Monday 12 December 2016


Morgrug: yr ateb i ddiffyg gwrthfiotigau?                                         23ain Tachwedd 2016

Mae morgrug yn anifeiliaid sydd wedi fy rhyfeddu i erioed ac maen nhw’n dal i wneud hynny. Maen nhw’n perthyn i ddosbarth mawr y Trychfilod (yr Insecta) ac i urdd yr Hymenoptera - yr un urdd ag y mae’r gwenyn, gwenyn meirch a’r morgrug gwyn yn perthyn iddo. Maen nhw’n bryfaid cymdeithasol ac yn trefnu eu hunain mewn ffordd arbennig o fewn eu trefedigaethau.

Fel arfer mae tri gwahanol fath o unigolyn mewn nyth. Y frenhines ydi’r mwyaf yn y nyth, ac mae ganddi hi ddau bâr o adenydd. Y rhai lleiaf ydi’r gwrywod ac mae ganddyn nhw hefyd adenydd; mae’r gweddill i gyd yn weithwyr a does ganddyn nhw ddim adenydd.

Mi fydda i ar fy nghynefin a gweld morgrug yn ystod yr haf yn yr ardd ond mae gwahanol forgrug i’w canfod ym mhob rhan o’r byd bron. Mae un math wedi tynnu sylw gwyddonwyr yn ddiweddar, sef y morgrug sy’n ffermio ffwng fel bwyd ac mae’r rhain yn byw mewn ardaloedd trofannol yng Ngogledd a De America. Mi gychwynnodd morgrug wneud hyn tua 15 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac maen nhw wedi bod yn hynod o lwyddiannus, ac erbyn hyn mae ‘na dros 200 o rywogaethau o forgrug sy’n ffermio ffwng.

Mae’r morgrug yma yn chwilota am blanhigion, yn torri darnau o’r dail, yn eu cario yn ôl i’r nyth ac yn bwydo’r dail i’r ffwng.  Yn eu tro, mae'r ffwng yn eu torri nhw i lawr er mwyn i’r morgrug allu eu bwyta yn haws. Mae’n enghraifft o gydymddibyniaeth rhwng y morgrug a’r ffwng: mae angen y naill ar y llall.

Mae’r ffordd mae’r morgrug yn gofalu am eu gardd ffwng a’r ffordd maen nhw’n cael gwared â gwastraff yn rhyfeddol ac mae gan wahanol aelodau o’r nyth waith penodol i’w wneud.  Y gweithwyr sy’n cario’r gwastraff a’r rhai sy’n gweithio ar y domen ydi’r gweithwyr hŷn yn y nyth, a’r oedolion ieuengach, iachach ydi’r rhai sy’n tendiad yr ardd ffwng. Fel arfer, mae’r domen y tu allan i’r nyth. Unwaith mae’r gwastraff wedi’i ollwng ar y domen, mae’r hen weithwyr yma yn ei symud o gwmpas er mwyn sicrhau ei fod yn pydru’n iawn.

Ond mae ‘na fwy na hyn i’r stori. Mae’r gwyddonwyr wedi darganfod fod ffwng diarth yn ymosod ar y nythod ambell dro ac yn lladd y ffwng a’r nyth. Mae ‘na bartner arall yn y stori yma, sef bacteria sy’n tyfu ar y morgrug ac yn rhyddhau cemegau i ddiogelu’r nyth rhag ffyngau eraill sy’n trio difetha’r nyth. Roedd gwyddonwyr wedi sylwi fod rhai morgrug hefo darnau bach gwyn ar eu cyrff ac yn edrych fel tasa nhw wedi eu gollwng mewn siwgr. Y rhain ydi bacteria mae’r morgrug yn ei storio ar eu cyrff a’r bacteria yma sydd â’r gwrthfiotigau a gwrth-ffyngau cryf iawn. Felly mae’r morgrug yn meithrin y bacteria sy’n cynhyrchu’r rhain ac sydd, yn eu tro, yn amddiffyn y nyth.



Un peth rydan ni’n ymwybodol iawn ohono'r dyddiau yma ydi fod angen gwrthfiotigau newydd ar ddyn. Mae’n debyg fod tua 700,000 o bobl ledled y byd yn marw bob blwyddyn o haint  sy’n medru gwrthsefyll cyffuriau. Felly mae chwilio am wrthfiotigau newydd o bwys mawr i ddynoliaeth.

Gwaith ymchwil sy’n digwydd dan arweiniad yr Athro Cameron Currie ym Mhrifysgol Wisconsin-Madison ydi’r gwaith ymchwil ar y morgrug yma, a be sy’n eithriadol o bwysig i ni, ydi fod y bacteria yma yn debyg i’r rhai mae cwmnïau fferyllol yn eu defnyddio i wneud gwrthfiotigau. Mae gwyddonwyr  eisoes yn dechrau paratoi’r gwrthfiotigau yma i’w profi nhw ar anifeiliaid a gweld os ydyn nhw’n mynd i weithio ar gyfer dyn. Y gobaith ydi y byddan nhw’n medru tynnu allan y rhai gorau o’r bacteria yma a’u defnyddio nhw i wneud gwrthfiotigau newydd ar gyfer y ddynolryw.

Mae’n rhoi ystyr cyfangwbl newydd greda i, i’r adnod “cerdda at y morgrugyn tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth.”  (Diarhebion: 6, 6)    


No comments:

Post a Comment