Ffrwythau’r Hydref 26 Hydref 2016
Do, dwi wedi cael bod yn crwydro
unwaith eto a mynd draw i’r bwthyn bach yng nghanol y goedwig yng Ngwlad Pwyl.
Roedd hi’n syndod y gwahaniaeth mewn deufis yn y gornel fach hon. Roedd hi’n
boeth yna ddechrau Awst ond erbyn hyn, roedd brath ar y gwynt ac angen lapio
amdanaf yn dynn cyn mentro allan.
Un o’r coed hardd sy’n yr ardd
ydi coeden cnau Ffrengig (Juglands regia;
walnut) ac roedd y dail yn dechrau troi eu lliw o wyrdd i felyn tyner. Mae’n
goeden llydanddail, fawr sy’n medru tyfu i tua 35 metr o uchder ac mae hi’n un
sy’n hoffi digon o haul ac yn tyfu’n dda os oes digon o le o’i chwmpas.
Mewn coeden ifanc, mae’r rhisgl yn llyfn ac yn lliw brown olewydd ond wrth i’r goeden heneiddio, mae lliw y rhisgl yn troi’n arian neu lwyd.
Roedd hon yn goeden aeddfed ac
roedd y ffrwythau, y cnau Ffrengig wedi disgyn ar y llawr gan roi llond powlen o gnau i’w bwyta.
Mae
‘na wiwer goch hefo blew du ar ei chynffon yn ymweld â’r goeden hon er mwyn
bwyta’r cnau – a wela i ddim bai arni!
Mae pren y goeden cnau Ffrengig
yn bren caled ac mae coeden sydd newydd ei thorri hefo lliw oren/frown ar y
coedyn ond o fewn ychydig ddyddiau mi fydd wedi tywyllu yn frown. Unwaith mae
wedi sychu, mae’r lliw yn frown tywyll cyfoethog ac yn aml iawn, mi fydd
siapiau diddorol yn y pren ac mae galw mawr amdano gan grefftwyr. Defnyddiwyd y
pren i wneud dodrefn, gitarau, bwlyn drysau a handlenni.
Mae’r goedwig yn gyfuniad o goed pîn a choed
llydanddail fel y fedwen a’r dderwen ac roedd yn wych mynd am dro ar hyd
rhodfeydd y goedwig gan wylio dail y bedw yn disgyn am fy mhen fel conffeti.
Dwi’n gwerthfawrogi mynd am dro
drwy’r goedwig ac erbyn hyn roedd ffrwythau yn y goedwig hefyd – sef y madarch.
Mae amrywiaeth dda yma ac mae casglu madarch yn ei dymor yn bwysig i’r
trigolion lleol.
Yr un madarch dynnodd fy sylw i’n fwy na dim oedd amanita’r
gwybed (Amanita muscaria; fly agaric) ac roedd ‘na nifer ohonyn nhw yn y
goedwig.
Mae’n hawdd iawn adnabod y
madarch yma oherwydd ei gap coch a’r smotiau gwyn siâp triongl sydd arno. Mae’n
debyg ei fod yn cael yr enw amanita’r gwybed am fod pobl yn arfer a’i dorri’n
ddarnau a’i roi mewn soser o lefrith i hurtio gwybed neu bryfed yn ystod yr
Oesoedd Canol.
Mae’r cyffur sydd yn y ffwng yn achosi i ddyn
weld rhithiau neu ddrychiolaethau. Mae o’n cael yr un effaith â diod feddwol ac
yn cael ei ddefnyddio gan y Lapiaid i’r perwyl hwn. Yr hyn maen nhw’n ei wneud
ydi sychu’r cap a’i lyncu heb ei gnoi ac mae’r effeithiau’n dechrau dangos ar
ôl ryw ugain munud. Mae’n effeithio system nerfol y corff ac mi fydd y person
yn aml yn tynnu neu’n plycio yn ei gwsg. Mi fydd hyn yn cael ei ddilyn gan
gyfnod o benysgafndod a chwsg trwm iawn.
Yn ystod y cyfnod yma, mi fydd y madarch yn
aml yn cael ei chwydu, ond mae ei effeithiau’n para ac mi fydd y person yn
gweld gweledigaethau yn glir iawn. Wedi iddo ddeffro, mi fydd yn teimlo’n grêt
ac yn arbennig o fywiog ac ambell waith yn credu eu bod yn gallu gwneud pethau
oedd y tu hwnt i’w allu, fel hedfan er enghraifft. Mae ‘na dybiaeth fod y
Lapiaid wedi darganfod effeithiau amanita’r gwybed drwy sylwi ar yr effaith
roedd y madarch yn ei gael ar y ceirw oedd yn ei fwyta.
Be oedd yn fy rhyfeddu i oedd fod ‘na lai o’r
madarch yma bob tro roeddwn i’n mynd am dro: mae’n rhaid fod rhyw anifail bach
yn eu bwyta ac mi fasa wedi bod yn ddiddorol iawn gweld be oedd yn eu bwyta.
No comments:
Post a Comment