Sunday 18 September 2016


Seren frau                                                                                          21 Medi 2016

Cerdded ar hyd y traeth roeddwn i pan welais i hi, a hynny yn y darn lle mae’r tonnau’n torri ar y traeth. Yr union fan lle mae’n bleserus cerdded yn droednoeth a theimlo’r dŵr yn gynnes ar eich traed ond yn ddigon pell o wlychu eich dillad!


Mi fu bron i mi gerdded arni hi am fod ei chuddliw yn berffaith ac yn asio hefo gronynnau’r tywod. Seren frau (Ophiuroidea) oedd hi a pherthyn i’r ffylwm Ecinodermiaid (Echinodermata) mae hi. Mae’r enw Ecinodermiaid yn dod o Hen Roeg – echinos a derma. Ystyr echinos ydi draenog ac ystyr derm ydi croen – felly croen pigog. Mae hyn yn wir am rai aelodau o’r ffylwm yma, rhai fel draenog môr (Sea urchin) sy’n bigog iawn a thaten y môr neu lygoden y môr (Sea potato neu Heart urchin) sy’n fwy blewog na phigog, a dydi pob un ohonyn nhw ddim yn bigog. Yn sicr dydi’r seren frau ddim yn bigog – mae hi’n weddol fach ac yn hynod o gain.


O ran siâp a llun mae’n debycach i’r seren fôr sydd hefyd yn aelod o’r Ecinodermiaid, a dydi hithau chwaith ddim yn bigog. Tra mae’r seren fôr hefo pum rhan sy’n weddol drwchus, mae pum rhan y seren frau yn eiddil a chain ac er y basa chi’n credu y basa un chwythiad go dda yn torri bob un ohonyn nhw, maen nhw’n syndod o wydn.


Be sy’n nodweddiadol o bob aelod o’r ffylwm yma ydi eu bod nhw i gyd yn arddangos cymesuredd rheiddiol ac maen nhw i gyd yn anifeiliaid sy’n byw yn y môr. Be mae cymesuredd rheiddiol yn ei olygu ydi y medrwch chi dorri’r anifail yn ei hanner unrhyw ffordd a dal i gael dau hanner sy’n gymesur – rwbath tebyg i dorri teisen sbynj yn ei hanner. Allech chi ddim gwneud hynny hefo anifeiliaid fel chi a fi – dim ond mewn un lle y medrwch chi ein torri yn ein hanner i gael dau hanner sy’n debyg i’w gilydd a chymesuredd dwyochrol ydi’r enw ar hynny. Hynny ydi, dim ond i lawr y canol o gorun y pen i lawr rhwng y ddwy goes y medrwch chi’n torri ni er mwyn cael dau hanner sy’n union yr un fath.

Mae aelodau o’r ffylwm yma i’w cael ym mhob rhan o’r cefnfor - o’r llain rynglanw ar y traeth i ddyfnderoedd mawr ac mae tua saith mil o rywogaethau byw yn perthyn i’r Ecinodermiaid. Un gallu rhyfeddol sy’n perthyn i’r rhan fwyaf o’r Ecinodermiaid ydi’r gallu i aildyfu neu adfywio eu meinwe. Er enghraifft, mi fedran nhw aildyfu braich os ydi hi’n cael ei thorri. Maen nhw hefyd yn medru atgenhedlu yn anrhywiol.

Yr un peth sy’n gwneud yr Ecinodermiaid yn wahanol i bob creadur arall ar wyneb y blaned hyfryd yma rydan ni’n byw arni ydi fod ganddyn nhw system ddŵr ryfeddol. Rhwydwaith o gamlesi sydd ganddyn nhw drwy’r corff ac mae’r rhain yn chwarae rhan mewn cyfnewid nwyon, bwyta, synhwyro a symud. Mae ‘na agoriad i mewn i’r anifail sy’n cael ei alw’n madreporit ac yn y seren frau, mae hwn ar ochr isaf y corff. Hwn sy’n cysylltu â’r gyfres o gamlesi drwy’r corff.



Mae dros ddwy fil o wahanol rywogaethau o’r seren frau yn y byd, a dros eu hanner nhw’n byw mewn dyfroedd sydd dros ddau gan metr o ddyfnder.

Symud ar draws y tywod gan ddefnyddio ei breichiau ystwyth mae’r seren frau ac mi all y breichiau yma fod yn gymaint â phedair modfedd ar hugain mewn un o’r rhai mawr. Un fach ifanc welais i ond pwy a ŵyr na wnaiff hon dyfu i fod yn un fawr ryw ddydd.




No comments:

Post a Comment