Coed y Brenin
Sŵn nant yn byrlymu, sŵn yr adar yn canu a
sŵn y traffig ymhell islaw i mi oedd yn fy nghroesawu wrth i mi gyrraedd Coed y
Brenin. Roedd brigau’r griafolen yn gwargrymu hefo’r aeron coch a hadau’r efwr
a’r helyglys yn amlwg iawn. Roedd popeth yn llonydd, dim mymryn o siffrwd y
gwynt hyd yn oed a llonyddwch Medi yn lapio am bopeth yn ddistaw a lliwgar.
Ond am unwaith nid wedi dod yma i ryfeddu at
fyd natur roeddwn i ond i glywed am y defnydd a wneir o’r coedwigoedd yng
Nghymru. Cyfarfod â StJohn Ashworth ac Ifan Jones o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
roeddwn i, i glywed sut mae coed yn cael eu cynaeafu yng Nghymru ac yn benodol
yng Nghoed y Brenin. Mae’r coed yma yn rhan o Goedwig Vaughan oedd ar Ystâd
Nannau ac mi gredir fod yna goed wedi bod yma ers oes y Tywysogion oedd yn cael
eu defnyddio i hela er mwyn pleser yn ogystal ag i gael bwyd.
Diddorol, felly, ydi sylwi fod defnydd Coed y
Brenin wedi newid erbyn heddiw o’r hyn fwriadwyd ar ei gyfer pan sefydlwyd y
Comisiwn Coedwigaeth ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Y bwriad yr adeg honno oedd
gofalu fod ‘na ddigon o bren ar gael ar gyfer rhyfela. Erbyn heddiw mae
hamddena yn rhan bwysig o’r hyn sy’n digwydd yng nghoedwigoedd Cymru a chyfle i
bobl feicio mynydd, rhedeg a cherdded yn hyfrydwch y gwahanol goedwigoedd.
Sbriwsen Sitca (Picea sitchensis; Sitka spruce), llarwydden (Larix spp; Larch) a ffynidwydden Douglas (Pseudotsuga menziesii; Douglas fir) ydi’r prif gnwd yma a’r Sitca
yn bennaf. Mae hon yn goeden sy’n frodorol i ogledd Canada ond mae’n hoffi’r
amodau claear a thamp sydd gennym yng Nghymru. Pan fydd y goeden tua ugain i
bum mlwydd ar hugain, mae angen dechrau teneuo’r cnwd ac yna mi gaiff ei llwyr
gwympo pan fydd tua hanner cant i drigain oed.
Mae StJohn yn gyfrifol am reoli’r cynaeafu yn
Nhîm gogledd Cymru ac mi eglurodd sut y gwerthir coed i gynhyrchwyr. Mae dau
ddull: naill ai wedi eu cwympo a’u gosod ar un ochr gan weithwyr CNC neu drwy
werthu cnwd o goed ar eu traed yn uniongyrchol i’r cynhyrchwyr a hwythau wedyn
yn dod â’u pobl eu hunain i mewn i gynaeafu.
Mi ges i gyfle i weld y broses cwympo a gosod
y coed mewn pentyrrau. Mi aeth Ifan Jones, Rheolwr Cynaeafu Coed y Brenin, Meirionydd a Phenllyn, a
fi reit i mewn i’r goedwig i weld y broses.
Y
cynaeafu ydi’r cam gyntaf. Wedi i’r coed gael eu cwympo, mae peiriant anferthol
sy’n edrych fel Jac Codi Baw ond hefo cyllyll torri mawr arno yn gafael yn y goeden
sydd wedi’i chwympo, tynnu’r brigau oddi arnyn nhw ac wedyn eu torri i’r maint
cywir. Aled Jones oedd yn gyfrifol am y Cynaeafwr ac roedd o’n medru gwneud hyn
i gyd mewn llai na dau funud!
Roedd y cyfan yn cael ei weithio drwy’r
cyfrifiadur oedd yn y cab ac wnes i ddim sylweddoli fod y broses yn cael ei
rheoli i’r fath raddau drwy’r cyfrifiadur a llywio deheuig o’r holl fotymau. Roedd
o’n gadael y boncyffion wedyn ar lawr.
Yna,
twrn y Blaenwr oedd hi, yn cael ei drin yn ddeheuig gan Stephen Ellis y tro
hwn.
Peiriant anferthol arall oedd yn gafael yn y boncyffion mewn dull nid
annhebyg i godi teganau hefo peiriant codi bach mewn ffair bleser, eu llwytho
ar drelar ac yna eu dadlwytho’n drefnus wrth ochr y trac ar gyfer y loriau mawr
sy’n dod heibio i’w cario i’r cynhyrchwyr.
Mae’r
pren yma’n cael ei ddefnyddio yn y farchnad adeiladu, ar gyfer ffensio ac fel
tanwydd biomas. Defnyddir peth o’r llarwydd ar gyfer gwlân coed ar gyfer hidlo
finegr, ac mae modd ei ddefnyddio i bacio amrywiaeth o nwyddau gan gynnwys
stwffio tedi bêrs!
Mi ges
i fore oedd yn agoriad llygad i mi, ac mae’n werth i chi fynd draw am dro i Goed
y Brenin.
No comments:
Post a Comment