwy’r coed brodorol.




Gelod                                                                                               12 Hydref 2016

Erstalwm roedd gelod yn cael eu defnyddio yn rheolaidd wrth drin cleifion, a hynny at bob math o afiechydon. Mi fedra i gofio'r Athro Bryn M. Jones yn adrodd ei hanes wrthym ni fyfyrwyr yn Aberystwyth fel roedd o’n gwneud gwaith ymchwil ar y gelod. Ymchwilio i sut roedd gelod yn llwyddo i gael gwaed i lifo o gorff dyn oedd o ac mi fedra i ei gofio yn dweud wrthym sut roedden nhw’n cael gafael ar y deunydd crai. Y dull oedd cerdded yn droednoeth i mewn i byllau ac aros i’r gelod ddod amdanyn nhw i sugno eu gwaed ac wedyn eu tynnu oddi ar y coesau a’i rhoi i gadw.

Pan ddwedodd Emyr Humphreys o Cyfoeth Naturiol Cymru wrtha i fod ‘na gelod (Hirundo medicinalis; European medicinal leech) yng Nghors Bodeilio ac y basa fo’n fodlon dangos i mi ble roedden nhw, roeddwn i’n gobeithio yn fy nghalon nad oedd o’n disgwyl i mi gerdded yn droednoeth i byllau yn y gors yn nhymor yr hydref! Doedd dim rhai i mi boeni fel mai’n digwydd ond mae angen un neu ddau o bethau arnoch chi os ydach chi’n dymuno mynd i hela gelod.


Y peth cyntaf ydach chi ei angen ydi pâr reit nobl o wellingtons, ac mae rhwyd a bwced wen yn lot o help hefyd (i’w dal nhw). Mae’r dull yn weddol syml ac yn lot fawr o hwyl. Cerdded yn reit dalog i mewn i ddŵr mewn pwll sydd ei angen gan wneud gymaint o stomp ag y medrwch chi hefo’ch wellingtons nes mae’r dŵr yn troi’n frown ac yna aros yn llonydd am ychydig. Mewn gwirionedd, dynwared sut y buasai anifeiliaid yn cerdded i’r dŵr i yfed: cerdded i mewn a thindroi am ychydig. Mae gelod yn glynu at anifeiliaid eraill yn ogystal â dyn.


Rŵan tasa hyn wedi gweithio’n iawn, mi fasa ni wedi gweld y gelod yn nofio drwy’r dŵr tuag atom ni ac yn glynu yn ein wellingtons – diolch byth nad oeddwn i’n droednoeth. Mi all oedolion fod yn gymaint ag wyth modfedd o hyd, sy’n lot rhy hir i fod yn sugno fy ngwaed! Fel arfer maen nhw’n wyrdd, brown neu gyfuniad o’r ddau liw ond maen nhw’n edrych yn dywyllach yn y dŵr, ac mae ganddyn nhw linell goch i lawr eu hochr.

Mae ganddyn nhw ddau sugnwr, un ar bob pen i’w corff, sy’n cael eu galw’n sugnwr y pen blaen a sugnwr y pen ôl. Mae’r un ar y pen ôl fel arfer yn cael ei ddefnyddio i ddwyn pwysau i symud, ond mae’r un ar y pen blaen hefo gên a dannedd (ie, dannedd!) a’r darn yma sy’n glynu at y croen noeth ac yn dechrau bwydo.

A dweud y gwir mae gan gelod sy’n cael eu defnyddio’n feddyginiaethol dair gên fel arfer a thua cant o ddannedd i frathu’r truan maen nhw’n cael gafael arno, ac mi fyddan yn gadael marc siâp Y mewn cylch ar y croen. Wedi torri’r croen a chwistrellu gwrthgeulydd (hirudin) ac anaesthetig i mewn, maen nhw’n dechrau sugno gwaed. Mi all oedolyn sugno hyd at ddeng gwaith ei bwysau ei hun mewn un pryd, ac mae tua 5-15ml o waed yn gyffredin.

Eu cynefin ydi pyllau a ffosydd dŵr croyw hefo digon o dyfiant o’u cwmpas nhw, a hynny mewn hinsawdd tymherus. Mae gelod yn ddeurywiol, hynny ydi mae nodweddion benywaidd a gwrywaidd ar yr un anifail ac mi all ddodwy tua hanner cant o wyau yn agos, ond nid dan, ddŵr ac mewn mannau cysgodol, llaith fel arfer.

