Monday 12 December 2016


Ail Natur 122                                         7 Rhagfyr 2016



Diddorol iawn oedd llythyr John Ellis Jones, Hen Golwyn am y cais i gael gelod yn 1948 ac roedd hanes y defnydd o gelod, Hirundo medicinalis, yn yr erthygl o’r Pharmaceutical Journal 1994 yn ddifyr iawn, iawn. Mi es i chwilio ar y We i weld fedrwn i ddysgu rhywbeth am Biopharm a hyd y medra i weld maen nhw’n dal mewn busnes ac mae’r brif swyddfa yn dal i fod yn ardal Abertawe er fod ganddynt swyddfeydd mewn sawl lle dros y byd erbyn hyn.



Diolch hefyd i Morwenna Williams, Pentraeth am y dywediadau am y tywydd. Tybed sut byddwch chi’n darogan eira? Fydd hi’n Nadolig gwyn eleni?



Diolch yn fawr i Irene Williams, Cerrigceinwen am y llun o’r draenog a welodd yn yr ardd ar 26 Hydref eleni. Roeddech chi’n holi “Oni ddylai fod yn cysgu erbyn hyn?” Dim o anghenraid. Mae draenogod yn gaeafgysgu wrth gwrs, ond os ydi’r tywydd wedi bod yn ddigon cynnes ac fod digon o fwyd o gwmpas, yna mi all fod yn fis Tachwedd arnyn nhw’n mynd i gysgu. Y sbardun iddyn nhw fynd i chwilio am rywle clyd dros y gaeaf ydi’r tymheredd yn gostwng, ond hyd yn oed yng nghanol y gaeaf os cawn ni ambell i ddiwrnod go gynnes, mi allan nhw godi am ychydig a chwilio am fwyd. Dydi draenogod yng Ngogledd yr Affrig (Atelerix algirus)  ddim yn cysgu dros y gaeaf am fod digon o fwyd ar gael yno. Ond yma, ble mae’n oerach ac mae prinder bwyd, mi fydd y draenog yn adeiladu nyth iddo’i hun ac yn gaeafgysgu tan tua mis Ebrill pan fydd y tywydd yn dechrau cynhesu unwaith eto. Yn ystod y cyfnod yma, mi fydd ei dymheredd yn disgyn o 35 gradd Celsius i 15-20 gradd Celsius, ac mi fydd curiad y galon yn disgyn o 250 o guriadau y funud i 10 curiad y funud.

Tybed fyddwch chi’n mentro allan i dynnu lluniau yr adeg hon o’r flwyddyn? Mae’r gwahanol batrymau wneir gan farrug, rhew ac eira ar blanhigion a choed yn gallu bod yn eithriadol o hardd. Os byddwch chi’n tynnu lluniau, beth am eu rhannu â ni?

Mewn blwyddyn heb lawer o oleuni ynddi hi, mi ges i lygedyn bach o obaith yn ddiweddar a hynny gan y Gymdeithas Gwarchod Adar yng Nghymru. O’r diwedd, ar ôl blynyddoedd o waith cadwriaethol caled, cyhoeddodd y Gymdeithas bod aderyn y bwn (Botaurus stellaris; Bittern) wedi nythu ar Gors Ddyga neu Gors Malltraeth ym Môn yn ystod yr haf diwethaf - y tro cyntaf yng Nghymru mewn 32 o flynyddoedd.

Dydi’r aderyn yma ddim yn hawdd ei weld ac er ei fod o wedi bod ar Gors Ddyga ers rhai blynyddoedd, eleni mae o wedi magu. Mae’r ffordd mae’r gors yn cael ei rheoli yn golygu fod y cynefin yma nid yn unig yn dda ar gyfer aderyn y bwn ond hefyd ar gyfer nifer o rywogaethau bregus fel llygod y dŵr, telor y gwair a dyfrgwn, ac unwaith eto, mae’r rhain yn ffynnu yma hefyd.

Mae’n anodd gweld aderyn y bwn yn symud yn dawel drwy’r hesg ar lan y dŵr yn chwilio am bysgod. Fodd bynnag, yn y gwanwyn mae'r gwrywod yn enwog am eu sŵn uchel wrth iddynt ddenu cymar.



Gan fod yr aderyn yn un mor anodd ei weld bu’n rhaid i swyddogion y Gymdeithas Gwarchod Adar fod allan yn gynnar yn y bore ac yn hwyr gyda’r nos i geisio cadarnhau fod yr aderyn yn nythu yno. Mae aderyn y bwn yn hoff iawn o amgylchedd tawel a llonydd wrth fridio, ac felly roedd Cors Ddyga yn cynnig cynefin sydd bron yn berffaith iddo.



Gobeithio’n fawr y bydd yn para i nythu ar y gors am flynyddoedd i ddod.










No comments:

Post a Comment