Tuesday 10 January 2017


Ail Natur 123                                         4 Ionawr 2017



Blwyddyn Newydd Dda i chi! Sut byddwch chi’n cyfarch pobl ar fore Calan? “Blwyddyn Newydd Dda, llond y tŷ o ffa” neu fyddwch chi’n cael eich temtio weithiau i ddymuno “Blwyddyn Newydd Ddrwg, llond y tŷ o fwg.” Ydach chi’n un o’r bobl hynny sy’n mynnu cario darn o lo i’r tŷ serch nad oes gennych chi grât bellach? Oeddech chi’n arfer hel calennig? Byddai’n ddifyr iawn clywed am rai o’ch atgofion.



Ychydig cyn y Nadolig roeddwn i’n darllen pwt gan Plantlife Cymru oedd yn cyfeirio at yr arferiad o afal Calan. Doeddwn i erioed wedi clywed am hyn o’r blaen. Yn ôl be dwi’n ei ddeall roedd plant yn arfer cymryd afal a’i addurno hefo mymryn o gelyn a chnau ac wedyn yn ei gynnig i’r preswylwyr wrth gnocio ar y drws yn hel calennig ar fore Calan. Tybed ydach chi’n gyfarwydd â’r arferiad hwn?



Rydw i wedi bod yn clirio unwaith eto ac wedi dod ar draws y cerdyn post sy’n dangos y ddwy bont dros y Fenai. Fel y gwelwch chi o’r llun, mae’r ‘ddau lew tew’ sydd yr ochor yma (ochr Môn) i’w gweld yn reit glir. Mae’r ysgrifen sydd ar y cerdyn yn dangos mai o ben Twr Marcwis y tynnwyd y llun ac mi fyddai’n ddifyr iawn cael llun diweddar wedi ei dynnu o tua’r un man (mi wn fod y twr ar gau ar hyn o bryd) er mwyn gweld faint o newidiadau sydd wedi bod. Mae’r marc post ar y cerdyn yn nodi iddo gael ei bostio yn Llanrug ar 12fed Awst 1906.

Mi fûm draw yng ngwarchodfa’r Gymdeithas Gwarchod Adar yng Nghonwy ar 27ain Rhagfyr ac wrth deithio yno yn y car, mi synnais at nifer y cynffonau ŵyn bach oedd i’w gweld ar hyd y ffordd ddeuol. Rydw i wedi sylwi o’r blaen eu bod i weld yn agor ynghynt ar hyd traffyrdd ac ochrau’r ffyrdd ac yn amau fod hyn yn digwydd oherwydd fod cynhesrwydd yn codi o’r ceir a’r loriau sy’n chwyrnellu heibio ac oherwydd yr holl nwyon sy’n codi o’r egsôts. Be ydi’ch barn chi am hyn?

Mi welais gynffonau cynffonau ŵyn bach ar y warchodfa hefyd – rhai’r gollen a’r wernen ond doedden nhw ddim cweit wedi agor. Mi fydda i wrth fy modd yn edrych ar y wernen yr adeg hon o’r flwyddyn: mae gwawr borffor i’r cynffonau ŵyn bach ac mae ffrwythau’n dal ar y brigau gan ei gwneud yn hawdd iawn i adnabod y goeden.

A sôn am goed, mi ddarllenais yn ddiweddar fod yna rai coed ynn yn Ynysoedd Prydain sy’n medru gwrthsefyll y ffwng Hymenoscyphus fraxineus. Chalara oedd yr hen enw ar hwn a’i enw poblogaidd yn Saesneg ydi ‘Ash dieback’. Mae gwyddonwyr yn ceisio tyfu rhagor o’r coed ynn sy’n gallu gwrthsefyll y ffwng yma, sy’n newyddion da iawn. Ar hyn o bryd, does dim ateb i ffwng yr ynn – unwaith mae o wedi heintio coeden, dyna hi wedyn, mae wedi darfod arni.

Mae tua naw deg miliwn o goed ynn yn Ynysoedd Prydain ac mae dros fil o wahanol rywogaethau, o flodau gwyllt i löynnod byw, yn ddibynnol ar yr ecosystem sy’n cael ei greu gan yr onnen.

Yn anffodus, maen nhw wedi darganfod fod y coed sy’n medru gwrthsefyll y ffwng yn cael eu effeithio gan y tyllwr ynn emrallt (Agrilus planipennis; EAB neu Emerald ash borer). Chwilen ydi hon sydd â lliw emrallt godidog arni hi ond, mwya’r piti, sydd hefyd yn ddinistriol iawn i goed ynn. Wedi cychwyn ar ei thaith yn Rwsia, mae hi wrthi ar hyn o bryd yn bwyta ei ffordd drwy goed ynn Ewrop. Mi allai cael ffwng yr ynn a’r tyllwr ynn emrallt hefo’i gilydd fod yn gwbl ddifäol i goed ynn Ewrop.

Mae gwyddonwyr yn gweithio’n brysur ar Brosiect y Coed Ynn Byw a does ond gobeithio y bydd rhywun yn medru darganfod ateb i’r ffwng a’r chwilen yn weddol fuan.








No comments:

Post a Comment