Y Paun
Trip yr Ysgol Sul oedd hi a ninnau wedi mynd
i’r Gelli Gyffwrdd i’r plant gael diwrnod o hwyl. Roedd hi’n ddiwrnod godidog o
braf (do, dan ni wedi cael rhai o’r rheini!) yn nechrau Mehefin a phawb mewn
hwyliau da. Roedd yr hen blant wedi rhuthro yma ac acw ar y gwahanol bethau,
a’r rhieni a’r teidiau a’r neiniau yn bustachu ar eu hôl hefo diodydd ac eli
haul a phopeth arall sydd ei angen ar blant y dyddia yma.
Roedd hi’n flynyddoedd ers i mi fod yn y
Gelli Gyffwrdd ar gyrion Bethel ac roeddwn i wedi fy synnu’n fawr hefo’r holl
newidiadau oedd wedi digwydd yna ers y tro dwytha i mi fod yno. Beth bynnag,
wedi tro bach o amgylch dyma eistedd wrth fyrddau picnic yng nghysgod coed a
chael paned a rhywbeth i’w fwyta. A dyna lle roeddem ni yn rhoi’r byd yn ei le
pan wnaeth o ymddangos, a cherdded yn dalog tuag atom.
Y fo oedd bia’r lle – roedd hynny’n gwbl
amlwg a dim ond cael ein dioddef yno roeddem ni. Roedd o’n smart ac yn swnllyd,
a dwi ddim yn meddwl mod i wedi bod mor agos at baun mor swnllyd erioed o’r
blaen.
Roeddwn i’n dotio at y ffordd roedd o’n
troedio’n ofalus i chwilio am ei fwyd, ac mi fues i a sawl un arall, yn disgwyl
am hydoedd iddo agor ei gynffon. Ond pan wnaeth o, roedd o’n odidog. Roedd
gweld ei gynffon yn agor allan a’r symudliw gwyrdd a glas yn cymryd gwynt
rhywun. Y ceiliog, y paun, sydd â lliwiau gwych yma, mae’r beunes yn llawer mwy
syber.
Aderyn o gyfandir Asia ac Affrica ydi’r paun
ac mae pwrpas y gynffon enfawr yma a’r symudliw gogoneddus wedi bod yn destun
cryn drafod dros y blynyddoedd. Mi awgrymodd Charles Darwin mai’r pwrpas oedd
denu’r ieir a bod y nodweddion coegwych yma wedi esblygu am fod yr ieir yn
dewis y ceiliogod oedd yn dangos eu hunain fwyaf. Yn fwy diweddar mae ‘na
theori fod y gynffon anferthol yma yn dangos ffitrwydd y ceiliog am fod yn rhai
bod yn eithaf cryf a ffit i fedru dal ac arddangos y fath nodweddion.
Y
paun o’r India sydd â’r plu symudliw glas a gwyrdd ac mae’r gynffon hefo’r
llygaid ar eu blaenau sydd ddim ond i’w gweld yn glir pan fydd y paun yn agor
ac yn arddangos ei gynffon. Mae’r iâr a’r ceiliog hefo crib ar eu pen, ond ryw
gymysgedd o lwyd, brown ac ychydig o wyrdd ydi’r iâr. Mae hithau’n arddangos ei
phlu i gadw ieir eraill draw neu i roi arwydd i’w chywion fod perygl gerllaw.
Ryw liw gwyn budr ydi’r cywion.
Nodwedd o’r enw lliwiad ffurfiannol (structural
coloration) sy’n gyfrifol am y lliwiau
gwych sydd gan y paun. Brown ydi lliw plu’r gynffon ond mae eu strwythur microsgopig
yn ymyrryd â golau y gallwn ni ei weld a dyma sy’n gwneud iddyn nhw adlewyrchu
golau glas, gwyrddlas a gwyrdd, ac mae ’na symudliw yna.
Robert Hooke ac Isaac Newton oedd y ddau gyntaf i sylwi
ar liwiad ffurfiannol a’r hyn oedd yn ei achosi sef ymyriant tonnau (wave interference)
ac fe eglurodd Thomas Young beth oedd symudliw. Fe’i disgrifiodd fel canlyniad
i ymyriad rhwng dau neu ragor o adlewyrchiadau o ddau neu ragor o arwynebau o
ffilmiau tenau, wedi’i gyfuno â phlygiant wrth i’r golau
gyrraedd a gadael ffilmiau o’r fath. Felly, os dwi wedi dallt yn iawn, geometreg
sy’n penderfynu mai ar rai onglau fod golau sy’n cael ei adlewyrchu o ddau
arwyneb yn ymyriant adeiladol, ac ar onglau eraill mae’n ymyriant dinistriol,
ac felly’n achosi i wahanol liwiau ymddangos ar onglau gwahanol.
Mae’r ffenomenon yma i’w weld hefyd yn lliwiau hyfryd
adenydd gloÿnnod byw ond maen siŵr mai yng nghynffon liwgar, fawreddog y paun
mae o’n fwyaf trawiadol. Ac oedd, mi roedd o’n werth ei weld ac yn un peth
arall wnaeth ychwanegu at ddiwrnod ardderchog.
No comments:
Post a Comment