Wednesday 10 August 2016


Gwarchodfa Conwy



Ar waetha’r ffaith fod holl drafnidiaeth swnllyd yr A55 yn chwyrnellu heibio i warchodfa’r Gymdeithas Gwarchod Adar yng Nghonwy, roedd hi’n rhyfeddol o dawel yno a digon i’w weld heb fynd draw i ganol yr hesg ac i syllu ar yr adar ar y pyllau. Roedd yn braf edrych i fyny Dyffryn Conwy a gweld pobl yn ymlacio ar y warchodfa yn haul y bore.





Gerllaw, roedd digon o arwydd gweithgaredd. Roedd rhywun wedi gosod blwch adar dan y bondo ac roedd teulu o adar to swnllyd iawn wedi ei feddiannu. Roedd yr erwain neu frenhines y weirglodd yn wawl gwyn yn haul y bore ac yn y cefn, yn weddol agos i’r gwrych roedd rhywun wedi bod wrthi’n brysur yn paratoi a gosod cartref i drychfilod hefo’r arwydd “rhowch gartref i fyd natur”.





Mae’r gwaith mae’r Gymdeithas Gwarchod Adar wedi’i gyflawni yma yng Nghonwy yn rhyfeddol. Dwi’n cofio dŵad yma pan oedd y twnnel dan yr afon Gonwy wrthi’n cael ei dyllu a dim byd ond tomenni o rwbel ar y safle yma, ac mae hynny tua phum mlynedd ar hugain yn ôl erbyn hyn. Ers hynny, maen nhw’n sicr wedi cynnig “cartref i fyd natur” yma, ond fydden nhw ddim wedi medru gwneud hynny heb gymorth eu gwirfoddolwyr, ac maen nhw’n chwilio am ragor o wirfoddolwyr.



Derbyniodd y Gymdeithas arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri er mwyn hwyluso’r gwaith yma ac mi fydden nhw’n hoffi recriwtio tua ugain o wirfoddolwyr newydd. Mi fyddan nhw hefyd yn defnyddio’r arian i osod offer rhyngweithiol fel mannau sain a thelesgopau er mwyn annog teuluoedd i fentro ymhellach i’r gwlypdir er mwyn gwerthfawrogi’n llawn y cyfoeth sydd yma.


Chwilio maen nhw am bobl sydd â diddordeb ym myd natur, yn frwdfrydig ac sy’n medru siarad yn rhwydd hefo pawb. Dydyn nhw ddim yn chwilio am arbenigwyr – dim ond am bobl sydd eisiau rhannu eu brwdfrydedd am fyd natur hefo eraill, ac hefo plant yn arbennig. Bod yn fodlon siarad hefo pobl a holi “welsoch chi’r crëyr mawr gwyn ar y pwll?” Oedd, roedd ‘na un o’r rheini yno pan oeddwn i draw yno ddydd Gwener dwytha!





Aderyn trawiadol ydi’r crëyr mawr gwyn a thua’r un maint â’r crëyr glas. Mae’r corff yn wyn, y pig yn felyn a’r traed yn ddu. Ardea alba ydi’r enw gwyddonol a Great White Egret ydi’r enw Saesneg arno. Wrth i boblogaethau o’r crëyr mawr gwyn gynyddu yn Ewrop, mae eu niferoedd yn cynyddu yn Ynysoedd Prydain ac maen nhw’n amlwg yn teithio’n fwyfwy i’r gogledd o dde Lloegr. Pysgod, trychfilod a llyffantod ydi eu bwyd ac maen nhw’n picellu’r rhain hefo’u pigau hir, miniog.



Mae ‘na ddarpariaeth yma ar y warchodfa yng Nghonwy i blant ysgolion cynradd hefyd. Mae modd i ysgolion ddewis o rhaglenni dysgu sydd  wedi eu cysylltu â’r cwricwlwm, ac mi fedrwch gael hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn i’r plant. Mae’r hyn sy’n cael ei gynnig yn amrywio hefo’r tymhorau ond mae cyfle i weld trychfilod, planhigion ac adar, ac mae’r plant yn gallu dilyn llwybrau’r warchodfa i gael gwersi yn yr awyr agored.



Mae ‘na ganllawiau i athrawon a chyflwyniad ar y wefan ag awgrymiadau am waith blaenorol a dilynol. Cost sesiwn ydi £3.50 fesul disgybl ond ar hyn o bryd mae ALDI wedi rhoi yr arian maen nhw’n ei godi am fagiau plastig er mwyn noddi’r cynllun yma ac mae ‘na rywfaint o bres ar ôl.



Rhan fawr o apêl y warchodfa dwi’n credu ydi na wyddoch chi ddim o un diwrnod i’r llall be welwch chi yma. Maen nhw’n chwilio am wirfoddolwyr sy’n fodlon bod yn hyblyg, sy’n fodlon plannu blodau gwyllt neu baratoi bwyd adar hefo plant, a datgelu rhyfeddodau byd natur iddyn nhw. Os oes gennych chi ddiddordeb, ffoniwch y warchodfa ar 01492 584091 i gael sgwrs. Wyddoch chi ddim beth ddaw i’ch rhan wrth agor y drws yma ar fyd natur.




No comments:

Post a Comment