Monday 4 July 2016


Ail Natur 117                                         6 Gorffennaf 2016



Diolch yn fawr iawn i Rhoda Bramhall, Rhuthun am ei llun hyfryd o’r wisteria wych sydd ganddi ar dalcen y tŷ ac i Edwyn Ellis, Dulas am anfon y penillion hyfryd  o enwau’r ffermydd godre’r  Eifl. Dwi bron yn siŵr fod Percy Hughes wedi ysgrifennu rhai i ardal Llanddyfnan hefyd – mi fydd yn rhaid i mi fynd i chwilio amdanyn nhw. Tybed oes ‘na rai mewn ardaloedd eraill yng Nghymru? Os oes, beth am eu rhannu hefo ni a tybed oes modd cael ambell lun hefyd i roi’r penillion yn eu cyd-destun?



Wn i ddim faint o le sydd gennych chi yn eich gardd - mae gen i lawer gormod pan fydd angen torri’r gwair a chwynnu! Ond os mai ychydig o le sydd gennych yn eich gardd, un syniad da y clywais i amdano’n ddiweddar  gan y Cymdeithas Gwarchod Glöynnod Byw (Butterfly Conservation) ydi plannu llond pot o flodau er mwyn denu peillwyr fel glöynnod byw i’ch gardd.



Mae glöynnod a gwyfynod yn perthyn i grŵp o dros 1500 o rywogaethau sy’n peillio ein blodau gwyllt a’n cnydau. Mae’r rhain yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu bwyd ond mae eu niferoedd yn gostwng oherwydd newid yn yr hinsawdd, colli cynefin a ffermio dwys. Os ydi peillwyr fel y glöynnod byw, gwyfynod, pryfed hofran, gwenyn a chwilod yn dal i ddiflannu, mi allai fod yn dominô ar ein blodau, ein hanifeiliaid ac arnom ninnau hefyd.



A dyna pam mae’r Gymdeithas yn gofyn i chi blannu planhigion yn yr ardd sy’n denu peillwyr neu blannu llond pot o blanhigion sy’n llawn neithdar wrth y drws. Y neithdar ydi’r tanwydd sydd ei angen ar y trychfilod yma i’w galluogi i ddal i hedfan a pheillio ein cnydau a’n blodau.



Rhai o’r blodau y medrwch chi eu defnyddio ydi mintys y creigiau neu’r penrhudd (Origanum vulgare; Wild Marjoram), cosmos Mecsico (Cosmos bipinnatus; Mexican aster), mintys y gath (Nepeta cataria; Catmint), mynawyd y bugail neu big-yr-aran (Geranium; Cranesbill) – mae digonedd o ddewis o’r rhain o bob lliw ac maen nhw’n sobor o ddidrafferth, y llygad llo mwyaf (Leucanthemum x superbum; Shasta Daisy), seren danbaid (Liatris spicata; Gayfeather), a chlust yr oen (Stachys byzantina; Lamb’s Ear). Yn ddiddorol iawn, mae nifer o’r planhigion yma’n perthyn i deulu’r farddanhadlen (Lamiaceae) sef y teulu mae’r mintys yn perthyn iddo ac mae llawer o’r aelodau hefyd yn blanhigion meddyginiaethol.
Cosmos Mecsico - Llun Freia Turland, Butterfly Conservation




Yn ôl y Gymdeithas mae’n hawdd iawn tyfu’r rhain i gyd, ac mi ddôn nhw â lliw a llun, a glöynnod byw, gobeithio, at garreg eich drws!



Ella i chi gofio i mi ymweld â Portmeirion rai wythnosau yn ôl, ac ar ôl cerdded o gwmpas yn edmygu’r Gwyllt, penderfynu mynd i gael tamaid o ginio. A dyma eistedd yn yr haul wrth hen Neuadd y Dref yn mwynhau ein cinio. Er mawr syndod i mi, beth ddaeth i rannu’r pryd ond adar powld! Roeddwn i wedi dotio eu gweld mor eofn ac mi gawsom gwmni y titw mawr hefo’n cinio.

 Y titw mawr powld!




A sôn am adar mae ‘na amcangyfrif fod dros ddwy fil o balod yn nythu ar Ynys Fidra yn Aber Gweryd (Firth of Forth) eleni yn dilyn blynyddoedd o gael gwared â phlanhigyn ymledol o’r ynys. Mi synnais o ddeall mai’r hocyswydden neu ddail rhocos (Lavatera arborea; Tree mallow) oedd y planhigyn yma. Mae’r ynys yn warchodfa gan Gymdeithas Gwarchod Adar yr Alban ac mae’n bur debyg mai ceidwad y goleudy oedd yn gyfrifol am blannu’r dail rhocos yno tua dechrau’r ddeunawfed ganrif, a hynny am fod gan y planhigyn rinweddau meddyginiaethol ond yn bwysicach na hynny, roedd yn cael ei ddefnyddio fel papur toiled.
Hocyswydden neu ddail rhocos



Wel, doeddwn i erioed wedi clywed am y fath ddefnydd i’r planhigyn. Tybed pa blanhigyn eraill sydd wedi eu defnyddio i’r un diben? Byddai’n hynod o ddiddorol clywed gennych.


No comments:

Post a Comment