Ail Natur 121 2
Tachwedd 2016
Ryw wag-symera
roeddwn i tua canol mis Hydref, a sbïo allan drwy ffenestr y llofft ar yr ardd pan
sylwais i ar ddwy frân yn bwyta afalau oedd wedi syrthio ar y llawr. Yna, mi
sylweddolais fod plu gwyn ar gynffon un o’r brain ac fod y llall, oedd yn ddu i
gyd, yn ryw dueddu i’w bwlio. Rydw i wedi sylwi ar blu gwyn ar y fwyalchen sawl
tro ond ddim erioed o’r blaen ar frân. Tybed ydach chi?
Diolch yn fawr iawn i
bawb sy’n ysgrifennu llythyrau mor ddiddorol atom. Diolch i Edwyn Ellis, Dulas
am ei lythyr difyr oedd yn cyfeirio ymhlith pethau eraill at y disgrifiad o’r
crëyr glas fel “aderyn hefo coesau hir a phig fel cleddyf”. Efallai i chi gofio
yn ôl ym mis Mehefin i Edwyn Ellis rannu penillion hyfryd am enwau’r ffermydd godre’r Eifl hefo ni a
minnau’n holi os oedd ‘na rai tebyg mewn ardaloedd eraill.
Rydw i’n ddiolchgar
iawn i John Henry Jones, Llangefni am anfon copi o benillion Corwynt i ardal
Llanddyfnan hefo enwau’r tai a rhai o’r cymeriadau. Pwy oedd y Corprol Syth a
Bardd Tŷ’n Lôn tybed? Diolch yn fawr hefyd i Rhiannon Parry, Penygroes am roi
enw llawn Corwynt, sef Owen Thomas ac adrodd hanes y teulu. Wel rŵan, dwi am
holi’r un cwestiwn eto. Oes ‘na benillion cyffelyb mewn ardaloedd eraill?
Diolch hefyd i Ann
Roberts am anfon hanes y dyn oedd yn casglu gelod yn Llyn yr Hendre ac yn eu
cadw mewn jariau ar silff yn y Tyrpeg yng Ngwalchmai yn ystod dauddegau’r
ganrif ddiwethaf. Mae’n rhaid eu bod yn dal i gael eu defnyddio yr adeg honno
felly.
Roedd Morwenna Williams, Pentraeth yn holi am y bywyd
gwyllt ar ôl ailblannu yng Nghoed y Brenin. Mae ‘na lawer llai o lystyfiant
gwyllt, brodorol dan goed conifferaidd nag sydd ‘na dan goed fel y dderwen, yr
onnen a’r fedwen. Yn yr un ffordd mae’n coed brodorol ni hefyd yn cynnal mwy o
fywyd gwyllt. Mae brigau ucha’r coed
yn cynnig lle a lloches i adar a gwiwerod i fyw ac adeiladu nythod a magu
teulu. Mae’r ffrwythau’n fwyd i’r pryfetach, adar, gwiwerod a mamaliaid eraill.
Mae amrywiaeth eang o drychfilod yn byw ar y coed, sydd, yn eu tro yn fwyd i’r
adar. Trychfilod fel y gwenyn meirch, gwyfynod, chwilod ag ati sy’n byw ar y
dail. Mi fydd rhai o’r llennyrch a gafodd eu llwyr gwympo yn cael eu hailblannu
hefo coed conifferaidd i ddarparu pren, ac mi fydd rhai eraill yn cael eu
plannu â choed brodorol ac yn y fan honno y medrwn ni ddisgwyl gweld yr
amrywiaeth mwyaf o rywogaethau.
Diolch o galon i Elsi
Roberts, Abergwyngregyn am anfon yr hanes am yr afal wedi gwreiddio ar goes Hypericum atom. Mi es i draw i weld y
llwyn dail y Beiblau yng nghartref Elsi Roberts a chael croeso mawr yno. Yn
anffodus roedd yr afal wedi syrthio erbyn i mi gyrraedd ond yr ateb i’r
cwestiwn a welais i rywbeth tebyg o’r blaen ydi: Naddo, welais i erioed y fath
beth a byddai’n ddifyr iawn gwybod os oes rhywun arall wedi gweld rhywbeth
cyffelyb. Mi welais hefyd yr uchelwydd roedd hi wedi llwyddo i’w dyfu ar y goeden
afalau.
Rydw i’n dal i ryfeddu
at yr hyn sy’n dal i flodeuo yn yr ardd. Mae’r tywydd mor glaear nes bod pethau’n
dal ati yn rhyfeddol o hwyr. Mae gen i un mynawyd y bugail glas hardd iawn sy’n
tyfu dan y coed rhosys (sydd hefyd yn dal yn eu blodau), a wyddoch chi be -
roedd ‘na gacwn yn dal i fela yn ei blodau ddydd Gwener diwethaf!
No comments:
Post a Comment