Friday 1 July 2016

Blodau ag Enwau Beiblaidd


Blodau ag Enwau Beiblaidd

Mae ‘na beth mwdradd o flodau sydd ag enwau Beiblaidd arnyn nhw, ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn flodau sy’n ddigon cyfarwydd i ni.

Dail y Beiblau ydi un o’r rhai amlycaf am wn i. Efallai mai hefo’r enw Hypericum rydach chi’n eu hadnabod nhw, sef teulu’r eurinllys neu llysiau Gŵyl Ifan. Llwyni yn yr ardd fel rheol ydi dail y Beibl hefo blodau melyn reit fawr arnyn nhw ac maen nhw hefyd yn cael eu galw’n Tutsan. Roedd pobl erstalwm yn cario’r ddeilen yn eu Beibl neu eu Llyfr Emynau ac roedd y deilen y llyfn ac heb fod yn rhy fawr.


Dail y fyddigad ydi’r enw ar lafar ym Môn ar yr eurinllys trydwll (Hypericum perforatum; Perforate St John’s Wort) ac mae gen i dystiolaeth ei bod wedi ei defnyddio yn ardal Llanfechell i dynnu’r fyddigad – sef rhywbeth fel carbwncl neu gornwyd, neu benddyn oddi ar y croen . Byddai deilen y planhigyn yn cael ei rhoi mewn llefrith i g’nesu ac yna ochr isaf y ddeilen yn cael ei gosod ar y fyddigad ar y croen. Mi fyddai’r gôr yn dod allan o’r fyddigad wedyn.

Roedd yr enw dail y fyddigad wedi fy nghyfareddu i’n llwyr ac mi es i chwilio am ei ystyr yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru. Yno, dan ‘fyddigad’ mi welwch “bendigaid – y fendigaid”. Felly rydw i’n cymryd mai llygriad ydi’r enw o “dail y fendigaid”.

Mae yna nifer o wahanol blanhigion yn perthyn i deulu’r eurinllys (Clusiacae) ac aelod arall ydi rhosyn Saron (Hypericum calycinum). Mi fydd rhai aelodau o’r teulu yma yn cael eu tyfu yn ein gerddi.

Blodyn arall sy’n eithaf cyffredin yn yr ardd ydi mantell Fair (Alchemilla mollis; Lady’s mantle). Mae hwn fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar hyd ochrau llwybrau neu forderi a gan fod y dail yn lled fawr, mae’n planhigyn defnyddiol dros ben i atal chwyn. Mae’r dail hefyd yn dal diferion gwlith a glaw arnyn nhw nes eu bod yn sgleinio pan fydd yr haul yn ymddangos. Roedd y dail yn arfer cael eu defnyddio i’w rhoi yn y gwely i gadw chwain draw.


Abraham-Isaac-Jacob ydi enw arall sy’n fy nghyfareddu. Trachystemon  orientalis ydi ei enw gwyddonol ac mae’n perthyn i’r teulu Boraginaceae, sef teulu tafod yr ych.

Llysiau Solomon neu dagrau Job ydi un arall. Polygonatum multiflorum ydi ei enw gwyddonol a rhai o’i enwau Saesneg ydi Solomon’s seal, David’s Harp, a ladder to heaven. Mae ‘na flodau bach gwyn yn disgyn o’r gesail hefo’r dail ar hwn ac mae’n un tlws iawn i’w gael yn yr ardd.

Os trowch chi i dir anial, mi ddowch ar draws ysgol Crist neu’r ganrhi goch (Centaurium erythrea; Common Centuary) sy’n flodyn bach hynod o ddel hefo petalau pinc ar waethaf yr enw – y ganrhi goch. Roedd ‘na gred erstalwm fod can rhinwedd yn y planhigyn hwn.


Planhigyn arall a’r enw Crist yn rhan ohono ydi Llysiau Crist, sef Polygala vulgaris a Common Milkwort yn Saesneg.

Llygad Crist ydi enw arall ar yr effros (Euphrasia nemorosa; Eyebright) sy’n blodeuo ar hyn o bryd. Os ewch chi draw i dwyni tywod, mae digon ohono i’w weld yn y pantiau ar hyn o bryd – yn gymysg hefo’r gruw fel rheol ac yn llunio cwrlid lliwgar digon o ryfeddod.

Enw Beiblaidd arall sy’n syndod o gyffredin ar blanhigion ydi Iago. Un enghraifft ydi llysiau Iago neu creulys Iago (Senecio jacobaea; Common Ragwort). Mae hwn eto yn ei flodau rŵan ac mi welwch chi o ar ochr y ffordd neu ar dir anial fel rheol ac mae’n wenwynig i anifeiliaid. Fel rheol hefyd mi fydd lindys gwyfyn y creulys yn bwydo arno.


Dyna i chi rai planhigion ag enwau Beiblaidd arnyn nhw, ac os gwyddoch chi am ragor, beth am eu rhannu hefo ni? A gorau oll os oes gennych chi luniau!


No comments:

Post a Comment