Sunday 18 September 2016


Trysorau Cors Erddreiniog                                                                           14 Medi 2016

Diwrnod o haf yn nechrau Medi oedd hi a finna wedi mynd draw i Gors Ddreiniog neu Gors Erddreiniog i roi ei henw llawn iddi hi hefo criw Gwarchod y Gwyllt.



Roedd hi’n ddiwrnod distaw, heulog, poeth a phawb a phopeth fel petai nhw wedi dechrau tawelu.




Os nad ydach chi’n siŵr ble mae Cors Erddreiniog, mae hi’n gors reit fawr, sydd fwy neu lai yng nghanol Môn, i’r gogledd ddwyrain o Langefni. Yn y gors mae Llyn Wyth Eidion ac yn ôl y chwedl roedd gwas Nant Uchaf yn aredig un pnawn trymaidd hefo wyth ych. Roedd yntau eisiau cael darfod ac wrth weld yr ychen yn araf, dyma fo’n codi ei ffon i’w chwipio. O ganlyniad mi ddechreuodd yr ychen redeg yn wyllt. Mi geisiodd yntau eu rhwystro drwy wthio’r ffon i’r ddaear, ond yn ofer. Mi ruthrodd yr ychen i mewn i’r llyn gan foddi a boddi’r gwas. Yn ôl y chwedl, yn y fan ble gwthiodd o’r ffon i’r ddaear fe dyfodd coeden na welodd neb ei thebyg ac os dowch chi o hyd i’r goeden, mae ‘na ffortiwn wrth ei bôn.





Rhai o’r trychfilod amlycaf oedd o gwmpas oedd y gweision neidr. Roedd yn wych gweld yr ymerawdwr (Anax imperator; Emperor Dragonfly) a’r gwäell cyffredin (Sympetrum striolatum; Common Darter) yn hedfan o amgylch, ac nid un neu ddau ond nifer fawr ohonyn nhw.



Roedd hi’n braf hefyd gweld cymaint o flodau: roedd y clefryn (Jasione montana; Sheep’s bit) a thamaid y cythraul (Succisa pratensis; Devil’s bit scabious) yn las gogoneddus ac mewn ambell i fan roedd cwrlid glas o’r clefryn yn gorchuddio’r glaswellt. Yma ac acw hefyd, roedd pennau gwynion yr ystrewllys (Sneezewort) i’w gweld. Mae hwn yn perthyn i’r milddail a dydi o ddim yn annhebyg iddo ond fod blodau’r milddail yn llai.

Ystrewllys




Braf hefyd oedd medru gwrando ar drydar y robin sbonc neu sioncyn y gwair neu’r ceiliog rhedyn ac mi fues yn ddigon ffodus i fedru gweld un ar y llwybr pren.


I mi, un o’r golygfeydd harddaf oedd gweld brial y gors (Parnassia palustris; Grass of Parnassus). Mae’r blodyn yma’n un gwirioneddol dlws – pum petal wen a gwythiennau gwyrdd arnyn nhw, ac yn y canol ar waelod y petalau mae ‘na ddotyn bach gwyrdd. Cors ydi palustris ac mae’r enw Parnassus yn dod o Fynydd Parnasws yn hen Wlad Groeg ble roedd yn tyfu.

Brial y gors



Roedd tafod y gors yn tyfu gerllaw iddo a phryf copyn mawr boliog wedi llunio ei we yn gain gerllaw. Roeddwn i uwchben fy nigon!




Ac nid dyna’r cyfan, fe wnaethom hefyd weld y gorsfrwynen ddu (Schoenus nigricans; Black bog-rush) ac mae’r gorsfrwynen hon yn denu’r tân bach diniwed neu’r pryf tân. Ond roedd gwell i ddod! Mi welais froga bach ifanc (Bufo bufo; Toad) a gialipi wirion neu fadfall neu’r genau goeg, ac mi lwyddodd pawb ond fi i weld gwiber! 





Mae’r gors wedi datblygu am fod dŵr melys yn ffrydio o’r garreg galch ac yn troi’r dŵr yn alcali, a dyma sy’n cyfri am yr amrywiaeth o blanhigion sy’n tyfu yma. Mae ‘na hefyd dywodfaen Llugwy yn brigo yma ac acw drwy’r gors ac mae’r darnau yma’n asidig sy’n golygu fod ambell i ddarn o rostir i’w weld lle mae eithin mân a grug yn tyfu.



Yma y gwelais i yr hyn i mi oedd yn goron ar y cyfan, sef gweld crwynllys y gors (Gentiana penumonanthe; Marsh gentian). Blodyn glas godidog fel awyr las yr haf sy’n edrych fel ffiol gain ydi hwn, ac mae o’n brin. Oedd, roedd fy ffiol bersonol i yn llawn.



Unwaith eto roedd ‘na glystyrau ohono’n tyfu ac yn weddol agos ato roedd cwrlid o lafn y bladur (Narthecium ossifragum; Bog asphodel) yn goch ar ôl mynd i had.  





Dwi’n reit siŵr o un peth. Does dim rhaid i chi fynd i chwilio am goeden arbennig i ddod o hyd i drysorau – mae Cors Ddreiniog yn llawn ohonyn nhw.








No comments:

Post a Comment