Wednesday 21 December 2016


Clust yr Iddew

‘Radeg yma o’r flwyddyn, os lapiwch chi amdanoch yn gynnes, a mynd allan i gerdded mewn coedlannau, neu ambell dro ar goed ochr y ffordd hyd yn oed, mi welwch rywbeth sy’n edrych fel rwber yn tyfu ar y coed, yn felfedaidd frown ac sy’n edrych yn debyg i glust. Ffwng ydi o a clust yr Iddew (Auricularia auricula-judae; Jew’s ear neu Jelly ear fungus) ydi ei enw.


Fel arfer mae ‘na nifer yn tyfu hefo’i gilydd ar goeden ac mi fyddan tua modfedd neu ddwy ar draws ond mi allan fod cyn gymaint â phedair modfedd o hyd. Mae’r siâp yn gwbl nodweddiadol ac yn edrych naill ai fel clust neu fel cwpan, ac mae un ochr wedi glynu’n sownd wrth y goeden. Wrth i chi gyffwrdd ynddo mae teimlad gelatinaidd iddo, fel lastig bron ond os bydd yn sych, mae’n troi’n galed. Fel arfer lliw brown neu gochlyd hefo argoel o borffor sydd ynddo ond yn aml iawn mae blew bychan bach yn ei orchuddio sy’n rhoi mymryn o liw llwyd iddo ac yn gwneud iddo edrych yn felfedaidd. Mae ‘na nifer o rychau arno hefyd.


Mae’n cael yr enw clust yr Iddew ar ôl Jwdas Iscariot yn y Beibl. Mae sôn fod Jwdas wedi crogi ei hun ar goeden ysgawen wedi iddo fradychu Iesu Grist, a’r chwedl oedd mai ysbryd Jwdas yn ailymddangos oedd y ffwng yma. Judas’s Ear oedd yr enw cyffredin arno yn Saesneg tan ddiwedd y pedwaredd ganrif ar bymtheg pan gafodd ei fyrhau i Jew’s Ear. Fe geisiwyd newid yr enw eto i Jelly Ear, ond rywsut dydi hwnnw ddim i weld fel tasa fo wedi cydio.

Mi fedrwch chi fwyta’r ffwng ond does ‘na ddim ryw lawer o flas arno, medda nhw i mi ond ei fod o braidd fel bwyta rwber. Dydw i erioed wedi trio ei fwyta fy hun a rywsut dwi ddim yn meddwl y gwna i chwaith!

Mae’r madarch yma’n boblogaidd iawn yn Tsieina, ble maen nhw’n ei ddefnyddio i baratoi cawl sy’n cynnwys y ffwng, cyw iâr a sinsir ymysg cynhwysion eraill er mwyn trin anwyd a thwymyn. Mae tystiolaeth ei fod wedi ei dyfu yn Tsieina ganrifoedd yn ôl i’r union berwyl yma.  

Defnyddiwyd clust yr Iddew yn feddyginiaethol gan sawl doctor dail dros y canrifoedd. Roedd yn arfer cael ei ddefnyddio i wneud powltris os oedd llid ar y llygad ac ar gyfer dolur gwddw. Maen debyg fod John Gerard, y meddyg o oes Elizabeth I a ysgrifennodd Historie of Plants, yn argymell defnyddio clust yr Iddew. Roedd angen berwi’r madarch mewn llefrith neu eu gadael i fwydo mewn cwrw dros nos a dylid yfed hwn yn araf i gael gwared â dolur gwddw,

Fe wnaeth John Pechey, meddyg llysiau arall o’r ail ganrif ar bymtheg, nodi y byddai clust yr Iddew yn cadw’n iawn am flwyddyn unwaith roedd wedi cael ei sychu, ac roedd yn ei argymell naill ai wedi ei ferwi mewn llefrith neu wedi ei fwydo mewn finegr i garglo er mwyn cael gwared â haint o’r geg a’r trwyn.  

Mae’n debyg fod clust yr Iddew hefyd wedi ei ddefnyddio fel trwyth tynhaol neu styptig am ei fod yn gallu amsugno dŵr. Mae tystiolaeth iddo gael ei ddefnyddio at y clefyd melyn yn yr Iwerddon. Yn rhyfeddol, roedd o’n dal i gael ei werthu yn Covent Garden tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae adroddiad o Ghana mor ddiweddar â 2005 wedi nodi ei fod yn cael ei ddefnyddio yno fel tonig. Mi fyddai’n ddifyr iawn clywed os oes rhywun naill ai wedi’i fwyta neu wedi ei ddefnyddio’n feddyginiaethol.

Os ydach chi eisiau mynd i chwilio am glust yr Iddew, yr ysgawen ydi’r goeden i chwilio amdani ac mae’n bur debyg y bydd y ffwng yn tyfu ar ddarn o’r goeden sydd heb risgl ac yn amlach na pheidio mi welwch chi nhw yn tyfu naill ai mewn rhes neu mewn clwstwr.



No comments:

Post a Comment