Gwerddon Glyd yn y Goedwig
Un o’r prynhawniau hynny pan mae amser yn sefyllian
oedd hi a chyfle i fyfyrio a rhyfeddu unwaith eto fyth ar fyd natur. Mewn gardd
roeddwn i yng nghanol coedwig yng Ngwlad Pwyl, tua deng milltir ar hugain i’r
dwyrain o ddinas Poznan. Roedd awyr las uwchben ac ambell i gwmwl gwyn bychan
yma a thraw.
Gwerddon fach oedd yr ardd yng nghanol hen
goedwig ddilychwin. Cafodd y coed brodorol lonydd i dyfu yn y goedwig hon ers canrifoedd
ac erbyn heddiw mae’r llywodraeth yn gofalu amdani. Yn y darn lle roeddwn i,
sef pentref bychan bach o’r enw Bure, roedd cymysgedd o goed llydanddail a
choed conifferaidd yn tyfu.
Coed conifferaidd oedd amlycaf ac roedd amrywiaeth
o larwydd, coed pîn a ffynidwydd yno ond roedd ‘na hefyd goed llydanddail –
rhai oedd yn eithaf cyfarwydd i mi fel bedw, deri a cheirios. Be oedd yn braf
am y rhan gonifferaidd o’r goedwig oedd ei bod yn ddigon agored a digon o olau
yn cyrraedd llawr y goedwig nes bod cyfle i lystyfiant dyfu dan y coed.
Un peth amlwg iawn ar lawr y goedwig oedd
morgrug mawr oedd yn brysur yn croesi’r llwybrau i bob cyfeiriad. Roedd y pridd
yn eithaf tywodlyd yn y rhan hon, er ein bod ymhell iawn o’r môr ond roedd sawl
llyn a phwll yma ac acw drwy’r goedwig.
Hen ffermdy bychan oedd y bwthyn lle roeddem
yn aros a thua pum erw o’i amgylch oedd ryw oes wedi’u torri fel caeau gwair
neu eu defnyddio i dyfu cnydau. Roedd yr hen beiriannau lladd gwair yn dal o
gwmpas ond erbyn hyn wedi eu defnyddio i harddu’r ardd drwy blannu mynawyd y
bugail lliwgar ynddyn nhw.
Roedd yr ardd yn hyfrydwch pur gydag
amrywiaeth o goed derw, pisgwydd neu goed leim, castanwydden y meirch, ceirios,
afalau, eirin a masarnen fach yn ogystal â llwyni fel eirin Mair neu gwsberis a
lelog. Eistedd yn y deildy roeddwn i a grawnwin yn disgyn yn rawnsypiau ir o’r
to: mae’r tymheredd yma ym mis Awst yn gallu cyrraedd tua 35-360C ac
felly roedd yn fendith cael bod dan y cysgod gwyrdd.
Gerllaw roedd sŵn dŵr
rhedegog yn llifo drwy bwll oedd yn llawn pysgod aur boliog a cherflun o grëyr
glas yn eu gwarchod.
Yma ac acw yn yr ardd roedd gwlâu o flodau o
bob lliw a llun a’r perarogl hyfrytaf yn codi ar yr awel.
Afraid ydi dweud fod
glöynnod byw yn cael eu denu i’r ardd ac yn arbennig i’r gwely blodau oedd dan
ffenestr y gegin. Y ferfain oedd yn tyfu yno ac arni roedd britheg Sbaen (Issoria lathonia; Queen of Spain
Fritillary). Prin roeddwn i’n gallu credu fy llygaid – taswn i wedi gweld hon
ym Môn, mi faswn wedi bwrw fy nhin dros fy mhen deirgwaith am ei bod yn brin
iawn yn Ynysoedd Prydain.
Roedd ‘na blanhigyn oedd yn edrych yn hynod o
debyg i’r byddon chwerw neu chwyn Joe Pye (Eupatorium
cannabinum; Hemp-agrimony) ond eto doeddwn i ddim yn ei weld yr un fath
rywsut. Felly dyma holi be oedd o, a darganfod mai rhywogaeth gardd oedd o Eupatorium maculatum neu Eutrochium
maculatum, spotted Joe-pyeweed – y byddon
chwerw fannog. Roedd hwn wedi denu’r fantell dramor (Vanessa cardui; Painted Lady).
Ladis gwynion neu fflocs yn gymysg â’r
seithliw a’r lafant oedd mewn gwely arall, a’r lliwiau a’r arogl fel ei gilydd
yn hudolus. Ond yr hyn a ddenodd fy sylw’n fwy na dim oedd yr amrywiaeth o
drychfilod oedd yno yr ardd: pryfaid dirifedi, chwiws neu wybed mân (oedd yn
cosi digon!), mursennod a gweision y neidr yn hofran uwchben y pyllau dŵr,
robin sbonc go fawr, chwilod o bob math, gwyfynod yn y gwyll a glöynnod byw yn
y dydd. Seren yr Eden yma, fodd bynnag, oedd merch fach o’r enw Weronika
Dwynwen, a bydd, mi fydd yn rhaid i mi gael dychwelyd yna!
No comments:
Post a Comment