Gelod 12 Hydref 2016
Erstalwm roedd gelod yn cael eu defnyddio yn
rheolaidd wrth drin cleifion, a hynny at bob math o afiechydon. Mi fedra i
gofio'r Athro Bryn M. Jones yn adrodd ei hanes wrthym ni fyfyrwyr yn
Aberystwyth fel roedd o’n gwneud gwaith ymchwil ar y gelod. Ymchwilio i sut
roedd gelod yn llwyddo i gael gwaed i lifo o gorff dyn oedd o ac mi fedra i ei
gofio yn dweud wrthym sut roedden nhw’n cael gafael ar y deunydd crai. Y dull
oedd cerdded yn droednoeth i mewn i byllau ac aros i’r gelod ddod amdanyn nhw i
sugno eu gwaed ac wedyn eu tynnu oddi ar y coesau a’i rhoi i gadw.
Pan ddwedodd Emyr Humphreys o Cyfoeth
Naturiol Cymru wrtha i fod ‘na gelod (Hirundo medicinalis; European
medicinal leech) yng Nghors Bodeilio ac y basa fo’n fodlon dangos i mi ble
roedden nhw, roeddwn i’n gobeithio yn fy nghalon nad oedd o’n disgwyl i mi
gerdded yn droednoeth i byllau yn y gors yn nhymor yr hydref! Doedd dim rhai i
mi boeni fel mai’n digwydd ond mae angen un neu ddau o bethau arnoch chi os
ydach chi’n dymuno mynd i hela gelod.
Y peth cyntaf ydach chi ei angen ydi pâr reit
nobl o wellingtons, ac mae rhwyd a bwced wen yn lot o help hefyd (i’w dal nhw).
Mae’r dull yn weddol syml ac yn lot fawr o hwyl. Cerdded yn reit dalog i mewn i
ddŵr mewn pwll sydd ei angen gan wneud gymaint o stomp ag y medrwch chi hefo’ch
wellingtons nes mae’r dŵr yn troi’n frown ac yna aros yn llonydd am ychydig.
Mewn gwirionedd, dynwared sut y buasai anifeiliaid yn cerdded i’r dŵr i yfed:
cerdded i mewn a thindroi am ychydig. Mae gelod yn glynu at anifeiliaid eraill
yn ogystal â dyn.
Rŵan tasa hyn wedi
gweithio’n iawn, mi fasa ni wedi gweld y gelod yn nofio drwy’r dŵr tuag atom ni
ac yn glynu yn ein wellingtons – diolch byth nad oeddwn i’n droednoeth. Mi all
oedolion fod yn gymaint ag wyth modfedd o hyd, sy’n lot rhy hir i fod yn sugno
fy ngwaed! Fel arfer maen nhw’n wyrdd, brown neu gyfuniad o’r ddau liw ond maen
nhw’n edrych yn dywyllach yn y dŵr, ac mae ganddyn nhw linell goch i lawr eu
hochr.
Mae ganddyn nhw ddau sugnwr, un ar bob pen
i’w corff, sy’n cael eu galw’n sugnwr y pen blaen a sugnwr y pen ôl. Mae’r un
ar y pen ôl fel arfer yn cael ei ddefnyddio i ddwyn pwysau i symud, ond mae’r
un ar y pen blaen hefo gên a dannedd (ie, dannedd!) a’r darn yma sy’n glynu at
y croen noeth ac yn dechrau bwydo.
A dweud y gwir mae gan gelod sy’n cael eu
defnyddio’n feddyginiaethol dair gên fel arfer a thua cant o ddannedd i
frathu’r truan maen nhw’n cael gafael arno, ac mi fyddan yn gadael marc siâp Y
mewn cylch ar y croen. Wedi torri’r croen a chwistrellu gwrthgeulydd (hirudin)
ac anaesthetig i mewn, maen nhw’n dechrau sugno gwaed. Mi all oedolyn sugno hyd
at ddeng gwaith ei bwysau ei hun mewn un pryd, ac mae tua 5-15ml o waed yn
gyffredin.
Eu cynefin ydi pyllau a ffosydd dŵr croyw
hefo digon o dyfiant o’u cwmpas nhw, a hynny mewn hinsawdd tymherus. Mae gelod
yn ddeurywiol, hynny ydi mae nodweddion benywaidd a gwrywaidd ar yr un anifail
ac mi all ddodwy tua hanner cant o wyau yn agos, ond nid dan, ddŵr ac mewn
mannau cysgodol, llaith fel arfer.
Mi fu gormod o gasglu ar gelod yn y bedwaredd
ganrif ar bymtheg ac mi wnaeth hynny sigo poblogaethau, yn ogystal â draeniad
tir yn arwain at ddirywiad mewn cynefin sy’n addas iddyn nhw. Fe ddaeth y
tractor yn lle’r ceffyl ac maen nhw’n reit hoff o fwydo ar goesau ceffylau.
Mae’r rhywogaeth yma yn cael ei hystyried yn
brin erbyn heddiw ac felly yn cael ei gwarchod. Roedd llawenydd cyffredinol
felly pan ganfuwyd fod bron i ddau gant ohonyn nhw yn y gors. Yn anffodus,
ddaeth yr un ohonyn nhw i fy ngweld i, ond roedd Emyr yn amau mai gostyngiad yn
y tymheredd oedd yn gyfrifol am hyn.
H’mm, mi fydd yn rhaid i mi ddŵad yn ôl yr
haf nesa.
No comments:
Post a Comment