Mi fu gormod o gasglu ar gelod yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mi wnaeth hynny sigo poblogaethau, yn ogystal â draeniad tir yn arwain at ddirywiad mewn cynefin sy’n addas iddyn nhw. Fe ddaeth y tractor yn lle’r ceffyl ac maen nhw’n reit hoff o fwydo ar goesau ceffylau.

Mae’r rhywogaeth yma yn cael ei hystyried yn brin erbyn heddiw ac felly yn cael ei gwarchod. Roedd llawenydd cyffredinol felly pan ganfuwyd fod bron i ddau gant ohonyn nhw yn y gors. Yn anffodus, ddaeth yr un ohonyn nhw i fy ngweld i, ond roedd Emyr yn amau mai gostyngiad yn y tymheredd oedd yn gyfrifol am hyn.

H’mm, mi fydd yn rhaid i mi ddŵad yn ôl yr haf nesa.



Wednesday 5 October 2016


Ail Natur 120                                        5 Hydref 2016




Rydw i mewn sachliain a lludw! Mae’n rhaid i mi ymddiheuro i holl ddarllenwyr yr Herald Cymraeg am eich camarwain ynglŷn â’r llun aderyn roedd Gwyn Roberts, Pensarn wedi’i anfon atom. Mi wnes eich camarwain pan ddwedais i mai hebog tramor oedd o. Ceiliog gwalch glas tua blwydd oed ydi o, a’r rhain ydi’r adar ysglyfaethus sy’n dŵad i’r ardd i fwyta’r adar mân.

Rydw i’n ddiolchgar iawn i Wil Williams, Kelvin Jones ac Iolo Williams am fy nghywiro i. Y gwahaniaeth rhwng hebog tramor a’r gwalch glas ydi fod gan yr hebog tramor fwgwd tywyll a mwstas.

Diolch yn fawr i Rhoda Bramhall, Rhuthun am sôn mai’r cotoneaster, mintys y gath, hocys  a’r Jasmine sy’n denu’r mwyaf o drychfilod. Rydw innau wedi sylwi fod cotoneaster yn denu pryfed wrth y fil ac ydi, rydach chi’n iawn mae o’n siŵr o fod yn waith caled i gael at y neithdar!

Ryw dair wythnos yn ôl roeddwn i’n siarad ym Modffordd ac ar y diwedd mi ddaeth W. Tudor Evans ata i gan ddangos lluniau roedd o wedi’u tynnu yn ystod mis Mai eleni tra roedd o ar wyliau. Llun coeden castanwydden y meirch ydi hi ond be sy’n hynod am y goeden hon ydi fod rhan ohoni hefo blodau pinc a blodau gwyn ar y rhan fwyaf o’r goeden. Fy holi i oedd Tudor Evans os oeddwn i wedi gweld rhywbeth tebyg o’r blaen, a nac ydw, dydw i ddim.


Mae castanwydden y meirch (Aesculus hippocastanum) rydan ni’n arfer ei gweld yn Ynysoedd Prydain hefo blodau fel llusernau gwyn arni hi.

Mae castanwydden y meirch coch (Aesculus carnea) yn hybrid rhwng y ‘red buckeye’ (A. pavia), sef coeden lai sy’n tyfu yn America o Fflorida i Tecsas, a chyn belled i’r gogledd ag Illinois, ac Aesculus hippocastanum. Gyda llaw, roedd trigolion brodorol America yn arfer cymryd hadau’r ‘red buckeye’ a gwneud powdr allan ohonyn nhw, ac yna eu taflu i byllau er mwyn hurtio’r pysgod a’u gwneud yn haws i’w dal. Roedd arloeswyr cynnar America hefyd yn defnyddio gwreiddiau’r goeden er mwyn paratoi stwff fyddai’n cymryd lle sebon. 


  Dwi’n meddwl mai be sydd wedi creu yr effaith ryfeddol yma o flodau pinc tywyll ar goeden wen ydi fod rhywun wedi impio castanwydden y meirch â blodau pinc tywyll ar yr un wen pan oedd y goeden yn llawer iawn ieuengach. Tybed ydach chi’n cytuno neu oes gan rywun eglurhad arall?

Tymor y llawnder a’r casglu ydi’r hydref ynte? Tybed wnaethoch chi dynnu lluniau yn ogystal â chasglu’r ffrwythau? Os do, be am eu rhannu hefo ni?