Yr Herald Cymraeg - Ail Natur 116 22
Mehefin 2016
Diolch yn fawr i Rhian Jones am anfon dywediadau ei thad, Ieuan Jones,
Rhosfawr, Pwllheli ac o Rydyclafdy, am y ddraenen ddu a’r ddraenen wen, ac am
eu hegluro i ni. Diolch hefyd am y cwpled :
“Os deilia’r dderwen o flaen yr ynn
Gwerth dy ddafad a phryn fyn.”
Diolch yn fawr iawn i Gwyn Roberts, Penysarn am anfon lluniau o fwyeilch
atom; rydach chi’n gwbl gywir – mae’r iâr fymryn yn fwy brown na’r ceiliog sy’n
hynod o smart yn eu ddu a’r lliw aur hyfryd ar ei big.
Efallai eich bod yn cofio i mi sôn am y daith wych gefais i yng Nghwmni
Seimon, Myfyr a Morus ar lethrau Cader Idris – ia, dyna oedd penderfyniad pwyllgor
Parc Cenedlaethol Eryri, ei alw’n Cader Idris. A diolch i Morwenna Williams a
Glyn Thomas am eu llythyrau am y gog. Pleser ydi ei chlywed bob blwyddyn ac
roeddwn i mor falch o fod wedi ei chlywed yn rantio ar lethrau Cader Idris.
Diolch i Emrys Llewelyn, Caernarfon am ei lun o’r ‘gwylanod yn cael sgram’!
A diolch i Rhoda Bramhall, Rhuthun am rannu mannau sy’n agos at ei chalon hefo
ni, sef Sycharth, Eglwys Sant Dogfan, Llanrhaeadr ym Mochnant a Chapel
Pontrobert. Dwi erioed wedi bod yn Sycharth ac mi leciwn i fynd yno – cyn
diwedd yr haf ella!
Cefais
ymholiad yn ddiweddar yn holi beth oedd ‘deilen sawdl y diafol’. Mae’r
cyfeiriad yn Gwen Tomos, Daniel Owen lle mae Nansi’r Nant yn dweud wrth Harri,
“petaet ti’n rhoi’r ddeilen yma o fewn
modfedd i dy drwyn, fe fyddi di’n marw. Fyddai dim ond rhaid i mi yrru’r
ddeilen yma mewn llythyr i – mi wyddost pwy – ag iddo fo ei harogli, fe fyddai’n
cicio’r bwced yn syth.” Doedd gen i ddim syniad yn y byd be oedd y ddeilen
y cyfeirir ati ac felly dyma holi rhai o fy nghyfeillion sy’n fwy gwybodus na
fi, a doedden nhw ddim yn gwybod chwaith! Felly, dyma droi at ddarllenwyr
gwybodus yr Herald Cymraeg. Oes rhywun ŵyr?
Diolch
i Edwyn Ellis, Dulas am ei lythyr diddorol am y robin pen grynu (Briza media; Quaking grass). Mae sawl
enw Cymraeg ar hwn gan gynnwys arian byw, dail crynu, eigryn, gwenith yr
ysgyfarnog, hadau sgwarnog, robin grynwr ac ŷd Sant Pedr. Mi fydda i wrth fy
modd hefo fo ac mae’n dda gen i ddweud fod ‘na dipyn ohono yng Nghors Bodeilio
sydd ar gyrion y Talwrn, ac yn un o warchodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Wn
i ddim os ydach chi, fel fi, yn gwirioni ar arogl gwair newydd ei dorri? Be
sy’n well ar noson o haf na phan fydd grwnian y peiriannau torri gwair wedi
darfod ac mae awel y nos yn llawn o’r arogl meddwol o wair newydd ei dorri?
Perwellt y gwanwyn (Anthoxanthum odoratum;
Sweet vernal grass) ydi’r gweiryn sy’n gyfrifol am hwn. Mae o’n un o’r gweiriau
sy’n blodeuo gynharaf yng Nghymru ac, fel llawer o’r gweiriau, yn blanhigyn
eithaf disylw. Blodau bach melyn golau iawn sydd ganddo, ond yr arogl mwyaf
hudolus. Mae rhannau benywaidd y blodyn yn datblygu o flaen y paill, sef y
rhannau gwrywaidd.
Cwmarin ydi’r cemegyn sy’n gyfrifol am yr arogl
peraidd yma ac mae o i’w gael hefyd mewn erwain neu frenhines y weirglodd, ac
yn y briwydd bêr (Galium odoratum;
sweet woodruff) ac oes, mae arogl da arnyn nhw. Mae ffwng yn medru troi cwmarin
i dicoumarol, sydd yn wrthgeulydd gwenwynig. Mae warffarin, sy’n wrthgeulydd,
wedi ei baratoi o dicoumarol, ac mae warffarin wedi ei ddefnyddio i ladd llygod
mawr ac i atal thrombosis. Diddorol ynte?
No comments:
Post a Comment