Mesur fy ngardd
Yn Steddfod yr Urdd yn Sir y Fflint roeddwn,
ac un dda oedd hi hefyd ynte? Ac wrthi’n crwydro o stondin i stondin yn edrych
am y peth yma a’r peth arall, a dyma gyrraedd y Gwyddonle. Reit wrth y drws,
roedd ‘na stondin ddifyr iawn yr olwg a dyma stopio a dechrau edrych ar y
pamffledi ar y bwrdd, ac mi ddaeth ‘na ddyn ifanc clên iawn ata i a gofyn os
oeddwn i isio help. Dwi wedi sylweddoli wedyn mai Iwan Edwards oedd o, o’r
rhaglen Garddio a Mwy ar S4C.
Edrych ar daflen arolwg “Polli:Nation”
roeddwn i, ac mae’r enw’n glyfar iawn yn Saesneg gan mai edrych ar beillio
mae’r arolwg. Mi eglurodd Iwan mai cyfan sydd angen ei wneud ydi mapio llecyn
10 metr wrth 10 metr yn yr ardd, cofnodi sut fath o dir ydi o (concrit, pridd,
glaswellt etc), cofnodi pa fath o blanhigion sy’n tyfu yna ac wedyn cofnodi pa
drychfilod sy’n ymweld â’r llecyn. Roeddech chi’n cael templed reit hwylus yn y
cyfarwyddiadau, rhestr o blanhigion i’w nodi a chanllaw clir yn dangos y
gwahanol drychfilod allai ymweld â’ch Eden fach.
Reit, be allai fod yn symlach? Wel, ‘blaw am
anhawster mesur deg metr wrth ddeg metr a wedyn mesur y darnau o fewn y deng
metr sgwâr, roedd o’n weddol hawdd. Wnes i erioed sylweddoli darn mor fawr ydi
10 metr wrth 10 metr! Yn fras, mae metr tua’r un fath â llathen ac felly, tua
deg llath wrth ddeg llath.
Dyma ddechrau brasgamu i drio mesur hyn a
gweld ar fy union gymaint o goncrit a glaswellt diffaith oedd gen i yn y darn
yma o’r ardd ac mi fydd yn rhaid i mi drio mynd ati i blannu rhagor o lwyni a
blodau sy’n mynd i ddenu peillwyr y flwyddyn nesa!
Ond roedd yn rhaid gwneud hyn yn iawn, ac
felly dyma ofyn i’r ‘bos’ fy helpu i fesur 10m wrth 10m. Sôn am strach! Ond,
gair o gysur i chi, dyma oedd y rhan anoddaf – roedd popeth arall yn reit hawdd
ac yn hynod o bleserus.
Roeddwn i wedi dewis y darn sydd wrth ymyl y
garej a lle mae gen i siglen lle bydda i’n eistedd i ryfeddu at fy ngardd. Nid
ei bod hi fel gardd Kew, peidiwch â chamddeall, ond mae hi’n rhoi llawer iawn o
bleser i mi. Gan fy mod wedi cael fy ngorfodi i eistedd yn llonydd a gwylio’r
byd yn mynd heibio yr haf yma rydw i wedi gwerthfawrogi’r ardd yn fawr iawn.
Mi dria i ddisgrifio’r darn yma o’r ardd i
chi. Mae ‘na wal bach ar hyd un ochr a blodau yn tyfu ar ei phen, wedyn gwrych
y lôn, darn o lawnt ar yr ochr arall ac mae’r garej yn ffurfio’r bedwaredd
ochr. Mae ‘na lwybr concrit wrth ochr y garej ac ambell i bot yn llawn blodau ger
y siglen.
Hefo border o bridd gweddol lydan o’i gwmpas ac
ar hytrawst, mae hen sylfaen y cwt haf pren chwythwyd i lawr yn stormydd y
gaeaf tua pum mlynedd yn ôl. Doeddwn i ddim yn siŵr iawn be i’w wneud hefo’r
darn concrit yma, ond o blannu lafant , mantell Fair a chlychau cwrel o’i
gwmpas, mae’n llwyddo i’w guddio’n weddol dda, ac mae’n amlwg fod y lafant yn
lecio ei le yn fawr yna.
Mae ‘na forder gweddol fawr wrth ran o’r
gwrych ger y lôn, celynnen, coeden tresi aur reit nobl, slabiau yn arwain dan y
lein ddillad ac mae’r gweddill yn lawnt. O ia, mi anghofiais sôn mae gen i dair
coeden ddrops a dwy ywen yn rhan o’r cyfan.
A rŵan y cyfan dwi angen ei wneud ydi siglo
ar y siglen yn haul yr haf a gweld pa drychfilod sy’n mynd i ymweld â fy
Mharadwys fach, eu cofnodi a rhannu’r wybodaeth hefo Polli:Nation. Pasiwch y
Pimms plîs!
No comments:
Post a Comment