Monday 12 December 2016


Gialipi wirion                                                                           9fed Tachwedd 2016

Cael llun wnes i gan gymydog i mi. “Be ti’n feddwl o’r rhain? Mi dynnais eu llun ddiwedd mis Medi gerllaw traeth Llanddona”.


Roeddwn i wedi dotio. Fel y gwelwch chi o’r llun, mae ‘na glwstwr ohonyn nhw yn torheulo’n braf yn haul ha bach Mihangel. Rŵan gialipi wirion faswn i’n galw’r rhain ym Môn ond mi wn fod sawl enw arall arnyn nhw. Zootoca viviparia ydi’r enw gwyddonol arnyn nhw a common lizard yn Saesneg. Madfall ydi’r enw swyddogol arnyn nhw ond mae ‘na nifer o enwau Cymraeg eraill arnyn nhw (diolch i Eiriadur yr Academi) gan gynnwys budrchwilen, genau-goeg, genau goed, genau pry’ gwirion, gialan pen wirion, gialopi wirion, galape wirion, mablath, madlath, botrywilen a motrywilen. Byddai’n ddifyr dros ben clywed be ydi’ch enw chi arni hi.

Fel y gwelwch o’r llun, mae ei lliw yn amrywio’n fawr: fel rheol ryw liw brown ydyn nhw ond gall y lliwiau fod yn felyn, du a gwyrdd - fel un o’r rhai sy’n y llun. Fel arfer hefyd mae patrwm o farciau a llinell i lawr y cefn. Mi all oedolion dyfu i tua chwe modfedd o hyd (gan gynnwys y gynffon). Mae gan y gwrywod ben mwy a chorff teneuach na’r benywod ac mae ganddyn nhw chwydd reit amlwg lle mae’r gynffon yn cysylltu â’r corff. Mae bol melyn neu oren gan y gwrywod hefo marciau duon arno ond nid oes marciau ar fol y benywod ac mae’n olau.

Mae cen ar fadfallod ac fel rheol, maen nhw’n symud yn reit gyflym os ydi rhywun yn tarfu arnyn nhw. Fel arfer maen nhw’n byw ar y llawr ond mi wnewch eu gweld yn dringo ambell dro er mwyn cyrraedd mannau heulog. Mannau agored, sych a heulog ydi’r llefydd maen nhw’n eu hoffi ond yn ddigon agos at frwgaitch y medran nhw ddengid yn reit handi i mewn i’w ganol. Torheulo ar ddarn o bren maen nhw yma ond yn ddigon agos at lystyfiant y medran nhw guddio ynddo os oes angen.

Mae’n nhw’n frodorol i Ynysoedd Prydain a thrwy ganol a gogledd Ewrop ond mae niferoedd wedi bod yn gostwng yn y deyrnas Gyfunol yn ddiweddar, felly pleser o’r mwyaf oedd gweld cymaint â chwech hefo’i gilydd. Mi gysylltais â Roy Tapping o Cofnod am y rhain ac mi ddwedodd wrtha i eu bod wedi derbyn cofnod o bron yr un llecyn tua blwyddyn yn ôl, felly maen amlwg eu bod yn lecio eu lle yma.

Eu bwyd ydi llyngyr daear (mwydod neu bry genwair), gwlithod a thrychfilod.

Maen nhw’n anifeiliaid sy’n gaeafgysgu ac mi fyddan nhw’n aml yn gaeafgysgu mewn grwpiau hefo’i gilydd. Dewis hen gerrig neu greigiau mawr y byddan nhw neu hen ddarnau o bren a swatio i lawr dros y gaeaf rhwng mis Tachwedd a mis Mawrth. Ond, os cawn ni dywydd claear neu fymryn o haul yn ystod y gaeaf mi wnawn nhw ddod allan i chwilio am fwyd.

Mi fyddan yn deffro yn gynnar yn y gwanwyn yn dibynnu ar pa mor gynnes ydi hi, ac mi fyddan yn cymharu tua mis Ebrill. Yn ystod yr haf mi fydd y benywod yn gori ar yr wyau ond eu bod yn cadw’r wyau y tu fewn i’w cyrff ac yn ‘esgor’ ar hyd at unarddeg o rai bach byw tua mis Gorffennaf neu fis Awst. Mae’r rhai ifanc yn fach iawn – yn llai na dwy fodfedd o hyd ac yn dywyllach na’r oedolion.

Mi fyddan yn treulio’r misoedd nesaf yn bwydo hynny fedran nhw ar anifeiliaid diasgwrn cefn er mwyn magu digon o fraster i’w cadw dros y gaeaf. Wrth gael gafael ar eu bwyd, er enghraifft llyngyr daear, mi fyddan yn gafael ynddo ac yn ei ysgwyd yn reit dda i’w hurtio cyn ei lyncu.
Diolch byth nad ydyn nhw’n bethau digon mawr i fwyta dynion ynte!

No comments:

Post a Comment