Ail Natur 118 3
Awst 2016
Mae newyddiadurwyr yn
aml yn cyfeirio at y cyfnod yma fel “dyddiau cŵn” ac mae tarddiad yr enw yn eithaf difyr. Roedd yr Hen
Roegiaid yn meddwl am gytser y Canis Major fel ci yn rhedeg ar ôl ysgyfarnog. Siriws
neu Seren y Ci oedd trwyn y ci ac roedden nhw’n cyfeirio at leoliad y seren
arbennig hon yn y ffurfafen. I’r Groegiaid a’r Rhufeiniaid, roedd hi’n ddyddiau
cŵn pan oedd y seren hon yn ymddangos ychydig cyn codiad yr
haul tua diwedd Gorffennaf. Iddyn nhw y dyddiad yma oedd poethaf y flwyddyn ac
yn gyfnod allai ddod â thwymyn neu drychineb
hyd yn oed. Mae cyfeiriad at hyn gan Homer yn yr Iliad, lle mae’n cyfeirio at
Seren y Ci fel ci Orion ac yn ei disgrifio fel seren oedd yn gysylltiedig â
rhyfel a thrychineb. Oes ‘na ddywediad Cymraeg am y cyfnod hwn neu ydan ninnau
hefyd yn dilyn yr Hen Roegiaid?
Yn ddiweddar fe
ddigwyddodd sawl anffawd y naill un ar ôl y llall yn ein teulu ni: dim byd
mawr, mae’n dda gen i ddweud, ond roedd y ‘bos’ yn adrodd hanes ein teulu wrth
gyfaill iddo o’r Rhos, ac meddai yntau, “Wel
rargien fawr, aethoch chi ddim i chwilio am hen blât?” Mi aeth rhagddo i
egluro mai dyna fyddai’n digwydd gartref – os byddai dau anlwc neu anffawd wedi
digwydd, mi fyddai ei fam yn ddi-ffael yn mynd i chwilio am hen blât a’i
thorri’n racs, er mwyn gwneud yn siŵr fod y trydydd anlwc wedi digwydd. Tybed
pa mor gyffredin ydi hyn? A be arall fyddwch chi’n ei wneud i geisio torri
anlwc neu i annog lwc?
Diolch yn fawr iawn i Helga
Martin, Ysbyty Ifan am rannu’r cyfoeth o adar sy’n ymweld â’i gardd hefo ni.
Llun o fysedd y cŵn anarferol gafwyd gan Morwenna Williams, Pentraeth.
Dwi’n ryw feddwl mai bysedd y cŵn gardd
oedd y rhain ac mae’n bosib eu bod wedi eu croesi yn benodol er mwyn cael
blodau gwahanol. Posibilrwydd arall ydi mai’r hyn sydd wedi digwydd yma ydi
polyploidedd, ac mae hyn yn rhywbeth sy’n digwydd yn gymharol aml mewn
planhigion ym myd natur. Yn lle fod ‘na un set o gromosomau (haploid) yn y niwclews,
mi all fod yn ddau (diploid), tri (triploid), pedwar set (tetraploid) neu hyd
yn oed ragor ambell dro. Rhai enghreifftiau o blanhigion sy’n arddangos
polyploidedd ydi melon dŵr, gwenith, dahlias a tiwlipau.
Fe anfonodd Gareth
Pritchard glamp o lythyr diddorol yn rhoi hanes Creigiau Rhiwledyn i ni a
diolch hefyd am y lluniau hyfryd o’r gwylanod coesddu.
Mae Cyfoeth Naturiol
Cymru wrthi’n gwneud cyfrif o adar môr sy’n nythu ar arfordir Cymru ac wedi
canolbwyntio ar arfordir Môn a Phen Llŷn yn ystod y misoedd dwytha ‘ma. Mi
ddechreuwyd ar y cyfri llynedd ac maen nhw’n gobeithio cwblhau’r cyfri y
flwyddyn nesa. Maen nhw’n gwneud hyn er mwyn cyfrannu at y
cyfrifiad diweddaraf o adar môr sy’n bridio ym Mhrydain ac Iwerddon – rhaglen gychwynnwyd
45 mlynedd yn ôl er mwyn gweld be oedd yn digwydd mewn poblogaethau adar môr.
Mae casglu’r wybodaeth yma’n
bwysig er mwyn gweld be sy’n digwydd dros gyfnod cymharol hir i’r adar môr a’r anifeiliaid
maen nhw’n dibynnu arnyn nhw. Yn barod eleni maen nhw wedi
cofnodi newidiadau lleol, gan gynnwys diflaniad nythfa o 500 o wylanod coesddu ar
arfordir dwyreiniol Ynys Môn. Ar y llaw arall roedd ‘na gynnydd o 2,500 i 5,000
yn niferoedd gwylogod ar Ynys Badrig oddi ar ogledd Ynys Môn.
Er y flwyddyn 2000, mae rhai o adar môr mwyaf eiconig Cymru wedi dirywio
– rhai fel y fulfran werdd, aderyn
drycin y graig, gwylan gefnddu leiaf a gwylan goesddu. Ond nid newyddion drwg i
gyd sydd ‘na gan fod niferoedd gwylogod,
llursod a phalod wedi cynyddu.
Diolch i bawb sy’n
sgwennu llythyrau mor ddiddorol ac os byddwch chi’n mynd i rywle gwahanol dros
yr haf, ac yn gweld rhyfeddodau ym myd natur beth am dynnu lluniau a’u hanfon
atom?
No comments:
Post a Comment