Wednesday 21 December 2016


Burton Mere

Ddechrau mis Rhagfyr, mi ges i’r cyfle i fynd draw i warchodfa’r Gymdeithas Gwarchod Adar yn Burton Mere hefo criw Galwad Cynnar. Mae’r warchodfa natur hon ar yr Afon Ddyfrdwy ac yn croesi’r ffin rhwng Sir y Fflint a Swydd Gaer. Rydach chi’n cyrraedd yna o ochr Lloegr ac yn dilyn y ffordd i gyfeiriad pentref bach Burton a dal i ddilyn yr arwyddion nes y dowch chi i’r warchodfa.

Mi ges fy siomi ar yr ochr orau wrth gerdded i lawr tuag at y dderbynfa o weld adeilad mor nobl yno. Rydach chi’n mynd i fewn drwy’r cefn ac mae ffenestri mawr yn eich wynebu sy’n edrych dros y warchodfa ac i gyfeiriad y Ddyfrdwy a Sir y Fflint. Roedd ‘na hefyd stof yn cynhesu’r lle – rhywbeth oedd yn cael ei werthfawrogi’n fawr ar fore oer, ac roedd paned a mins peis yno!

Fe brynodd y Gymdeithas y tir ar lannau’r Ddyfrdwy yn 1986, ac mae’n gymysgedd o wlypdir, coed a chaeau âr. Agorwyd y warchodfa yn 1992 a chreu tri phwll bas a llwybrau yn arwain i’r cuddfannau sy’n edrych dros y pyllau. Ers hynny, prynwyd rhagor o dir ac fe agorwyd y warchodfa fel ag y mae hi heddiw gan Iolo Williams yn 2011.

Inner Marsh Farm ydi’r enw ar y darn yma o dir ac mae’r enw’n dweud y cyfan mewn gwirionedd am y cynefin.  Roedd yn arfer bod yn ddarn mwdlyd lle roedd y llanw’n ei gyrraedd tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd ei adfer wrth adeiladu’r rheilffordd o Wrecsam i Bidston, a defnyddiwyd y tir wedyn i bori, saethu hwyaid a ffermio, gan dyfu cnydau yn bennaf.  


Roedd yn braf cerdded ar hyd y llwybrau ac mae amrywiaeth o rydwyr i’w gweld yma drwy’r gaeaf ac yn ystod y tymhorau mudo. Mae nifer helaeth o’r rhostog gynffonddu (Limosa limosa; black-tailed godwit), y pibydd coesgoch mannog (Tringa erythropus; spotted redshank), y pibydd coeswyrdd (greenshank) a’r pibydd torchog (ruff).

Yn y gaeaf mae llawer o hwyaid i’w gweld yma gan gynnwys yr hwyaden lostfain ((Anas acuta; pintail), yr hwyaden lydanbig (Spatula clypeata; shoveller), y gorhwyaden (teal) a’r chwiwell (widgeon), a niferoedd bach o elyrch Bewick ac elyrch y Gogledd. Uwchben y gors mi fedrwch weld adar ysglyfaethus yn hela gan gynnwys y dylluan glustiog, y boda tinwyn, boda’r gwerni, y cudyll bach, y cudyll coch a’r hebog tramor.


Mae nifer o adar yn nythu yma, rhai fel y gornchwiglen a’r pibydd coesgoch. Mae’r cambig (Recurvirostra avosetta; Avocet) hefyd yn nythu ar y pyllau newydd sydd yma.

Ond yr hyn dynnodd fy sylw i yn anad dim oedd y gwlâu o’r gorsen ysig (Typha latifolia; Reedmace) oedd yn tyfu o boptu’r llwybr ar un rhan o’r warchodfa. Mae ‘na sawl enw Cymraeg ar y gorsen gan gynnwys cynffon y gath, ffon y plant, ffynwewyr ellyllon, hesgen felfedog fwyaf, penmelfed a tapr y dŵr. Mae nifer o’r enwau yn disgrifio pen y planhigyn pan fydd y pen o hadau yn ffurfio ac yn creu pen sy’n debyg i rolbren bach o hadau. Wrth i’r rhain aeddfedu, ac mi gymer tua blwyddyn iddyn nhw wneud hynny, mae’r pen yn datod yn raddol a’r hadau’n cael eu rhyddhau ar y gwynt.


Mi fedrwch chi hefyd fwyta darnau o’r coesau ifanc a’r gwreiddiau ifanc, ir ac mae blas melys arnyn nhw. Mae’r hadau’n fwytadwy ac mae blas fel cnau arnyn nhw, ond mae’n goblyn o job eu tynnu nhw’n rhydd o’r holl flewiach meddal sydd o’u cwmpas nhw! Mae defnydd wedi’i wneud o’r gwreiddiau fel powltris ar gyfer penddyn, llosg a chlwyfau.

Mae mamaliaid fel llygoden bengron y dŵr a llygoden yr ŷd yn cael cartref yma ac ystlum y dŵr (Myotis daubentonii; Daubenton’s bat) sy’n bwydo uwchben y dŵr.

Mi ges i amser gwerth chweil yno, ac rydw i’n edrych ymlaen at gael dod yn ôl yn yr haf tro nesa er mwyn cael gweld rhai o’r blodau sydd â’u cynefin yma.



Darlledir rhaglen Galwad Cynnar o Burton Mere ar Radio Cymru fore Sadwrn, 21ain Ionawr 2017.


No comments:

Post a Comment